Allech chi wneud gwaith swyddog heddlu?
21ain Ionawr 2022
Mae Heddlu Gwent yn recriwtio.
Os ydych chi'n chwilio am yrfa newydd, cyffrous ac amrywiol, lle mae pob diwrnod yn wahanol, yna gallai gyrfa yn yr heddlu fod yn ddelfrydol i chi.
Mae swyddogion Heddlu Gwent yn gwneud gwaith gwych yn amddiffyn cymunedau a sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd gyda'r lefelau isaf o droseddau wedi'u cofnodi yn y DU.
Os ydych chi'n credu y gallech chi gefnogi'r gwaith da hwn, mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar wefan Heddlu Gwent.