Arweinwyr yn canmol gwasanaethau sy'n trawsnewid bywydau unigolion sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt a'r Comisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird. Mae’r mentrau ar gyfer menywod a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol neu sydd mewn perygl o fynd i mewn i’r system.
Mae Dull System Gyfan y rhaglen Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 wedi'u targedu i roi cymorth i fenywod a phobl ifanc, yn rhoi cefnogaeth iddynt gyda phroblemau megis camddefnyddio alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a gwella perthnasoedd o fewn teuluoedd. Mae'r gwasanaethau’n gweithio i ddargyfeirio unigolion oddi wrth drosedd trwy greu rhwydwaith cymorth a'u helpu nhw i fyw bywydau iachach, mwy diogel.
Ers y lansiad ym mis Hydref 2019, hyd at fis Medi 2020 mae 1,007 o fenywod a 1,256 o bobl ifanc 18-25 oed wedi cael eu hatgyfeirio.
Mae'r gwasanaethau wedi cael eu sefydlu yn rhan o'r Glasbrynt ar gyfer Troseddwyr Benywaidd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Maent wedi'u comisiynu ar y cyd gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu Gwent a De Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru ac yn cael eu darparu gan Gonsortiwm Future 4 - G4S, Cymru Ddiogelach, Include a Llamau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt:
“Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio i gyflawni newid cadarnhaol, hirdymor yn ein cymdeithas. Yn ystod y cyfnod anodd hwn rydym yn byw ynddo, mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio gyda theuluoedd yn y system cyfiawnder troseddol gan adeiladu ar ein gwaith blaenorol a datblygu syniadau newydd, arloesol i gefnogi'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
"Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 yn hanfodol i gael gwell canlyniadau i bobl ifanc, menywod a'u teuluoedd ledled Cymru sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Er gwaethaf heriau niferus pandemig Covid-19 mae'r gwasanaethau wedi bod yn hyblyg ac wedi addasu er mwyn parhau i roi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.
“Er bod cyfiawnder yn parhau i fod yn swyddogaeth nad yw wedi ei datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i barhau i ymgysylltu â phartneriaid i ddargyfeirio menywod a phobl ifanc oddi wrth trosedd at wasanaethau cynaliadwy yn y gymuned, sy'n canolbwyntio ar bobl ac sy'n diwallu eu hanghenion. Rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru'n dyrannu £0.5miliwn o'n Cyllideb Ddrafft ar gyfer y Glasbrintiau ar gyfer Troseddwyr Benywaidd a Chyfiawnder Ieuenctid gan alluogi nifer o raglenni cefnogol i barhau, gan gynnwys y prosiect Braenaru i Fenywod.
Gwnaed y sylwadau yn ystod digwyddiad ar-lein i nodi pen-blwydd y gwasanaethau a lansiwyd ym mis Hydref 2019. Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at y ffordd mae'r gwasanaethau wedi addasu i barhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig Covid a chafodd y rhai oedd yn bresennol glywed gan fenywod, pobl ifanc, gweithwyr achos ac arweinwyr gwasanaeth am yr effaith gadarnhaol mae'r gwasanaethau wedi ei gael ar eu bywydau a'u cymunedau.
Dywedodd y Comisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird:
"Mae'n hysbys yn awr bod yna bobl sy'n cael eu hunain yn ddiffynyddion yn y system cyfiawnder troseddol sydd wedi dioddef llawer gwaeth erledigaeth na'r drosedd maent wedi ei chyflawni. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl ifanc a menywod, y mae cyfran fawr o'r rhaglen hon yn canolbwyntio arnynt. Felly, roeddwn yn falch o fod yn bresennol yn y digwyddiad hwn ac roedd yn ysbrydoledig clywed hanesion grymus y menywod a phobl ifanc sydd wedi cael cefnogaeth gan y gwasanaethau. Mae'r cynllun pwysig hwn yn helpu unigolion sydd yn y system cyfiawnder troseddol yn Gwent a De Cymru i adeiladu bywydau sy'n rhydd rhag trosedd.
"Dylid llongyfarch comisiynwyr yr heddlu Gwent a De Cymru a'u partneriaid darparu am y rhaglen bwysig hon. Mae hwn yn waith gwych ac mae gwersi pwysig i ni eu hystyried yn ehangach ledled y DU."
Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu Gwent a De Cymru.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas:
"Roedd yn bleser cael croesawu'r Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt a'r Comisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird i'r digwyddiad. Fel eiriolwyr dros ddioddefwyr a gwasanaethau dargyfeiriol mae'n wych gweld eu bod yn cefnogi digwyddiadau fel yr un hwn.
"Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar y person, y mae angen taer amdano, i fenywod a phobl ifanc er mwyn iddynt wyrdroi eu bywydau.
“Mae'r gwasanaethau yn enghraifft wych o gydweithio effeithiol rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn lleihau troseddu a helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
"Roedd yn dda gweld cymaint o weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o sefydliadau yn y weminar hefyd, gan gynnwys y sector gwirfoddol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac academyddion o Brifysgol Bryste a Phrifysgol De Cymru."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
"Roeddwn yn hynod o falch i allu cefnogi'r digwyddiad hwn ac rwyf yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog a'r Comisiynydd Dioddefwyr am fod yn bresennol heddiw i gydnabod ein hymdrechion. Mae angen i'r dull fod yn un sy'n gofyn i fenyw pan gaiff ei thynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf beth yw ei hamgylchiadau a pham mae'r ymddygiad troseddol wedi digwydd. Os nad ydych yn deall beth sydd wedi achosi'r ymddygiad, mae'n llawer rhy hawdd i'r system fod yn annheg ac aneffeithlon - ond, mewn cyferbyniad, os ydych yn deall y cefndir mae'n aml yn bosibl ymdrin â'r ymddygiad a gwyrdroi bywyd yr unigolyn dan sylw."
"Trwy ddefnyddio'r dull system gyfan hwn, mae'r rhaglen Braenaru i Fenywod yn gwella canlyniadau trwy ymyrraeth gynnar a gweithredu prydlon a chadarnhaol, yn trefnu ymyraethau angenrheidiol i gefnogi newid parhaus a datblygu cadernid. Ar yr un pryd, mae'r rhaglen yn arbed costau ariannol sylweddol i blismona gan fod pob £1 sy'n cael ei wario ar y cynllun yn golygu arbediad o £2.35."