Arolwg Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent wedi dod ynghyd â sefydliad gwirfoddol menywod byd-eang yn y frwydr yn erbyn masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.
Fel rhan o'u hymgyrch i ysbrydoli camau gweithredu a thrawsnewid bywydau menywod a merched ledled y byd, rhwng 1 a 7 Hydref 2017, mae Soroptimyddion Rhyngwladol yn annog aelodau'r cyhoedd i lenwi arolwg ledled y DU sy'n ceisio cael gwybod mwy am yr hyn mae'r cyhoedd yn ei wybod am fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.
Gan weithio gyda Grŵp Cyflwyno Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern y DU, sy'n rhan o strategaeth y Llywodraeth i wrthwynebu masnachu pobl/caethwasiaeth, y bwriad yw cael gwybod faint mae'r cyhoedd yn ei wybod am fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. Bydd y canlyniadau'n helpu i lywio eu gwaith.
Mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn cefnogi Soroptimyddion Rhyngwladol drwy hyrwyddo'r arolwg yn fewnol i'w holl staff a thrwy ei hysbysebu i gynulleidfa mor eang â phosibl drwy eu sianeli.
Mae'r fersiwn ar-lein ar gael yn www.sigbi.org/ukpac/survey/ a'r gobaith yw y bydd ystod eang o unigolion yn rhoi ychydig o funudau o'u hamser i fewngofnodi a llenwi'r arolwg.
Gan annog cynifer o bobl â phosibl i lenwi'r arolwg, meddai Ruth McKie, Swyddog Gweithredu Rhaglen Ranbarthol De Cymru Soroptimyddion Rhyngwladol: “Mae hwn yn arolwg pwysig a fydd yn llywio gwaith Grŵp Cyflwyno Hyfforddiant Caethwasiaeth Fodern y DU i helpu i wrthwynebu masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. Mae'r arolwg yn hollol ddienw a chaiff y canlyniadau llawn eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf.”
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yw arweinydd holl Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru ar gaethwasiaeth fodern.
Gan ddangos ei gefnogaeth ar gyfer yr arolwg, meddai Mr Cuthbert: “Heddlu Gwent yw un o'r Heddluoedd sy'n arwain y ffordd o ran materion yn ymwneud ag atal caethwasiaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau na chamfanteisir ar bobl ac ni all yr un sefydliad unigol fynd i'r afael â'r broblem hon a'i gwaredu ar ei ben ei hun. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn ein helpu i ddeall ein heriau a'r lle gorau i ni roi adnoddau yn y dyfodol er mwyn mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Dim ond drwy arolygon fel hwn a thrwy ddysgu gan ein cymheiriaid a chydweithio â'n partneriaid ym mhob sector y gallwn feddwl am atebion i ddileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl."
Mae'r arolwg ar gael o 1 Hydref tan ganol nos 7 Hydref 2017. Ewch i www.sigbi.org/ukpac/survey/