Arolwg arfau tanio'r DU
7fed Hydref 2021
Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cynnal arolwg ar draws y DU gyfan i geisio deall barn trigolion yn well ynghylch rheoliadau trwyddedu arfau tanio cyfredol.
Mae’r Swyddfa Gartref yn adolygu trefniadau ar gyfer trwyddedu arfau tanio a bydd yn cyflwyno canllawiau statudol newydd cyn bo hir y bydd gofyn i bob heddlu eu dilyn. Mae’r Gymdeithas eisiau clywed barn y cyhoedd ar y materion hyn er mwyn ei rhannu gyda’r Swyddfa Gartref.
Mae’r arolwg yn anhysbys a dim ond munudau sydd eu hangen i’w gwblhau. Bydd ar agor tan 5pm ddydd Mercher 20 Hydref.
Lleisiwch eich barn.