Arolwg cyllid yr heddlu
12fed Ionawr 2023
Hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn yn ddiweddar ynghylch cyllid yr heddlu trwy gwblhau fy arolwg cyllideb, naill ai ar-lein, neu yn un o fwy na 20 o sesiynau ymgysylltu y cynhaliodd fy nhîm ledled Gwent.
Llwyddodd fy nhîm a minnau i ymgysylltu â dros 2,000 o bobl wyneb yn wyneb, a derbyniwyd 1,167 ymateb i'r arolwg cyn iddo gau'r wythnos hon.
Rydym wrthi'n dadansoddi'r canlyniadau yn awr, a fydd yn cael eu defnyddio i helpu i lywio fy mhenderfyniad ynghylch cyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2023/24. Byddaf yn cyflwyno fy nghynigion i Banel Heddlu a Throsedd Gwent ar 27 Ionawr.