System Cwynion Newydd yr Heddlu
Cyflwynodd Deddf yr Heddlu a Throsedd 2017 (y Ddeddf) newidiadau i system Cwynion yr Heddlu a oedd yn rhoi cyfle i gomisiynwyr heddlu a throsedd gymryd mwy o reolaeth dros gŵynion yn erbyn swyddogion heddlu. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 1af Chwefror 2020. Yr Adran Safonau Proffesiynol o fewn Heddlu Gwent yw'r unig bwynt cyswllt ar gyfer cwynion am swyddogion a staff heddlu, ac eithrio'r Prif Gwnstabl, yn awr. Bydd Swyddfa'r Comisiynydd yn parhau i ymdrin â chwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl.
Os ydych am wneud cwyn, bydd gennych un pwynt cyswllt a fydd yn ei gwneud yn glir pwy y dylech siarad â nhw ac yn lleihau oedi. Mae'r uned sy'n ymdrin â chwynion yn cael ei hadnabod fel yr Uned Ymateb i'r Cyhoedd.
O dan y rheoliadau newydd, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am unrhyw adolygiad yr hoffech chi wneud cais amdano ar ôl i'r Adran Safonau Proffesiynol gynnal ei hymchwiliad. Mae hyn yn sicrhau bod y broses adolygu yn annibynnol ar Heddlu Gwent.
Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn parhau i ymdrin â chwynion yn erbyn y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd.