Y Ddyletswydd Trais Difrifol
Strategaeth Interim Gwent ar gyfer Atal Trais Difrifol 2024-25
‘Gwent Heb Drais’
Datblygu ein Fframwaith Strategol ar gyfer Gweithredu: 2024–2025
Crynodeb Gweithredol
Cyflwyniad
Y Sefyllfa Bresennol
Ein Dull Gweithredu
Blaenoriaeth Strategol Un
Blaenoriaeth Strategol Dau
Blaenoriaeth Strategol Tri
Blaenoriaeth Strategol Pedwar
Casgliadau
Atodiad A: Theori Newid
Atodiad B: Dotiau - Partner a Phartneriaethau
Crynodeb Gweithredol
Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr a theuluoedd, ac yn ennyn ofn o fewn cymunedau ac mae'n arwain at gostau economaidd a chymdeithasol helaeth i gymdeithas, cymunedau, teuluoedd, ac unigolion. Mae achosion o drais difrifol wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yng Ngwent, yn anffodus, rydym yn gweld yr un patrwm. Er mwyn gwrthdroi'r duedd yma mae angen dull system gyfan amlasiantaeth lle mae pawb yn gweithio tuag at weledigaeth strategol ar y cyd o 'Gwent heb Drais'.
Dylai ein dull cyfunol fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r sefyllfa trais difrifol bresennol yng Ngwent, y gwaith atal ac ymyrryd yn gynnar seiliedig ar dystiolaeth gofynnol i wrthdroi'r duedd yma, pa ymyriadau a gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ac yna manylion ynghylch ble mae angen camau gweithredu pellach. Caiff hyn ei ategu gan ddealltwriaeth glir o flaenoriaethau partneriaeth a rhyng-bartneriaeth sydd o fudd i bawb ac sy'n cael eu llywio a'u datblygu trwy ddealltwriaeth gymunedol ystyrlon.
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n dwyn deddfwriaeth newydd i rym yn cyflwyno Dyletswydd Trais Difrifol ("y Ddyletswydd") er mwyn sicrhau bod gwAASnaethau perthnasol yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth a thargedu ymyriadau lleol. Gwneir hyn, lle bo'n bosibl, drwy bartneriaethau sy'n bodoli, cydweithredu a chynllunio er mwyn atal a lleihau trais difrifol yn eu cymunedau lleol. Roedd y Ddyletswydd yn annog ardaloedd lleol i fabwysiadu dull iechyd y cyhoedd i roi sylw i drais wrth ddatblygu'r strategaeth. Mae hwn yn ddull sy'n ceisio gwella iechyd a diogelwch pob unigolyn trwy roi sylw i ffactorau sylfaenol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dod yn ddioddefwr neu'n cyflawni trais.
Mewn ymateb i'r Ddyletswydd, sefydlwyd Gweithgor Atal Trais Difrifol ("Gweithgor") gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) fel y prif gynullydd yng Ngwent yn gynnar yn 2023. Mae aelodau'r Gweithgor yn cynnwys partneriaid perthnasol, fel yr amlinellir yn y Ddyletswydd ac sy'n cael eu hadnabod fel 'Awdurdodau Penodedig'. Gorchwyl gyntaf y Gweithgor oedd datblygu Asesiad o Anghenion Strategol (AAS) i ddeall y sefyllfa trais difrifol yng Ngwent yn iawn. Hwn oedd yr AAS rhanbarthol cyntaf ar gyfer Gwent ac fel y cyfryw mae wedi bod yn orchwyl anferthol i bartneriaid, dan arweiniad Swyddfa'r Comisiynydd.
Mae AAS cyntaf Gwent yn ymwneud â'r cyfnod pum mlynedd 2018-19 i 2022-23 a chafodd ei gyhoeddi ar yr un dyddiad â'r strategaeth interim yma, fel y mynnir gan y Ddyletswydd, ar 31 Ionawr 2024. Mae iteriad cyfredol yr AAS yn dangos bod lefel trosedd treisgar difrifol wedi bod yn cynyddu'n raddol yng Ngwent yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae pob un o'n pum awdurdod lleol wedi profi cynnydd mewn troseddau treisgar ers 2019-20 pan gafwyd gostyngiad ym mhob math o drosedd oherwydd pandemig Covid-19.
Yng Ngwent, nid oes unrhyw system ar waith ar hyn o bryd i gasglu data trais difrifol rhanbarthol a lleol partneriaid yn systematig, ac mae hyn yn cael ei ddwysau gan ddiffyg adnodd dadansoddi data i ddadansoddi a dehongli'r data sy'n cael ei rannu. Mae'r darlun presennol o drais difrifol yng Ngwent yn anghyflawn felly, yn arbennig o ran deall a dehongli beth mae'r data presennol yn dweud wrthym ni ynghylch ble mae angen gweithredu. Mae hyn yn cyfyngu ar effeithiolrwydd y gwaith o bennu blaenoriaethau tymor hirach o fewn y Strategaeth ranbarthol a chynlluniau cyflawni Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o gael 'Gwent heb Drais' mae angen gwell dealltwriaeth arnom ni o'r sefyllfa trais difrifol i lywio ein cyfeiriad strategol sy'n ymgorffori data partner a phartneriaeth priodol.
Dyma Strategaeth Atal Trosedd Difrifol gyntaf Gwent ac felly mae'n fwriadol yn pennu'r blaenoriaethau sydd i'w cyflawni yn 2024-25 a fydd yn caniatáu amser i roi sylw i'r bylchau mewn data a gwybodaeth, y gellir eu defnyddio wedyn i ddiweddaru'r Strategaeth hon o 2025 ymlaen. Ar gyfer 2024/25, nodir pedair blaenoriaeth strategol a fydd yn ein galluogi i osod y seiliau y gellir adeiladu Strategaeth Atal Trosedd Difrifol effeithiol arnynt:
Blaenoriaeth Strategol Un: Defnyddio data yn well er mwyn llywio gweithredu
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i gyflawni dull sy'n cael ei arwain gan ddata i atal trais difrifol.
- Mae dull sy'n cael ei arwain gan ddata yn gofyn am y gallu i ddefnyddio data dadansoddol pwrpasol, swyddogaeth gadarn ar gyfer casglu a dadansoddi data rhanbarthol, gyda llywodraethu priodol. Byddwn yn ymchwilio i gyfleoedd i rannu data partner a phartneriaeth cyfredol, gallu ac arbenigedd dadansoddol ac, os oes angen, byddwn yn ariannu adnodd dadansoddi data newydd a phwrpasol. Unwaith y byddant wedi cael eu canfod, byddwn yn cytuno ar setiau data gofynnol, a bydd systemau llif data'n cael eu sefydlu. Bydd AASau yn y dyfodol yn cael eu hategu gan ddata partner ychwanegol, o ffynonellau fel asiantaethau unigol/awdurdodau penodedig, partneriaid Trydydd Sector a dealltwriaeth cymunedau lleol. Byddai data partneriaeth ehangach yn ategu at AASau yn y dyfodol hefyd. Gallai hyn gynnwys data gan strwythurau llywodraethu rhanbarthol fel Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gwent.
- Yn ogystal â bodloni'r Ddyletswydd Trais Difrifol ar ei phen ei hun, mae cysylltiadau clir rhwng y flaenoriaeth yma a blaenoriaethau partneriaethau diogelwch cymunedol ehangach, a gwaith partneriaethau eraill (fel y rhai uchod) sy'n cael effaith ar drais difrifol ledled Gwent. Bydd hyn yn gofyn am fwy o waith partner a phartneriaeth, ymddiriedaeth, a rhannu adnoddau. Bydd y dull yma'n darparu'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn rhoi'r ymyriadau mwyaf priodol a phwrpasol mewn lle i leihau trais difrifol.
Blaenoriaeth Strategol Dau: Blaenoriaethu gwaith i roi sylw i ffactorau risg trais gydag ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i ddeall achosion trais difrifol er mwyn ein galluogi ni i ddefnyddio dull cyson sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth i atal trais difrifol.
- Mae angen dull cyson ledled Gwent i ddeall, blaenoriaethu, a defnyddio gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth am achosion a ffactorau risg trais difrifol. Er bod tystiolaeth glir o ffactorau risg i gyflawnwyr a dioddefwyr trais, sy'n cynnwys oedran, rhywedd, rhywioldeb, addysg, normau cymdeithasol a diwylliannol, iechyd meddwl, defnyddio sylweddau, a thrawma yn ystod plentyndod (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod) a bod cronfeydd cydnabyddedig yn rhoi canllawiau ar ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth, nid yw'r wybodaeth yma ar gael yn systematig, yn hygyrch, nac yn berthnasol yn y cyd-destun lleol. Ni chyfeirir ati mewn cynlluniau partner a phartneriaeth yn gyson chwaith.
- Bydd strategaethau a chynlluniau gweithredu rhanbarthol a lleol yn y dyfodol yn cynnwys manylion eglur am ganlyniadau atal ac ymyrraeth gynnar a'r defnydd o ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth, wedi eu hategu gan fesurau canlyniad a fydd yn cael eu monitro a'u gwerthuso. Bydd ystyriaeth o arfer sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth a phrosesau monitro a gwerthuso cadarn yn hollbwysig i waith cynllunio a chomisiynu rhanbarthol a lleol yn y dyfodol.
Blaenoriaeth Strategol Tri: Ymuno’r dotiau i wella dealltwriaeth a sicrhau cymaint o effaith â phosibl
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i ddeall y sefyllfa leol, yn ogystal â cheisio dysgu gan weithgareddau ac arfer da mewn ardaloedd eraill o fewn a thu allan i Went.
- Er mwyn manteisio i'r eithaf ar waith partner gwell, cydweithrediad rhwng partneriaid ac er mwyn cyfuno gwasanaethau/adnoddau i atal trais difrifol, mae angen i ni weithio'n ddi-fwlch. Gorwedd y cyfrifoldeb statudol dros ddiogelwch cymunedol ym mhob un o'n pum ardal awdurdod lleol gyda'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, ac mae gan bob un ohonynt gynllun gweithredu seiliedig ar AASau lleol. Fodd bynnag, oherwydd graddfa'r bregusrwydd a'r tueddiadau sy'n dylanwadu ar drais mae amrywiaeth eang o bartneriaethau a rhwydweithiau lleol y mae eu blaenoriaethau hefyd yn cael effaith ar atal trais difrifol.
- Tynnir sylw at y fforymau yma yn yr Atodiadau ond maent yn cynnwys y Bwrdd Diogelwch Cyhoeddus, Bwrdd VAWDASV, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol, Grŵp Cydgysylltu Tai Strategol, Bwrdd Diogelu Gwent, a Bwrdd Cynllunio Ardal Rhanbarthol Gwent ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau - y mae gan bob un ohonynt gyfrifoldebau statudol. Mae nifer o fforymau lleol sefydlog sy'n rhoi sylw i flaenoriaethau tebyg, fel y Byrddau Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid a rhai sy'n dod i'r amlwg fel Cyfarfod Partneriaeth Troseddau Trefnedig Difrifol Rhaid ystyried blaenoriaethau a gweithgareddau'r holl fforymau yma er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion, a dylid helaethu'r ymdrechion er mwyn cyflawni goliau ar y cyd.
Blaenoriaeth Strategol Pedwar: Mabwysiadu dull seiliedig ar leoliad sy'n defnyddio profiad lleol, yn gwrando ar leisiau'r gymuned ac sy'n cael ei gryfhau trwy lywodraethu rhanbarthol
Byddwn yn ategu profiad a dealltwriaeth leol o drais drwy ddull seiliedig ar leoliad sy'n cael ei gefnogi gan bartneriaethau rhanbarthol.
- Mae angen i ymateb effeithiol i drais difrifol ddefnyddio profiad lleol, yn ogystal â gwrando ar leisiau'r gymuned ac ymateb iddynt. Ledled rhanbarth Gwent, mae'r Gweithgor yn cytuno er bod gweledigaeth ar y cyd i atal trais difrifol, nid yw patrymau trais difrifol yr un fath ar draws ein hardaloedd.
- Er bod partneriaid awdurdodau penodedig wedi cytuno i gydweithio ar strategaeth a chefnogaeth ar gyfer Gwent gyfan, bydd ymyriadau a gweithgareddau atal trais difrifol hefyd y parhau i gael eu harwain gan angen lleol ac yn cael eu llywio gan wybodaeth leol gan gynnwys lleisiau'r gymuned. Bydd angen cryfhau llywodraethu rhanbarthol a lleol ar ôl ystyried canfyddiadau adolygiad Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd o bartneriaethau diogelwch cymunedol.
Yng Ngwent, rydym wedi ymroi i ddiogelu'r sylfeini angenrheidiol ar gyfer sefydlu strategaeth sy'n cyflawni ein gweledigaeth 'Gwent heb Drais'. Mae'r strategaeth interim yma'n sefydlu'r hyn y mae angen i ni ei roi ar waith cyn amlinellu strategaeth tymor hirach i atal trais difrifol.
Cyflwyniad
Y Ddyletswydd
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n cyflwyno Dyletswydd Trais Difrifol ("y Ddyletswydd") ar amrywiaeth o Awdurdodau Penodedig. Mae'r Ddyletswydd yn sicrhau bod gwasanaethau perthnasol yn cydweithio i rannu gwybodaeth a thargedu ymyriadau lleol. Gwneir hyn, lle bo'n bosibl, drwy bartneriaethau sy'n bodoli, cydweithredu a chynllunio er mwyn atal a lleihau trais difrifol yn eu cymunedau lleol.
Roedd y Ddyletswydd yn pennu'r gofynion penodol bod:
- 'Awdurdodau Penodedig' yn cydweithio a chynllunio i atal a lleihau trais difrifol "gan gynnwys adnabod y math o drais difrifol sy'n digwydd yn yr ardal, achosion y trais hwnnw, ac yn paratoi strategaeth i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal a'i rhoi ar waith" .
- Ardaloedd lleol yn amlinellu eu blaenoriaethau tymor canolog a hirdymor, a gweithredoedd/ymyriadau dilynol gofynnol yn seiliedig ar fodel theori newid AC yn annog mabwysiadu diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o ddull iechyd y cyhoedd tuag at leihau trais trwy ddefnyddio fframwaith pedwar cam Sefydliad Iechyd y Byd .
Cyflwynwyd y Ddyletswydd i roi sylw i effaith ddinistriol trais difrifol ar fywydau dioddefwyr a theuluoedd, ofn mewn cymunedau a'r gost i gymdeithas a chymunedau. Mae digwyddiadau o drais difrifol wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn y blynyddoedd diweddar, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yng Ngwent.
Yr Ymateb Lleol
Yn 2023, sefydlodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Weithgor Trais Difrifol, fel y prif gynullydd, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Penodedig yng Ngwent. Cafodd y Gweithgor y dasg o gyd-gynhyrchu Asesiad o Anghenion Strategol (AAS) a Strategaeth Atal Trais Difrifol rhanbarthol.
Dyma'r tro cyntaf i AAS a Strategaeth Atal Trais Difrifol gael eu cynhyrchu yng Ngwent. Cyn 2024, roedd gofyn i AASau a strategaethau diogelwch cymunedol ehangach gael eu cynhyrchu ar lefel awdurdod lleol gan bartneriaethau diogelwch cymunedol, yn aml trwy Gynlluniau Lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae pum ardal Awdurdod Lleol yng Ngwent: Mae gan Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, a Chasnewydd strwythurau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn awr. Cafodd y rhan fwyaf o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Ngwent eu diwygio’n ddiweddar yn annibynnol ar strwythurau Partneriaeth Lles lleol blaenorol y Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd.
Mae'r tîm Iechyd y Cyhoedd yn gweithio o fewn Bwrdd Iechyd lleol Gwent: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan arweiniodd ddatblygiad y strategaeth hon mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Penodedig. Ychwanegwyd at y wybodaeth a gasglwyd yn yr Asesiad o Anghenion Strategol ac a lywiodd datblygiad y strategaeth interim yma gan ddau weithdy partneriaid a chyfres o gyfarfodydd Gweithgor a phartner.
Cytunwyd mai ein gweledigaeth leol yw: "Gwent Heb Drais". Mae angen dull strategol i gyflawni'r weledigaeth yma, sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth gyflawn o'r data, gwybodaeth, y sail tystiolaeth, blaenoriaethau partner a phartneriaeth a dealltwriaeth gymunedol. Mae'r strategaeth yn nodi'r blaenoriaethau strategol allweddol sydd eu hangen i ddechrau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r data a'r wybodaeth bresennol, ymgysylltu â chymunedau i geisio eu barn ac alinio a chryfhau'r strwythurau partneriaeth cymunedol sy'n datblygu ar lefel leol a rhanbarthol yng Ngwent.
Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at gamau gweithredu ar gyfer 24/25 a fydd yn rhoi'r ddealltwriaeth a’r ysgogiad ar gyfer yr hyn y mae ei angen i leihau ac atal trais difrifol yn effeithiol yng Ngwent.
Y Sefyllfa Bresennol
Cefndir
Mae'r Ddyletswydd yn nodi y dylai Asesiad o Anghenion Strategol (AAS) ddarparu'r wybodaeth i lywio datblygiad blaenoriaethau strategol, a dylai manylion sut mae'r blaenoriaethau hyn yn cael sylw gael eu disgrifio mewn strategaeth leol. Dylai'r AAS lleol ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Pa fath o drais sy'n digwydd
- Pwy sy'n cael ei effeithio gan drais
- Ble mae trais yn digwydd
- Pryd mae trais yn digwydd
- Ble y bo'n bosibl, pa ymyriadau sydd eu hangen
Dyma'r tro cyntaf i AAS a Strategaeth Trais Difrifol gael eu drafftio yng Ngwent ar gyfer y rhanbarth cyfan. Roedd y Ddyletswydd yn gofyn bod y ddau yn cael eu cwblhau erbyn 31 Ionawr 2024, ac fel y cyfryw, roedd datblygiad y strategaeth yma'n seiliedig ar fersiwn esblygol o'r AAS.
'Diffiniad' Gwent o Drais Difrifol
Yng Ngwent, cytunwyd mai'r diffiniad o drais difrifol, neu'r 'meysydd y dylid canolbwyntio arnynt' yw:
- Lladdiadau
- Troseddau cyllyll a gynau
- Trais gan ieuenctid mewn mannau cyhoeddus
- Trais ymysg ieuenctid mewn ysgolion
- Niwed corfforol difrifol (GBH) a gwir niwed corfforol (ABH)
- Lladrad
- Trais rhywiol a cham-drin domestig gan gynnwys stelcio ac aflonyddu
- Tanau bwriadol sy'n bygwth bywyd
- Ymosodiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol.
Cytunodd Gweithgor Dyletswydd Trais Difrifol Gwent ar y diffiniad yma, gyda chynrychiolaeth gan bob Awdurdod Penodedig.
Y sefyllfa bresennol yng Ngwent
Beth?
Mae Asesiad o Anghenion Strategol Gwent (2018-19 tan 2022-23) wedi amlygu bod lefel troseddau trais difrifol wedi bod yn cynyddu'n raddol yng Ngwent dros y pum mlynedd diwethaf.
Y troseddau trais difrifol gyda'r gyfradd uchaf o drosedd i bob 1,000 o'r boblogaeth yng Ngwent yw: ’stelcio ac aflonyddu’, ‘gwir niwed corfforol’ a ‘throseddau'n ymwneud ag arf’. Yn 2022/23, cyrhaeddodd lladdiadau'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed, a chafwyd cynnydd sylweddol mewn adroddiadau am ‘ymosodiadau ar weithwyr proffesiynol’, ‘lladrad’ a ‘throseddau arfau (arfau llafnog yn benodol)’. Sylwer: Mae hyn yn seiliedig ar y set data cyfredol ac nid yw'n cynnwys data trais domestig na throseddau sy'n rhagflaenu troseddau treisgar. Mae hyn yn dangos yr angen taer a hanfodol am weithredu ar y cyd ac yn gyd-gysylltiedig yng Ngwent i gyflawni ein gweledigaeth 'Gwent heb Drais'.
Wrth ddatblygu'r strategaeth hon, cytunodd y partneriaid awdurdodau penodedig i gydweithredu gyda Bwrdd Comisiynu Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), i gyd-gomisiynu ymgynghorydd i roi dadansoddiad manwl o'r sefyllfa trais rhywiol a cham-drin domestig presennol ledled Gwent. Disgwylir i'r adroddiad yma fod yn barod yn y gwanwyn (2024) a bydd gwybodaeth berthnasol yn cael ei hychwanegu at yr AAS yma bryd hynny.
Beth a ble?
Mae pob un o'r pum ardal awdurdod lleol yn cynnwys 'stelcio ac aflonyddu' a 'gwir niwed corfforol' yn y tri uchaf ar eu rhestr o droseddau trais difrifol a gofnodwyd. Mae pedwar allan o bump o'n hawdurdodau lleol: Caerffili, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy wedi gweld cynnydd mewn lladdiadau hefyd. Yr eithriad yw Blaenau Gwent nad oedd ag unrhyw laddiadau wedi'u cofnodi. Y prif droseddau trais difrifol a gofnodwyd ym Mlaenau Gwent oedd 'stelcio ac aflonyddu', wedi ei ddilyn gan 'gwir niwed corfforol' a 'troseddau'n ymwneud ag arf'.
Mae stelcio ac aflonyddu'n cyfrif am y rhan fwyaf o droseddau treisgar a gofnodwyd yng Ngwent, o ran cyfraddau a nifer troseddau. Mae'r gyfradd a gofnodwyd ledled Gwent ar gyfer stelcio ac aflonyddu wedi cynyddu 32% yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Er bod pob ardal awdurdod lleol wedi cofnodi cynnydd, cofnodwyd y cynnydd mwyaf ym Mlaenau Gwent (57%), yna Sir Fynwy (48%) a Chaerffili (35%). Bydd dadansoddiad a naratif manylach yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau data yn y dyfodol a fydd yn cynnwys ystyriaeth o ddata VAWDASV.
Gwir niwed corfforol yw'r drosedd dreisgar sy'n cael ei chofnodi fel yr ail uchaf yng Ngwent. Er bod cyfraddau gwir niwed corfforol a gofnodwyd yng Ngwent wedi bod yn sefydlog dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r darlun yma'n cuddio'r amrywiaeth ar draws y pum ardal awdurdod lleol. Cafwyd tuedd gynyddol ym mhedair o'r pum ardal awdurdod lleol, sydd wedi cael ei gwrthbwyso gan y duedd ar i lawr yng Nghasnewydd. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn cofnodion o wir niwed corfforol yn Sir Fynwy, gyda chynnydd o 11% dros y pum mlynedd diwethaf.
Troseddau'n ymwneud ag arf yw'r drosedd dreisgar sy'n cael ei chofnodi fel y drydedd uchaf yng Ngwent. Mae wedi dangos cynnydd graddol ym mhob un o'r pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent. Yn 2022/23 mae cynnydd mewn troseddau'n ymwneud ag arf ym Mlaenau Gwent wedi cynyddu 51%, 21% yng Nghaerffili, 20% yn Sir Fynwy, 22% yng Nghasnewydd, a 18% yn Nhorfaen.
Pwy?
Ar gyfer y rhan fwyaf o droseddau treisgar, mae'r AAS yn dangos ar hyn o bryd bod dioddefwyr a throseddwyr o oedran tebyg: maen nhw rhwng 26 a 35, yn wyn ac yn wrywaidd. Mae hyn ychydig yn wahanol ar gyfer lladdiadau lle mae dioddefwyr fel arfer dros 46 a throseddwyr rhwng 18 a 25. O ran stelcio ac aflonyddu, mae dioddefwyr ar gyfartaledd rhwng 26 a 35 ac yn fenywaidd gyda'r rhan fwyaf yn cael eu cofnodi fel 'gwyn' o ran ethnigrwydd. Mae angen data a dadansoddiad pellach i ddeall y darlun yma'n iawn. Hefyd, mae'n bwysig nodi wrth ystyried y data yma ei fod yn seiliedig ar y nifer y 'troseddau wedi'u riportio' a gan hynny dylid ystyried y grwpiau o'r boblogaeth sy'n llai tebygol o riportio troseddau.
Pryd?
Cofnodir bod troseddau treisgar yn cael eu cyflawni amlaf rhwng misoedd Ebrill a Rhagfyr, yn ystod y penwythnos a rhwng 3pm a hanner nos. Cofnodir bod y rhan fwyaf o droseddau treisgar yn digwydd tua hanner nos. Wrth symud ymlaen bydd dadansoddiad a naratif manylach yn cael eu cynhyrchu mewn Proffiliau Problemau a fydd yn rhoi'r manylion angenrheidiol i ysgogi gweithgareddau yn lleol, megis manylion lleoliad trosedd (h.y. cartrefi, parciau, eiddo trwyddedig) a fydd yn galluogi mentrau a phrosiectau ataliol mwy pwrpasol.
Pam?
Mae rhai bylchau o hyd yn y data y mae angen rhoi sylw iddynt cyn cynnal dadansoddiad manylach o'r data er mwyn deall y sefyllfa trais difrifol leol. Er enghraifft, nid yw data trais domestig/rhywiol wedi cael ei gynnwys yn fanwl eto oherwydd bod asesiad o anghenion annibynnol wedi cael ei gomisiynu mewn partneriaeth gyda Bwrdd VAWDASV Gwent. Bydd fersiynau o'r AAS yn y dyfodol yn rhoi set data mwy cynhwysfawr, ond bydd hyn yn gofyn am ddull pwrpasol a chynaliadwy o ddadansoddi data.
Mae dull sy'n cael ei arwain gan ddata, sy'n cynnwys dadansoddiad a naratif, ynghyd â dealltwriaeth dda o'r sail tystiolaeth yn rhagflaenydd hanfodol i ddeall pam mae trais difrifol yn digwydd yn ein hardaloedd. Bydd fersiynau o'r AAS yn y dyfodol yn rhoi disgrifiad mwy cynhwysfawr o'r ffactorau bregusrwydd a risg a sbardunau trais difrifol, gan ddarparu'r dystiolaeth angenrheidiol i ddeall pam mae patrymau o drais difrifol yn digwydd ledled Gwent yn well, yn ogystal â nodi ymyriadau ataliol effeithiol.
Mae'r Ddyletswydd yn nodi bod strategaeth effeithiol yn ystyried strategaethau/partneriaethau eraill sydd â rhan i'w chwarae yn atal trais difrifol er mwyn sicrhau mwy o gydlyniant, mwy o waith partner a dim dyblygu ymdrechion ac adnoddau. Mae hon yn flaenoriaeth ar gyfer fersiynau o'r AAS a'r Strategaeth yn y dyfodol.
