At ein cymunedau
Mae gwyliau'r Pasg eleni wedi bod mor wahanol i rai'r blynyddoedd blaenorol, gyda llawer ohonom ni'n methu â gweld teulu a ffrindiau a threulio'r Pasg yn y ffordd arferol.
Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent wedi bod allan mewn cymunedau'n gwneud eu gorau glas i weithio gyda phobl i sicrhau eu bod nhw'n aros gartref ac yn cadw'n ddiogel. Fodd bynnag, ble y bo'n briodol, rydym wedi rhybuddio a dirwyo pobl sydd wedi bod yn torri'r gyfraith yn hunanol.
Mae'n bleser dweud bod y rhan fwyaf o bobl wedi dangos parch mawr tuag at eu cymunedau ac wedi aros gartref i atal y clefyd rhag lledaenu. Ni all Heddlu Gwent ddiolch digon i bobl am eu cymorth; mae'r ffyrdd wedi bod yn dawel, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn teithio pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol yn unig.
Fodd bynnag, rydym yn dal i weld lleiafrif bach o bobl yn diystyru'r ddeddfwriaeth - a'r neges i bobl sy'n dal i roi bywydau pobl mewn perygl yw y byddwn yn parhau i fod yn rhagweithiol ac yn gorfodi ble y bo angen...a hynny er mwyn achub bywydau!
Hoffem ddiolch yn benodol i aelodau'r gymuned sydd wedi dangos cymaint o gefnogaeth a charedigrwydd i swyddogion Heddlu Gwent. Mae llawer o bobl wedi diolch i'n swyddogion ar ochr y ffordd ac mae rhai wedi darparu paneidiau te a hyd yn oed siocled i helpu i gadw ein staff i fynd!
Mae busnesau wedi darparu hylif diheintio dwylo ar gyfer staff ac wyau Pasg i ni eu rhoi i blant lleol. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth hon yn fawr ac mae'n dangos ysbryd cymunedol gwych pobl ledled Gwent.
Wrth i ni aros am ragor o gyhoeddiadau gan y Llywodraeth, rydym yn hyderus - beth bynnag a ddaw dros yr wythnosau nesaf - os gwnawn ni barhau i weithio gyda'n gilydd, gallwn achub mwy o fywydau. Mae Heddlu Gwent yn gweithio gyda chi, ar reng flaen yr amddiffyniad, er mwyn i ni allu gwarchod a lleihau'r pwysau ar ein hamddiffyniad olaf... ein GIG ardderchog!
Cofion gorau
Pam Kelly
Prif Gwnstabl | Heddlu Gwent
Cofion gorau
Jeff Cuthbert
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent