Blog gwadd: Joanne Phillis, rheolwr canolfan pobl ifanc Cwmbrân
Sefydlwyd Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân dros 30 mlynedd yn ôl mewn ymateb i nifer o hunanladdiadau yn yr ardal. Daeth cynghorwyr lleol ar y pryd at ei gilydd i greu man diogel lle gallai pobl ifanc gael cymorth a chefnogaeth.
Dechreuais weithio yn y ganolfan 12 mlynedd yn ôl ar brosiect a oedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Es i ymlaen i fod yn arweinydd amddiffyn a diogelu plant ar gyfer y ganolfan, yn cynnal prosiectau i bobl ifanc bregus, a dechreuais fel rheolwr y ganolfan rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Dros y blynyddoedd mae cylch gwaith y ganolfan wedi ehangu a heddiw rydym yn cynnig amrywiaeth enfawr o wasanaethau cymorth megis darpariaeth addysg, prosiectau cyflogaeth, cwnsela a chanolfan galw heibio.
Mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg fel elusen, felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'n cyllid ein hunain. Mae'r cyllid rydym yn ei dderbyn gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu trwy Gronfa Gymunedol yr Heddlu yn ein galluogi ni i gynnal sesiynau galw heibio gyda'r nos yn ystod yr wythnos. Mae angen taer am y rhain yn y dref gan fod llawer o broblemau gyda thrais ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ers dechrau Covid-19 mae'r sesiynau hyn wedi gorfod stopio, ond fel gweithwyr cymorth rydym yn brysurach nac erioed.
Mae ein staff yn cynnal gweithgareddau fel cwisiau ar-lein bob nos ac rydym wedi creu blychau gweithgareddau hefyd sydd wedi cael eu danfon â llaw i gartrefi'r bobl ifanc ac sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnynt i gwblhau'r gweithgareddau eu hunain. Er enghraifft, ar gyfer gweithgareddau coginio rydym yn darparu'r holl gynhwysion ac offer coginio sydd eu hangen arnynt i wneud rysáit yr wythnos honno.
Rydym yn dal i gynnal llawer o'r cymwysterau rydym yn eu cynnig, fel cyflogadwyedd, iechyd a diogelwch, a chymorth cyntaf. Gall pobl ifanc gwblhau'r rhain ar-lein ac mae'n golygu eu bod yn dal yn gallu cael eu tystysgrifau yn ystod y cyfyngiadau symud a fydd yn eu helpu nhw i gael gwaith yn y dyfodol.
Wrth i ni symud oddi wrth y cyfyngiadau symud, rydym yn gobeithio gallu agor yn llawn a darparu addysg a hyfforddiant yn y ganolfan eto ond, yn anffodus, ni fyddwn yn gallu cynnal ein sesiynau galw heibio gyda'r nos am gyfnod.
Serch hynny, rydym yn dal yma i'r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf. Rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o bell gyda'r rhai sydd angen y mwyaf o gymorth, fel y rhai gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol, neu'r rhai sy'n profi bywyd anodd gartref, ac ni fyddwn byth yn gwrthod rhywun os oes angen ein cymorth arnynt.