Adeilad newydd yr heddlu yn Y Fenni wedi agor yn swyddogol
Agorwyd adeilad newydd Heddlu Gwent yn Y Fenni yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ddydd Llun (16 Rhagfyr).
Mae'r adeilad, oddi ar yr A465 yn Llan-ffwyst, yn lleoliad ar gyfer timau plismona cymdogaeth ac unedau ymateb Heddlu Gwent Dewiswyd y lleoliad er mwyn ei gwneud yn hawdd i swyddogion allu cerdded o gwmpas canol tref Y Fenni ac er mwyn i gerbydau ymateb allu cyrraedd rhwydweithiau ffyrdd lleol yn hawdd ar gyfer galwadau brys.
Bydd desg ymholiadau gorsaf Y Fenni yn parhau yn y ganolfan adnoddau a rennir yn Neuadd y Dref Y Fenni sy'n lleoliad haws ei gyrraedd i drigolion lleol.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Rydyn ni'n gwybod bod y cyhoedd eisiau gweld mwy o blismona cymdogaeth a mwy o adnoddau priodol i fynd i'r afael â throsedd.
"Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi y byddwn yn recriwtio 13,000 o swyddogion heddlu cymdogaeth a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu i wneud hynny.
"Bydd yr orsaf heddlu newydd yn Y Fenni'n sicrhau bod gan swyddogion lleol Heddlu Gwent leoliad gweladwy yn y dref a'u bod yn gallu helpu i gadw'r strydoedd yn ddiogel.
“Gall swyddogion a'r cyhoedd yng Nghymru fod yn glir y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud y gwelliannau y maen nhw eu hangen."
Cyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yw ystâd Heddlu Gwent. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Gwladol am agor ein lleoliad heddlu newydd yn Y Fenni'n swyddogol. Mae'r adeilad newydd yma, ar y cyd â'r ddesg gwasanaeth yn Neuadd y Dref Y Fenni, yn rhoi'r gorau o ddau fyd; lleoliad hygyrch i drigolion gael gwasanaeth wyneb yn wyneb, a lleoliad gweithredol modern i swyddogion a staff.
“Mae sicrhau bod gan Heddlu Gwent yr adnoddau a'r cyfleusterau angenrheidiol i flaenoriaethu presenoldeb plismona gweladwy yn ein cymunedau yn un o'r addewidion rwyf wedi eu gwneud i bobl Gwent. Bydd y lleoliad newydd yn galluogi Heddlu Gwent i fod yn fwy gweladwy yn Y Fenni a'r ardal o gwmpas a bydd yn rhoi canolfan i dimau lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol."
Bydd yr adeilad yn lleoliad i swyddogion a staff o dimau cymdogaeth ac ymateb Heddlu Gwent, ac mae'n un o adeiladau mwyaf gwyrdd Heddlu Gwent hyd yn hyn, ar ôl iddo dderbyn statws ardderchog gan BREEAM - system ardystio seiliedig ar wyddoniaeth ar gyfer amgylchedd adeiledig cynaliadwy.
Meddai Prif Gwnstabl Mark Hobrough: “Trwy leoli ein timau cymdogaeth ac ymateb yn yr adeilad heddlu newydd yma, rydym yn mynd i fod yn fwy gweladwy yn Y Fenni a'r ardaloedd o gwmpas.
"Mae gwella ein darpariaeth gymunedol a bod yn fwy amlwg yn ein cymunedau'n flaenoriaeth i mi. Ein nod yw cryfhau ein cysylltiadau gyda'n cymunedau er mwyn gallu rhoi gwell sylw i'w pryderon a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel yn y pen draw.”
Cwmni ymgynghori amlddisgyblaeth Pick Everard oedd yn gyfrifol am y cynllun, yn gweithredu trwy Perfect Circle i ddarparu gwasanaethau rheoli prosiect a goruchwylio NEC ochr yn ochr â'r contractwr Willmott Dixon. Cyflawnwyd y prosiect yn unol â fframwaith ymgynghori SCAPE, ac mae wedi derbyn ardystiad BREEAM ardderchog a'i gydnabod yn y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol Cenedlaethol am ei effaith gadarnhaol ar yr ardal.
Meddai Thomas Bean, uwch-reolwr prosiect yn Pick Everard: “Mae'r prosiect yma o greu canolfan blismona allweddol fodern yng Nghymru wedi bod yn brosiect gwerth chweil go iawn. Roedd angen ein harbenigedd i helpu i lywio datblygiad safle tir llwyd ac adeiladu cyfleuster a fyddai'n gwasanaethu'r ardal yn effeithiol. Roedd y ganolfan newydd yn hollbwysig er mwyn hyder y cyhoedd hefyd, gyda lleoliad yn agos at ganol y dref a'r A465 yn galluogi cerbydau i ymateb yn gyflym.
"Nawr ei bod wedi'i chwblhau, mae'r orsaf yn fan gwaith modern, gweithredol ac ymarferol i swyddogion a staff. Fel gorsaf fwyaf gwyrdd Heddlu Gwent hyd yn hyn, mae'r adeilad newydd yn feincnod ar gyfer cydbwyso anghenion gweithredol gyda chymwysterau cynaliadwy."