Arswyd ar y Sgwâr i blant Brynmawr
29ain Hydref 2021
Ymunodd fy nhîm a thîm plismona cymdogaeth Brynmawr yr wythnos hon ar gyfer y digwyddiad ‘Arswyd ar y Sgwâr’ blynyddol.
Menter leol yw hon sy’n annog plant i wisgo i fyny adeg Calan Gaeaf a gofyn am losin neu lanast mewn siopau a busnesau lleol yn y dref.
Nid yn unig mae’n rhoi rhywbeth diogel a chadarnhaol iddyn nhw ei wneud adeg Calan Gaeaf, mae hefyd yn helpu teuluoedd i ddarganfod rhai o’r siopau a busnesau sydd ar gael ar eu stepen drws.
Gwnaeth tîm Brynmawr waith dychrynllyd o dda yn trawsnewid yr orsaf yn ffau bwystfilod, a dyma ffordd wych o feithrin perthynas dda rhwng y gymuned a’r tîm plismona lleol.