Allan am dro gyda swyddogion yng Nghaerffili

6ed Tachwedd 2024

Ymunodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, â swyddogion o dîm plismona’r gymdogaeth yng Nghaerffili i fynd am dro o amgylch y dref.

Clywodd y Comisiynydd am rai o’r heriau y mae’r heddlu lleol yn eu hwynebu yn ystod Calan Gaeaf ac wrth agosáu at noson tân gwyllt.

Gwnaethant hefyd drafod sut mae’r heddlu yn gweithio gyda busnesau lleol i fynd i’r afael ag achosion o ddwyn o siopau a throseddau manwerthu.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Roedd hi’n ddiddorol iawn treulio amser gyda thîm lleol yr heddlu yng Nghaerffili a chlywed ganddynt am rai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn yr ardal hon.

“Roeddwn i’n falch iawn o glywed bod gan y swyddogion gydberthnasau da â rhai o’r ysgolion cynradd lleol ac maent wedi gwneud rhai prosiectau gwych yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i ddod â’r gymuned ynghyd.

“Mae’r gwaith hwn yn helpu i chwalu rhwystrau rhwng yr heddlu a phlant a fydd, gobeithio, yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y tymor hir. Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â mwy o’r ymweliadau hyn yn y misoedd sydd i ddod.”