Arhoswch adref. Achubwch fywydau.

24ain Mawrth 2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth am ganllawiau newydd i helpu i fynd i'r afael â Covid-19, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol ymateb y gwasanaethau cyhoeddus ac mae'n annog pawb yng Ngwent i aros adref ble bynnag y bo'n bosibl.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae cyfarwyddiadau'r Llywodraeth yn glir. Arhoswch adref. Gwarchodwch y GIG. Achubwch fywydau.

"Mae hwn yn gyfnod digynsail ac rydym yn gweld mesurau digynsail; nid yn unig i arafu lledaeniad y clefyd hwn, ond i amddiffyn y system gofal iechyd a'n cymunedau.

"Ni allaf gofio sefyllfa lle bu angen y gofal, goddefgarwch ac ymwybyddiaeth sydd eu hangen arnom ni yn awr.

"Fel pob llu heddlu ledled y DU, mae Heddlu Gwent yn aros am eglurder ynghylch beth fydd yn ofynnol ganddyn nhw yn sgil y ddeddfwriaeth frys hon. Gobeithio y cawn eglurder yn ystod y 24 awr nesaf.

“Fodd bynnag, nid oes angen cyfarwyddyd gan yr Heddlu ar bobl Gwent ynglŷn â’r hyn mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud. Mae Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru wedi datgan yn gwbl glir y byddwn yn wynebu sefyllfa erchyll a fydd yn llethu'r gwasanaeth iechyd ac yn arwain at farwolaethau trasig a diangen os na fyddwn yn dilyn y camau hyn. Os bydd hynny'n digwydd, ni ein hunain fydd ar fai.

“Bydd yr heddlu'n monitro'r sefyllfa'n ofalus ac yn cymryd camau i ymdrin ag unigolion diofal nad ydyn nhw'n talu sylw i’r cyngor cadarn a'r cyfreithiau brys. Nid ydym eisiau sefyllfa lle bydd angen gorfodi'r rhain, ond rwyf yn siarad â'r Prif Gwnstabl, Pam Kelly, ynghylch sut bydd y mesurau hyn yn cael eu gorfodi os bydd pobl yn dewis anwybyddu cyngor hollol glir gan y llywodraeth.

"Dylem ddisgwyl i bawb ufuddhau i'r gyfraith, sy'n golygu nad oes angen gorfodaeth. Dim ond trwy newid diwylliannol torfol y gallwn reoli lledaeniad y feirws hwn ac mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn o beth. Mae hyn yn cynnwys gwrando ar gyngor a chanllawiau swyddogol gan y llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus lleol megis Heddlu Gwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phum cyngor Gwent, a gweithredu yn sgil y cyngor a'r canllawiau hynny.

“Hoffwn ailddatgan fy niolch parhaus i’r holl swyddogion a staff heddlu, gweithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill sy'n gweithio ddydd a nos i helpu i fynd i'r afael â hyn.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd a hoffwn sicrhau trigolion ein bod ni’n gweithio i wneud popeth y gallwn ni i helpu i arafu lledaeniad y feirws ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas."

 


Mae help ar gael

Os oes angen cymorth o unrhyw fath arnoch chi, neu sgwrs hyd yn oed, yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae llawer o sefydliadau a all helpu.

 

Byw Heb Ofn

Cymorth a chyngor ynghylch cam-drin domestig, trais rhywiol a ffurfiau eraill ar drais a cham-drin.
Ffôn: 0808 80 10 800

 

Meic Cymru

Cymorth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Ar agor o 8am tan hanner nos.
Ffôn: 080880 23456
Neges testun: 84001
Gwefan: www.meiccymru.org

 

The Silver Line

Cymorth i bobl hŷn sy'n pryderu am unigrwydd ac yn teimlo’n ynysig. Ar agor 24 awr 7 diwrnod yr wythnos.
Ffôn: 0800 470 80 90

Y Samariaid

Ar gael ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffôn (am ddim) 116 123