Bil Cam-drin Domestig llywodraeth y DU – rhaid iddo adnabod plant fel dioddefwyr
Mae'n rhaid i’r Bil Cam-drin Domestig, sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd, wneud mwy i adnabod ac amddiffyn plant fel dioddefwyr trwy brosesau'r llys teulu, medd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert.
Mae'r Comisiynydd yn cefnogi diwygiadau arfaethedig i'r Bil a fyddai'n dileu'r rhagdybiaeth bod cyswllt parhaus gyda rhiant camdriniol er budd pennaf y plentyn.
Byddai hefyd yn gwahardd cyswllt heb oruchwyliaeth i riant sy'n aros am achos llys neu ar fechnïaeth am droseddau cam-drin domestig, neu lle mae achos llys am gam-drin domestig yn mynd rhagddo.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn llwyr gefnogi'r diwygiadau arfaethedig hyn i’r Bil Cam-drin Domestig a fydd yn ceisio dirwyn i ben sefyllfa sy'n aml yn trin cam-drin domestig yn y cartref fel mater ar wahân i ddiogelwch a lles plentyn.
"Rydym yn gwybod bod tyfu i fyny mewn cartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn gallu niweidio iechyd meddwl plentyn ac, mewn rhai achosion, gwneud plentyn yn fwy tebygol o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Nid yn unig byddai’r mesurau newydd hyn yn cadw plant yn ddiogel, byddant yn helpu i amddiffyn goroeswyr, sy'n aml yn cael eu gorfodi i gadw mewn cysylltiad â'u camdriniwr i hwyluso cyswllt y camdriniwr gyda'u plentyn.
"Rydym yn ystyried plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn broblem ddifrifol iawn a Heddlu Gwent yw'r unig lu yng Nghymru lle mae Ymgyrch Encompass wedi'i hymgorffori ar draws y sefydliad cyfan. Rydym ar fin dechrau adolygiad manwl o'r cymorth sydd ar gael i blant sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig hefyd."
Mae'r Bil yn cael ei archwilio yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.