Achosion o ddwyn, lladradau a byrgleriaeth wedi gostwng ledled Gwent
Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod troseddau meddiangar, gan gynnwys lladradau, dwyn a byrgleriaeth, wedi gostwng ledled Gwent yn ystod y flwyddyn rhwng mis Medi 2020 a mis Medi 2021.
Roedd gostyngiad o 19 y cant mewn byrgleriaethau preswyl, ac fe gwympodd troseddau dwyn o 18 y cant, a lladrata o ddau y cant.
Mae’r ffigurau’n dangos bod Gwent yn parhau i fod â rhai o’r lefelau isaf o droseddau a gofnodir yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae’r ffigurau yma’n galonogol iawn. Er bod y pandemig wedi chwarae rhan yn hyn, mae’r lleihad sylweddol yma mewn troseddau meddiangar hefyd o ganlyniad i blismona rhagweithiol gan Heddlu Gwent, gyda mentrau fel Dangos y Drws i Drosedd yn targedu troseddau yn ein cymunedau yn benodol.
“Mae cadw ein preswylwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth yn fy nhymor fel comisiynydd, ac mae’r ffigurau diweddaraf yma gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos ein bod ni bellach yn gweld manteision gwaith partneriaeth hirdymor yn ein cymunedau.”
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae troseddau fel byrgleriaeth, lladradau a dwyn yn aml yn cael effaith wirioneddol ar y bobl sy’n byw yn ein cymunedau.
“Mae’n gallu bod yn drawmatig pan fydd eiddo personol yn cael ei gymryd oddi ar rywun, yn enwedig os oes gwerth sentimental iddo.
“Yn aml mae’r troseddau yma’n ymyrryd â theimlad rhywun o breifatrwydd, gan effeithio ar eu gallu i deimlo’n ddiogel am gyfnod hir.
“Mae hi bob amser yn galonogol gweld gostyngiad yn y mathau hyn o droseddau yng Ngwent.
“Rydyn ni’n cymryd camau cadarnhaol i leihau’r troseddau yma gyda mentrau fel Dangos y Drws i Drosedd, gan aduno perchnogion gyda’u heiddo a cheisio dod â’r rhai sy’n gyfrifol am y troseddau yma gerbron y llysoedd.”
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod pob ardal blismona ledled Prydain wedi adrodd cynnydd mewn twyll yn ystod y cyfnod.
Meddai Jeff Cuthbert: “Mae troseddwyr wedi manteisio ar yr amser cynyddol mae pobl yn ei dreulio ar-lein yn ystod y pandemig, ac nid yw’n syndod ein bod ni wedi gweld cynnydd mewn twyll.
“Byddwn yn annog pob preswylydd i fod yn ofalus ar-lein, a dim ond prynu eitemau o ffynonellau dibynadwy, a dylech wirio bob amser cyn clicio ar ddolenni a gaiff eu hanfon drwy neges destun neu e-bost.”
Os ydych chi wedi dioddef twyll, cysylltwch ag Action Fraud drwy 0300 123 2040.