Barnardo’s Cymru i dderbyn cyllid ychwanegol i barhau ei ddull teulu cyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestigc
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cyhoeddiad Y Swyddfa Gartref bod Barnardo’s Cymru i dderbyn cyllid ychwanegol i barhau ei ddull teulu cyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig.
Bydd grant o £640,000 yn ariannu'r prosiect Agor Drysau Caeedig am y 12 mis nesaf. Mae'r prosiect wedi rhoi cymorth i 261 o deuluoedd ers iddo ddechrau fis Mawrth diwethaf gyda £950,000 o gyllid gan Y Swyddfa Gartref. Bydd yr arian yn galluogi'r prosiect i barhau i weithredu yn Nhorfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Dyma newyddion gwych a fydd yn helpu un o'n partneriaid allweddol, Barnado's, wrth iddo barhau i weithio'n ddiflino i gynnig cyngor a chymorth i gadw dioddefwyr yn ddiogel.
"Ers i'r cynllun peilot ddechrau, mae'r prosiect wedi cefnogi 261 o deuluoedd gan alluogi rhieni a phlant sy’n ddioddefwyr i dderbyn cymorth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma. Mae ei waith arloesol yn helpu pobl sy'n cyflawni cam-drin domestig i gael mynediad i raglen sydd wedi'i chynllunio i newid ymddygiad, ail adeiladu cydberthnasau a chadw teuluoedd yn ddiogel. Yn sicr, mae hyn yn beth da.
“Mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn golygu y bydd digwyddiadau o drais domestig yn cynyddu yn anochel ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â hyn. Mae cyllid fel hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn a hoffwn annog unrhyw un sy'n dioddef i beidio â dioddef yn dawel, ond i godi eich llais."
Cyhoeddodd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen adroddiad ar y gwasanaeth yn ddiweddar. Dywedodd bod galw uchel iawn amdano a'i fod yn cael "effaith gadarnhaol addawol iawn" ar blant a theuluoedd.
Roedd cartrefi'n fwy diogel yn awr ac roedd gwelliannau nodedig yn iechyd a lles emosiynol plant. Roedd llawer o deuluoedd yn symud ymlaen gyda'u hadferiad yn dilyn cam-drin domestig ac yn gwneud newidiadau cynaliadwy i'w hymddygiad.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: Nid yw cam-drin domestig yn gwahaniaethu - gall unrhyw un fod yn ddioddefwr, beth bynnag yw eu hoedran, rhyw, rhywioldeb neu gefndir cymdeithasol. Nid yw bob amser yn drosedd sy'n amlwg, gall fod yn gudd, felly mae angen i ni gadw golwg ar bobl a helpu pobl sy'n dioddef
"Ar hyn o bryd, pan ofynnir i bawb ohonom ni aros gartref i achub bywydau, rydym yn gwybod nad yw cartref yn lloches i bawb felly mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydweithio i helpu pobl mewn angen.
"Mae prosiectau fel Agor Drysau Caeedig yn allweddol i'n llwyddiant wrth amddiffyn ein trigolion mwyaf bregus a sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael i bobl sydd eu hangen nhw fwyaf.
"Trwy weithio gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw gyda cham-drin domestig."
Roedd adroddiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus gan Brifysgol Brookes Rhydychen i'r prosiect Agor Drysau Caeedig yn canmol gweithwyr cymorth am eu hymroddiad, eu brwdfrydedd a'u sgiliau. Yn ôl yr adroddiad, trwy feithrin cydberthnasau gydag aelodau'r teulu roeddent yn gallu cael sgyrsiau agored a gonest a bod yn gefnogol a heriol pan oedd angen hynny.
Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru: “Mae cam-drin domestig yn epidemig sy'n cael effaith aruthrol ar blant a'u teuluoedd. Mae'n achosi trawma i deuluoedd, ac yn cael effaith arwyddocaol ar eu hiechyd emosiynol a meddyliol.
"Rydym yn bryderus iawn am y lefelau cynyddol o gam-drin domestig ers y cyfyngiadau symud, felly mae'r cyhoeddiad hwn yn amserol iawn".