Academi ffilm i agor ei ddrysau i bobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol
Mae academi ffilm ym Mlaenau Gwent, sydd wedi ennill gwobrau, yn agor ei ddrysau i blant yn ystod gwyliau ysgol.
Mae Cymru Creations yn Nhredegar wedi derbyn £5000 gan Gronfa Uchel Siryf Gwent i gynnal gweithdai ychwanegol yn Academi Ffilm Blaenau Gwent.
Mae'r cwmni'n gweithio gyda channoedd o bobl ifanc i greu ffilmiau sy'n seiliedig ar brofiadau yn eu bywydau eu hunain. Maen nhw'n gyfrifol am ddatblygu'r storïau, ysgrifennu'r sgriptiau, actio, ffilmio a golygu.
Meddai Kevin Phillips o Cymru Creations: "Fel arfer mae cyrsiau ffilm fel hyn yn ddrud, felly mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc na fyddent yn ei gael fel arall. Mae'n wych gweld y bobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd, datblygu a thyfu fel unigolion ac fel tîm wrth i'r wythnosau fynd heibio.
"Mae gennym ni restr aros anferthol ac mae'r arian yma'n golygu y gallwn ni agor ein drysau i hyd yn oed mwy o bobl ifanc."
Nod Cronfa Uchel Siryf Gwent yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl ifanc Gwent trwy gefnogi prosiectau sy'n helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai'r Uchel Siryf, yr Athro Simon Gibson, CBE, DL: Mae Academi Ffilm Cymru Creations yn parhau i roi cyfle gwych i bobl ifanc gael profiad o gynhyrchu'r cyfryngau. Maent hefyd yn cael cipolwg ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol. Y llynedd enillodd y tîm Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, sy'n destament i'w gwaith allgymorth yn y gymuned.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyfrannu £65,000 tuag at y gronfa.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rydym wedi cefnogi Cymru Creations yn frwd ers llawer o flynyddoedd ac rwyf wrth fy modd i fod wedi sicrhau'r cyllid ychwanegol hwn i alluogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithdai.
"Mae hwn yn gyfle ardderchog i bobl ifanc a bydd yn eu helpu nhw i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a chyfeirio eu hegni at rywbeth creadigol."