Adroddiad ynghylch symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu'r adroddiad cenedlaethol newydd sy'n edrych ar sut mae lluoedd heddlu'n ymdrin â symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol.
Heddiw mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (yr Arolygiaeth) wedi rhyddhau adroddiad ar ei harolwg ar sut mae lluoedd heddlu’n ymdrin â symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol yn y DU yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Dywed bod lluoedd heddlu a'r Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol wedi llwyddo i wella eu dealltwriaeth o droseddau cyffuriau 'ar draws ffiniau sirol'; fodd bynnag, mae modelau plismona presennol yn rhy wasgarog i alluogi'r ymateb mwyaf effeithiol.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae trosedd difrifol a chyfundrefnol yn effeithio ar bob cymuned ledled Cymru. Rydym ni'n gwybod bod rhwydweithiau symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol, sy'n cael eu rhedeg gan gangiau troseddau cyfundrefnol, yn arwain at droseddau cymhleth, nad yw'r cyhoedd yn eu gweld yn aml. Mae'r tramgwyddwyr yn targedu rhai o'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas ac ni all unrhyw asiantaeth unigol ddatrys y broblem hon ar ei phen ei hun.
"Mae'r problemau sy'n codi o rwydweithiau sy’n symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol yn llawer ehangach na phroblemau plismona yn unig. Er mwyn mynd i'r afael â nhw mae angen i'r heddlu, busnesau, awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, ysgolion a thrigolion weithio gyda'i gilydd.
"Yn ffodus, yma yng Ngwent, rydym ar flaen y gad gyda gwaith arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n cymunedau ni'n barod. Mae cyfres o ymyraethau a nodir yn Strategaeth Trosedd Difrifol Y Swyddfa Gartref yn cael eu rhoi ar brawf i ganfod beth sy'n gweithio wrth fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n gyrru trais difrifol. Maen nhw'n cynnwys ymyrraeth uniongyrchol a chymorth cyfannol, darparu gweithgareddau cadarnhaol trwy ymyraethau chwaraeon ac, wrth gwrs, addysg ac ymwybyddiaeth.
"Nod y rhaglen hon yw rhoi sylw i'r diffyg ymyrraeth gynnar a gweithgareddau ataliol pan fydd ffactorau risg sy'n gysylltiedig â thrais difrifol yn amlwg. Mae hyn yn cynnwys nifer yr achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod lle mae pobl ifanc a theuluoedd mewn perygl, a'r effaith gysylltiedig mae hyn yn ei gael ar blismona a gwasanaethau eraill. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid megis Barnado's ac Ymddiriedolaeth St Giles i roi sylw i'r problemau hyn yn ein hysgolion.
“Mae partneriaid darparu'n gweithio gyda'r heddlu yn y gymdogaeth yn ogystal â thimau troseddau mawr a chudd-wybodaeth i ganfod grwpiau sy'n agored i gam-fanteisio. Maen nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau addysg a gwasanaethau pobl ifanc, darparwyr tai a phartneriaid trydydd sector.
"Mae Fearless, gwasanaeth ieuenctid Crimestoppers, yn bartner darparu allweddol. Mae Fearless yn defnyddio ymagwedd gwaith ieuenctid wrth siarad â phobl ifanc yn ein cymunedau. Maen nhw’n siarad am drais difrifol mewn ffordd nad yw'n barnu ac yn helpu i roi'r pŵer i bobl ifanc wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am drosedd."
Cynhaliodd yr Arolygiaeth arolwg ar sut mae lluoedd heddlu'n ymdrin â symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol. Er bod yr arolwg yn nodi sawl enghraifft o arfer da, casglodd yr Arolygiaeth bod angen systemau mwy cydlynol ac integredig ar gyfer gosod tasgau yn genedlaethol, rhannu cudd-wybodaeth ac ymateb.
Amlygodd yr adroddiad dilynol, 'Both sides of the coin: The police and National Crime Agency’s response to vulnerable people in ‘county lines’ drug offending', y cyflawniadau canlynol:
• Sefydlu'r Ganolfan Gydgysylltu Ffiniau Sirol Cenedlaethol (NCLCC) yn 2018;
• Defnydd effeithiol lluoedd heddlu o ddeddfwriaeth caethwasiaeth fodern;
• Defnydd da o 'wythnosau dwysáu', lle mae'r NCLCC yn cydgysylltu gweithgarwch gorfodi'r gyfraith yn ystod wythnosau penodol o weithredu yn erbyn rhwydweithiau symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol;
• Arfer da o ran mechnïaeth yr heddlu.
Fodd bynnag, rhybuddiodd yr Arolygiaeth bod diffyg ymateb cyfannol, cenedlaethol yn golygu bod ymchwiliadau'n llai effeithiol nac y dylent fod yn aml.
Nododd yr adroddiad bryderon ynghylch mapio troseddau cyfundrefnol, cystadleuaeth o ran blaenoriaethau a'r defnydd cyfyngedig o orchmynion cyfyngu telegyfathrebu hefyd.
Dywedodd Phil Gormley, Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi: “Mae troseddau symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol yn broblem daer i sefydliadau sy'n gorfodi'r gyfraith yn y DU. Mae'n ffenomenon trawsffiniol lle mae troseddwyr yn gweithio ar draws rhanbarthau i ddelio cyffuriau a cham-fanteisio ar bobl fregus.
"Mae angen ymateb trawsffiniol er mwyn mynd i'r afael â throsedd trawsffiniol. Datgelodd ein harolwg fod plismona'n rhy wasgaredig ar hyn o bryd i fynd i'r afael â symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol yn y ffordd orau. Er i ni weld sawl enghraifft ardderchog o gydweithio, daethom i'r casgliad nad yw'r dull presennol yn galluogi'r lefel o gydlyniant sydd ei angen. Gan hynny, mae ein hadroddiad yn cynnwys rhestr o argymhellion gyda'r nod o hwyluso'r gwaith o greu ymateb cenedlaethol, cydgysylltiedig i droseddau symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol.”