Am dro yn y Fenni
Cafodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, gyfle i gwrdd â thrigolion a busnesau’r Fenni wrth fynd am dro yng nghanol y dref.
Ymwelodd y Comisiynydd â Marchnad y Fenni i siarad â masnachwyr a siopwyr am faterion yn eu cymunedau.
Siaradodd hefyd â gwirfoddolwyr o Cadwch y Fenni yn Daclus am y gwaith maen nhw’n ei wneud i glirio sbwriel yn yr ardal.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Roedd hi’n bleser cyfarfod â thrigolion yn y Fenni a threulio amser yn gwrando ar eu safbwyntiau a’u pryderon.
“Roedd hefyd yn gadarnhaol iawn clywed bod canolfan newydd Heddlu Gwent yn y Fenni, a agorwyd gennym yn ffurfiol ddiwedd y llynedd, yn rhoi sicrwydd iddynt. Mae’r cyfleuster, ar y cyd â’r ddesg gwasanaeth yn Neuadd y Dref y Fenni, yn cynnig y gorau o ddau fyd; lleoliad hygyrch lle gall trigolion gael gafael ar wasanaethau wyneb yn wyneb, a chanolfan weithredol fodern ar gyfer swyddogion a staff.
“Mae’n helpu i sicrhau bod Heddlu Gwent yn gallu blaenoriaethu presenoldeb amlwg yn y Fenni ac yn gallu ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau ar draws y rhanbarth hefyd.”