Ar grwydr yng Nghaerllion
22ain Gorffennaf 2022
Yr wythnos hon aeth y tîm a minnau i ymweld â Chaerllion i siarad â thrigolion a pherchnogion busnes am broblemau lleol.
Roeddwn yn falch i glywed bod nifer o broblemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd wedi gwaethygu wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo, wedi gwella'n sylweddol yn awr.
Mae gan gomisiynwyr yr heddlu a throsedd ddyletswydd statudol i ymgysylltu â thrigolion am y gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn gan eu heddlu. Mae'r sgyrsiau hyn, a'r sylwadau rwyf yn eu derbyn, yn fy helpu i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed.