Ar grwydr
Rwyf wedi cael amser gwych ar grwydr yn ein cymunedau dros yr wythnosau diwethaf.
Rwyf wedi bod mewn digwyddiadau cymunedol yng Nghasnewydd, busnesau ac ysgolion ym Mhont-y-pŵl, ac roeddwn yn falch i gynrychioli Gwent mewn digwyddiadau Pride yng Nghaerffili, Caerdydd, a Thorfaen.
Rwyf eisiau bod yn bresenoldeb gweladwy ledled Gwent, sy'n codi llais i sicrhau bod barn pobl yn cael ei chlywed, bod pryderon yn y gymuned yn cael blaenoriaeth, a bod ein heddlu'n darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bob un o'n cymunedau.
Dyna fy addewid i drigolion ar y stepen drws pan oeddwn yn ymgyrchu, a dyna sut rwy'n credu y gallaf fod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cryf ac effeithiol y mae Gwent ei angen.
Mae'r sgyrsiau rwy'n eu cael gyda chi'n fy helpu i lunio fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Dyma'r ddogfen sy'n amlinellu beth fydd comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn ei wneud yn ystod eu cyfnod yn y swydd, a dyma sut y bydd Panel yr Heddlu a Throsedd Gwent, sy'n cynrychioli pob un ohonoch chi, yn fy nwyn i gyfrif.
Treuliwch ychydig o funudau'n cwblhau'r arolwg yma a lleisio eich barn. Bydd eich barn yn fy helpu i wneud gwahaniaeth.