Adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
Mae Heddlu Gwent yn dda am atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ond mae’n rhaid iddo wella ei ymateb i’r cyhoedd, yn ôl adroddiad newydd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (yr Arolygiaeth).
Mae’r adroddiad yn canmol Heddlu Gwent am y ffordd mae’n mynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau, ac am y ffordd mae’n rheoli pobl dan amheuaeth a throseddwyr.
Fodd bynnag, mae’n mynegi pryder am ymateb yr heddlu i aelodau’r cyhoedd sy’n ffonio i riportio digwyddiadau difrys, ac mae hefyd yn nodi bod rhaid gwella’r ffordd mae swyddogion heddlu’n ymchwilio i droseddau ac yn amddiffyn pobl agored i niwed.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae llawer i gnoi cil arno yn yr adroddiad. Mae llawer o sylwadau cadarnhaol ynddo ac mae’n dangos bod Heddlu Gwent yn gwneud yn dda o ran y materion mwyaf pwysig i bobl, fel atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Fodd bynnag, mae meysydd sydd wedi cael eu nodi’n glir yn yr adroddiad hwn y mae’n rhaid i Heddlu Gwent eu gwella ar unwaith, gan gynnwys sut mae’n ymateb i bobl sy’n cysylltu ynglŷn â materion difrys.
“Rydym eisoes wedi buddsoddi i wella’r gwasanaethau hyn, ac rydym wedi datblygu canolfan reoli newydd heb ei hail ym Mhencadlys Heddlu Gwent. Er fy mod yn deall y galw cynyddol ar wasanaethau, a’r pwysau aruthrol mae hwn yn ei roi ar swyddogion a staff, mae’n amlwg bod angen llawer o waith i roi sylw i’r meysydd y mae’r Arolygiaeth wedi dweud sydd angen eu gwella.”
“Rwyf wedi siarad â’r Prif Gwnstabl ar sawl achlysur am berfformiad yn y meysydd hyn ac rwyf yn disgwyl y bydd gwelliannau’n cael eu cyflawni’n gyflym. Rwyf yn gwybod bod y Prif Gwnstabl Pam Kelly yr un mor bryderus â mi am y canfyddiadau hyn a bod gwaith yn cael ei wneud yn barod i roi sylw i’r problemau a amlygwyd yn adroddiad yr Arolygiaeth.
“Rwyf wedi gwneud fy nisgwyliadau’n amlwg a byddaf yn disgwyl newyddion rheolaidd gan y Prif Gwnstabl a’i thîm o brif swyddogion am bob un o’r materion hyn. Bydd fy nhîm a minnau’n cefnogi ac yn craffu ar Heddlu Gwent er mwyn cyflawni’r gwelliannau cyn gynted â phosibl.”