Asesiad o anghenion dioddefwyr
24ain Mawrth 2023
Rydym wedi penodi Supporting Justice i gynnal asesiad o anghenion dioddefwyr, yn rhan o'n gwaith cydweithredol gyda chomisiynwyr heddlu a throsedd De Cymru a Dyfed Powys.
Nid yw'n adolygiad o sut mae Heddlu Gwent yn cefnogi dioddefwyr, ond dylai ddangos unrhyw fylchau presennol yn y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Rydym yn disgwyl i'r adroddiad hwn gael ei gyflwyno i ni erbyn diwedd Ebrill a bydd yn ein helpu ni i ail gomisiynu gwasanaethau dioddefwyr i oedolion a phlant yn Connect Gwent, y ganolfan amlasiantaeth i ddioddefwyr.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd yng Ngwent, treuliwch ychydig funudau'n lleisio eich barn.