Ar grwydr
15fed Rhagfyr 2023
Yr wythnos yma rydym wedi bod yn siarad â thrigolion yng Nghwmbrân a Maendy.
Gwnaethom gefnogi diwrnod o wybodaeth i'r gymuned, a drefnwyd gan ein partneriaid EYST - Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, a gwnaethom ymuno â Barod, Melo Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn diwrnod o wybodaeth i ddysgwyr ym Mharth Dysgu Torfaen.
Mae siarad gyda phobl mewn digwyddiadau fel hyn yn ffordd bwysig i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyflawni ei gyfrifoldeb i ymgysylltu â'r cyhoedd, ac mae'r sylwadau mae'n eu derbyn yn helpu'r Comisiynydd i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran trigolion.
Os hoffech chi i ni ymweld â'ch grŵp chi, cysylltwch â fy swyddfa.