Adolygiad o Ystad yr Heddlu
Heddiw, cyhoeddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gwent, Jeff Cuthbert, adolygiad cynhwysfawr o ystâd yr Heddlu, sy'n anelu at sicrhau bod holl adeiladau ac eiddo'r heddlu yng Ngwent yn addas ar gyfer gofynion plismona modern ac yn darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Fel Comisiynydd, mae Jeff Cuthbert yn gyfrifol am yr holl 48 eiddo ac adeiladau'r heddlu, sydd â chyfanswm o fwy na 42,000 metr sgwâr yng Ngwent. Wrth gyhoeddi'r bwriad i gynnal yr adolygiad, nododd y Comisiynydd gynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno model gweithredol newydd er mwyn gwella mynediad cymunedol i wasanaethau a gweithgarwch ymgysylltu. Croesawyd yr adolygiad gan Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams.
Pwysleisiodd y Comisiynydd hefyd y rôl y bydd gwaith partneriaeth yn ei chwarae o ran rhyddhau potensial dull unedig o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n sicrhau gwerth am arian. Mae'n amlygu llwyddiant cadw presenoldeb parhaol yr heddlu yn Abertyleri trwy rannu llety gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chriwiau Tân ac Achub De Cymru fel enghraifft wych o sut y gellir gweithredu hyn.
Mae'r orsaf heddlu newydd yng Nghaerffili, a agorwyd yn ddiweddar, sy'n cynnig cyfleuster cymunedol, cysylltiedig, modern a man cyfarfod sy'n hygyrch i'r cyhoedd, yn enghraifft o'r hyn y mae'r Comisiynydd yn gobeithio ei gyflawni mewn perthynas â darparu gwasanaethau Plismona yng Ngwent.
Cadarnhaodd y Comisiynydd hefyd y byddai Pencadlys newydd i Heddlu Gwent yn rhan o gam cyntaf yr adolygiad o'r Ystad.
Ar ôl bod ar ei safle presennol ar ffordd Turnpike, Croesyceiliog ers dros 40 mlynedd, mae angen adnewyddu helaeth a drud i'r Pencadlys presennol ac mae wedi rhagori ar ei ddisgwyliad oes. Bydd Heddlu Gwent yn symud i safle a adeiladwyd at y pwrpas yn Llantarnam o 2019, a fydd yn fwy cost-effeithiol nag adnewyddu'r safle presennol. Drwy symud i'w safle newydd bydd Gwasanaeth yr Heddlu yn gallu ateb yr heriau sy'n gysylltiedig â Phlismona yn yr 21ain Ganrif yn well mewn amgylchedd cynaliadwy sy'n hyrwyddo lles a chynhyrchiant. Bydd costau rhedeg y Pencadlys newydd hefyd yn 50% yn rhatach na'r Pencadlys presennol a bydd yr adeilad yn llawer mwy effeithlon ac yn arbed arian i drethdalwyr.
Glasbrint ar gyfer gwasanaethau plismona
Dywedodd Mr Cuthbert: "Mae'r adolygiad hwn yn darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu ystad sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn addasadwy i gwrdd â heriau newydd. Mae angen inni sicrhau bod ein hystâd yn darparu gwerth am arian trwy sicrhau bod ein holl adeiladau yn gynaliadwy ym mhob ffordd bosibl. Dyma'r adeg briodol i ni ddechrau ar y broses o symud i bencadlys newydd a sicrhau bod yr Ystad ehangach yn addas at y diben yn y dyfodol. Wrth ddarparu gwasanaeth effeithiol, rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod yr Ystad yn diwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir gennym mewn ffordd gosteffeithiol. Rwyf hefyd am adlewyrchu datblygiad Plismona digidol a'r rhyngweithio rhwng Gwasanaeth yr Heddlu a'i bartneriaid. Roedd yn bleser gennyf agor Gorsaf Heddlu Caerffili yn ddiweddar y credaf y bydd yn darparu amgylchedd sy'n helpu timau plismona yn y gymdogaeth i ymgysylltu â'r gymuned.”
Gan amlygu ei gefnogaeth i'r adolygiad, dywedodd Julian Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Mae natur Plismona yn newid yn ogystal â natur troseddoldeb ac mae'n rhaid i ni ddatblygu ein gwasanaeth yn unol â hynny. Mae gennym grŵp o swyddogion a staff brwdfrydig ac ymroddedig yng Ngwent sy'n ymrwymedig i ddiogelu ein cymunedau a rhoi sicrwydd iddynt. Er mwyn adlewyrchu pa mor gyflym y mae pethau yn newid, mae angen i ni sicrhau bod ein Hystad yn gallu ateb yr heriau gweithredol rydym yn eu hwynebu a chyflawni'r hyn y mae cymunedau a sefydliadau partner yn ei ddisgwyl gennym.”
Cynlluniau ar gyfer yr Ystad yn y dyfodol
Er mai prif rôl canolfan weithredol Gwent fydd defnyddio adnoddau Plismona o hyd mewn ymateb i anghenion cymunedau, mae'r rhan fwyaf o'r Ystad yn cynnwys gweithrediadau plismona yn y gymdogaeth lleol.
Nododd y Comisiynydd gynlluniau i symud i fodel Plismona sy'n seiliedig ar ‘brif ganolfan’ a ‘lloerennau’ sy'n fwy addas i ddiwallu anghenion cymunedau a bodloni gofynion gweithredol.
Aeth Mr. Cuthbert ymlaen i ddweud, “Rydym am sicrhau bod gennym ganolfannau gweithredol yn agos at seilwaith ffyrdd a seilwaith digidol sy'n ein galluogi i ymateb yn gyflym er mwyn lliniaru unrhyw fygythiad, niwed a risg i'n cymunedau. Cânt eu cefnogi gan rwydwaith o ‘loerennau’ sy'n hygyrch i'r gymuned ac sy'n sicrhau ymgysylltu effeithiol â chymdogaethau ac y gall unigolion gael gafael ar ein gwasanaethau yn yr ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf. Caiff unrhyw gynigion i newid eu rhoi ar waith mewn ymgynghoriad agos â sefydliadau partner a'r cymunedau a wasanaethir gennym.”
Caiff yr adolygiad o'r Ystad ei gynnal fesul cam yn y pum ardal Awdurdod Lleol a wasanaethir gan Wasanaeth yr Heddlu a bydd yn para am gyfnod o 10 mlynedd.