Arddangosfa gelf bwerus yn cael ei dangos ym mhencadlys yr heddlu i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn

25ain Tachwedd 2024

Mae arddangosfa bwerus o waith celf sy'n ceisio ysgogi sgyrsiau am drais yn erbyn menywod a merched wedi cael ei dadorchuddio ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn.

Crëwyd y casgliad 'Words Matter' yn wreiddiol gan Gallery 57 yng Nghasnewydd, i dynnu sylw at neges bwerus y sefydliad ymgyrchu This Ends Now. Cafodd ei lansio i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth.

Mae'n cynnwys mwy na 20 darn o waith gan arlunwyr ledled y Deyrnas Unedig ac mae'n archwilio themâu trais, casineb at fenywod a beio dioddefwyr. Bydd y casgliad yn cael ei weld gan swyddogion a staff o bob rhan o Went yn y cyfnod sy'n arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn ddydd Llun 25 Tachwedd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: “Rwyf yn falch iawn i weithio gyda Gallery 57 a Heddlu Gwent i sicrhau y bydd swyddogion a staff Gwent yn cael cyfle i weld y gwaith yma. Mae hwn yn gasgliad sy'n gwneud i chi feddwl am agwedd cymdeithas tuag at fenywod a merched, ac mae'r sgyrsiau mae'n eu hysgogi yn arbennig o bwysig wrth i ni nodi Diwrnod Rhuban Gwyn.

"Mae dod â'r arddangosfa yma i bencadlys yr heddlu, ac annog y trafodaethau yma, yn un o'r pethau rydym yn ei wneud i ail osod y ffocws ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a’n galluogi ni i wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau." 

Bydd yr arddangosfa'n cael ei dangos ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân yn ystod y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn a bydd swyddogion a staff o bum sir Gwent yn cael cyfle i ymweld â hi.

Meddai Prif Gwnstabl Dros Dro Mark Hobrough: "Mae trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched yn digwydd ar sawl ffurf, ac fel gwasanaeth heddlu, rydyn ni wedi ymroi i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell ac amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr. Mae'r troseddau yma'n cael effaith ddinistriol, a dyna pam mae'n rhaid i'n cymunedau yng Ngwent sefyll gyda'i gilydd yn erbyn trais gan ddynion.

"Mae'r gwaith celf sy'n cael ei arddangos yn ein pencadlys yn cyfleu yn bwerus iawn yr agweddau sy'n caniatáu i drais yn erbyn menywod a merched ddigwydd. Rydyn ni'n cefnogi ymgyrch Diwrnod Rhuban Gwyn i annog dynion i fod yn atebol am eu gweithredoedd a newid yr ymddygiad sy'n cyfrannu at ofn trais gan fenywod a merched yn eu bywydau bob dydd.

Rydyn ni wedi cymryd camau cadarnhaol i wella ein diwylliant ein hunain a'r gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i ddioddefwyr, ond rydyn ni'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud o hyd. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched er mwyn ail adeiladu ymddiriedaeth a hyder."

Rhoddwyd yr arddangosfa ar fenthyg i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd gan Gallery 57 yng Nghasnewydd.

Dywedodd y perchennog, Nicole Garnon: “Cafodd y syniad ar gyfer yr arddangosfa yma ei ysbrydoli gan y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan This Ends Now. Gwnaethom alw ar arlunwyr i gyflwyno gwaith ar y thema 'Words Matter' ac roedd yr ymateb gan arlunwyr o bob rhan o'r wlad yn anhygoel.

"Roedd yn un o'r arddangosfeydd mwyaf poblogaidd i ni eu dangos yn y galeri yn ystod y tair wythnos roedd yma a bydd yn cael ei dangos eto fis Mawrth nesaf yn Amgueddfa Pontypridd, yn dilyn cais gan y gweinidog cabinet Llafur Alex Davies-Jones.

“Rydym wrth ein boddau ei bod wedi gwneud y fath argraff ar gymaint o bobl a hoffwn ddiolch i Heddlu Gwent am estyn gwahoddiad i ni ddangos y gwaith yn eu pencadlys.”

Mae'r sefydliad nid er elw, This Ends Now, yn rym pwerus sy'n dwyn pwysau er mwyn creu newid ac mae'n ymgyrchu'n ddiflino i ddileu trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched (MVAWG).

 

Mae This Ends Now yn cydnabod y problemau cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn gan y batriarchaeth, ac mae'n creu ymgyrchoedd strategol, sy'n gwneud i bobl feddwl, er mwyn dileu casineb at fenywod, ymgysylltu â dynion, codi ymwybyddiaeth a cheisio dwyn pwysau er mwyn sbarduno newid go iawn ac anelu at ddyfodol sy'n rhydd rhag gormes, trais ac ofn ar sail rhywedd.

I ddarllen am ganllawiau riportio 'Words Matter' This Ends Now, a grëwyd gyda Chwnstabliaeth Swydd Gaerloyw, defnyddiwch y ddolen yma.

Meddai Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gafarwyddwr This Ends Now, Sydney McAllister: "Mae'n galonogol gweld Heddlu Gwent yn rhoi sylw i'r mater difrifol o atal casineb yn erbyn menywod a beio dioddefwyr wrth riportio troseddau trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched (MVAWG) trwy gynnal yr arddangosfa anhygoel 'Words Matter' yn eu pencadlys yr wythnos yma. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl i fyfyrio ar MVAWG ac yn annog yr heddlu i ail fframio'r naratif ynglŷn â MVAWG, gan feithrin diwylliant o atebolrwydd."