Blog gwadd: Catherine Jones, Arweinydd Rhanbarthol Gwent ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae'r swydd Arweinydd Rhanbarthol ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei hariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Fy swydd i yw trefnu gwasanaethau i gefnogi gweithgarwch diogelwch cymunedol ar draws Gwent, ar y cyd â Heddlu Gwent a'r timau diogelwch cymunedol sydd wedi eu lleoli yn y pum awdurdod lleol yng Ngwent.
Yn gweithio gydag asiantaethau partner, rwyf wedi datblygu proses i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer Gwent gyfan sy'n cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â phobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac i gefnogi dioddefwyr.
Rydym yn adolygu ein harferion a phrosesau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn barhaus i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'n cymunedau, gan gefnogi'r tramgwyddwyr hynny y mae eu troseddu'n gysylltiedig â bregusrwydd.
Mae gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd a phrosiectau eraill a ariannir gan y Comisiynydd yn galluogi'r timau i leihau problemau diogelwch cymunedol yng Ngwent trwy ymgysylltu, ymyrraeth, atal a gorfodi.
Mae holl weithgarwch y timau diogelwch cymunedol yn cael ei gefnogi gan fwrdd strategaeth rhanbarthol o'r enw Gwent Ddiogelach.
Fel Cadeirydd Grŵp Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan, ac Is-gadeirydd Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru, rwyf yn gallu rhoi cefnogaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol i swyddogion diogelwch cymunedol a phartneriaid, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwell ffyrdd o weithio yn genedlaethol.