Astudiaeth achos: Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn fudiad ieuenctid, sydd wedi'i leoli yng nghanol tref Cwmbrân, ac sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc, o'u genedigaeth hyd at 25 oed.
Oherwydd diffyg cyllid, roedd y ganolfan wedi dod a’i darpariaeth gyda'r nos i bobl ifanc i ben, ac yn sgil hynny roedd mwy o bobl ifanc yn ymgasglu yng nghanol y dref ac roedd problem o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau.
Cytunodd Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ariannu'r prosiect hyd at tua £40,000 y flwyddyn, am dair blynedd, o Gronfa Gymunedol yr Heddlu, i gynnal sesiynau galw heibio mynediad agored ar nosweithiau yn ystod yr wythnos. Mae'r cyllid yn cyflogi hyd at bedwar gweithiwr ieuenctid bob nos ac mae'n caniatáu iddynt gynnal amrywiaeth o weithgareddau i gadw pobl ifanc yn brysur.
Mae cymorth unigol ar gael i bobl ifanc sydd ei angen, ac mae pawb sy'n defnyddio'r ganolfan yn gallu manteisio ar yr ystod eang o wasanaethau y mae'n eu cynnig, gan gynnwys cyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Astudiaeth achos
Oherwydd bod y berthynas deuluol wedi chwalu, roedd NT yn teimlo nad oedd bellach yn ddiogel i aros gartref ac roedd yn syrffio soffa gyda ffrindiau. Roedd anwadalrwydd ei ffordd o fyw a’i fywyd cynnar yn y cartref wedi cael effaith fawr ar ei iechyd meddwl, corfforol ac emosiynol.
Roedd NT wedi colli rheolaeth ar ei ymddygiad ac roedd yn cael perthynas amhriodol gyda'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd NT yn camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ac yn hunan-niweidio yn rheolaidd.
Dechreuodd NT ddod i sesiwn galw heibio gyda’r nos o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi profi ystod enfawr o fuddion o'r gwasanaethau a gynigir gan y ganolfan.
Mae wedi bod yn cael sesiynau mentora wythnosol gyda staff, ac wedi mynychu sesiynau ar berthnasoedd diogel, iechyd rhywiol, byw'n annibynnol a chyflogadwyedd.
Mae NT wedi defnyddio gwasanaeth cwnsela'r ganolfan i helpu i ddatblygu hyder/sgiliau a bod mewn sefyllfa well i ddechrau gweithio, gan oresgyn y rhwystrau a oedd yn ei atal rhag cael a chadw gwaith.
Rhoddodd staff y ganolfan gymorth i NT â sgiliau hanfodol, chwilio am waith, ffug gyfweliadau, creu CV, llenwi ffurflenni cais, a chael dillad cyfweliad gan brosiect lleol. Erbyn hyn mae NT wedi cael gwaith mewn bwyty lleol ac mae’n dal i ddod i mewn i'r ganolfan bron bob nos gan ei fod yn lleihau arwahanrwydd ac yn rhoi ychydig o seibiant sy'n golygu ei fod yn gallu wynebu'r diwrnod. Mae staff y ganolfan hefyd wedi helpu NT i ailddodrefnu ei fflat, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ofyn i'r gymuned am roddion o eitemau cartref.
Mae NT yn parhau i gael sesiynau cwnsela yn y ganolfan sy'n ei helpu i fynd i'r afael â pherthnasoedd amhriodol, ei les emosiynol a meddyliol, a diffyg rhwydweithiau cymorth eraill yn ei fywyd.
Mae staff y ganolfan yn sicrhau bod pecyn gofal NT yn cael ei deilwra'n unigol yn ôl ei anghenion newidiol. Maen nhw hefyd yn darparu eiriolaeth ar gyfer unrhyw gyfarfodydd tai neu adolygiad gan feddygon teulu, ac yn cynorthwyo NT i gael gafael ar barseli bwyd wythnosol i'w helpu i addasu i fyw'n annibynnol.