Arolwg ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Heddlu Gwent eisiau i chi leisio eich barn ynghylch problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal chi. Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu'r heddlu i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau.
Rydym yn gwybod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd bob dydd pobl, ac os nad yw'n cael ei reoli, mae hefyd yn gallu arwain at droseddau mwy difrifol. Ond rwyf hefyd yn gwybod o fod wedi siarad â thrigolion ledled Gwent bod pobl yn aml yn amharod i riportio achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae pobl yn teimlo nad yw'n fater digon difrifol i drafferthu'r heddlu gydag ef, neu na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud.
Mae'n wir bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anodd iawn i'w blismona ond mae'n rhaid i'r heddlu gael gwybod amdano cyn y gallant weithredu. Treuliwch ychydig o funudau'n cwblhau'r arolwg yma er mwyn lleisio eich barn.