Arolwg wedi cau
Diolch i bawb a roddodd o'u hamser i gwblhau fy arolwg diweddar, naill ai ar-lein neu yn un o'r nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliodd fy nhîm ledled Gwent.
Byddwn yn dadansoddi'r data a'r sylwadau a dderbyniwyd a byddaf yn ystyried y wybodaeth hon wrth bennu praesept treth y cyngor ar gyfer 2022/23.
Mae hwn yn benderfyniad anodd bob tro. Yn ogystal â'ch sylwadau chi, rhaid i mi ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn ei ddweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, a'r setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU.
Bydd fy mhenderfyniad yn cael ei gyflwyno i Banel yr Heddlu a Throsedd Gwent ddydd Gwener 28 Ionawr er mwyn iddo ei ystyried. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a bydd ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.