Ar grwydr
1af Awst 2024
Yr wythnos yma mae fy nhîm wedi bod yn siarad â thrigolion a pherchnogion busnes ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Cafodd y tîm gwrdd â llawer o bobl a chafwyd llawer o sgyrsiau gwerthfawr am yr hyn sydd fwyaf pwysig i drigolion.
Mae gwrando ar leisiau pobl Gwent yn hollbwysig ac mae’n fy helpu i lunio a datblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Roedd hwn yn un o nifer o sesiynau ‘Dweud eich dweud’ teithiol a fydd yn digwydd trwy gydol yr haf.
Os gwelwch chi’r tîm allan ar grwydr, ewch i gael sgwrs gyda nhw. Byddwn wrth fy modd yn clywed eich barn.
Gallwch leisio barn ar-lein hefyd