Gan ystyried y cyd-destun yma, cytunodd y Gweithgor i ddatblygu strategaeth interim sy'n amlinellu'r blaenoriaethau strategol allweddol y mae eu hangen i ddarparu'r wybodaeth, gyda chymorth gwaith llywodraethu priodol, sy'n ofynnol i ddatblygu strategaeth hirdymor i atal trais difrifol yng Ngwent. Ceir ymrwymiad i barhau i ddatblygu a gwella AAS Trais Difrifol a Strategaeth Trais Difrifol Gwent, gyda chytundeb gan bartneriaid i adolygu a diweddaru'r ddwy ddogfen o fewn chwe mis i'w cyhoeddi, gan ganiatáu amser i ystyried rôl partneriaethau lleol eraill.
Ein Dull Gweithredu - Sut byddwn yn lleihau trais difrifol yng Ngwent
Fel y cynghorir gan y Ddyletswydd, cytunodd y Gweithgor i fabwysiadau dull iechyd y cyhoedd tuag at drais. Dull yw hwn sy'n ceisio gwella iechyd a diogelwch pob unigolyn trwy roi sylw i ffactorau risg sylfaenol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dioddef neu yn cyflawni trais. Mae hyn yn gofyn am ffordd o feddwl sy'n ystyried y boblogaeth gyfan a chymunedau yn hytrach nac unigolion, gan symud y ffocws oddi wrth droseddau unigol at effeithiau ar deuluoedd a chymunedau.
Cytunodd y Gweithgor i ddefnyddio fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd: ‘Four Steps approach’ sy'n cael ei arwain gan egwyddorion iechyd y cyhoedd. I ddechrau, mae angen gwybod y ffeithiau, gan weithio mewn partneriaeth i ddeall a diffinio'r broblem. Bydd hyn yn gofyn am asesiad o achosion sylfaenol, ffactorau risg a ffactorau amddiffynnol a bydd yn cynnwys data, gwybodaeth leol, a dealltwriaeth gymunedol. Mae angen ymchwilio i ddatrysiadau wedyn trwy asesu tystiolaeth o 'yr hyn sy'n gweithio' i atal trais, a chynllunio ymyriadau. Dylid gwerthuso'r ymyriadau hyn a dylid ehangu'r rhai sy'n cael eu barnu i fod yn effeithiol ac yn gost-effeithiol.
Gellir ystyried atal ar draws tair lefel: atal cychwynnol sy'n ceisio atal trais cyn iddo ddigwydd; atal eilaidd sy'n canolbwyntio ar yr ymateb uniongyrchol i drais ac atal trydyddol sy'n lleihau niwed ar ôl i drais ddigwydd. Bydd angen i'n hymateb lleol ystyried pob un o'r lefelau atal hyn.
Yn y bôn, dylai ein cymunedau fod wrth wraidd pob cam gweithredu i roi sylw i drais. Byddwn yn ceisio ac yn ystyried barn ein cymunedau lleol wrth rannu dealltwriaeth trwy ein gwaith casglu data a gwybodaeth. Bydd eu lleisiau'n darparu'r cyd-destun lleol ar gyfer ffactorau risg a ffactorau amddiffynnol yr ydym yn cydnabod fydd yn amrywio ledled Gwent yn ogystal â cheisio sicrhau bod unrhyw ymyriad arfaethedig yn dderbyniol ac yn briodol.
Blaenoriaeth Strategol Un: Defnyddio data yn well er mwyn llywio gweithredu
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i gyflawni dull sy'n cael ei arwain gan ddata i atal trais difrifol.
Er gwaethaf y ffaith bod Swyddfa'r Comisiynydd yn ymroi adnodd dadansoddi data sylweddol i gasglu a dadansoddi data partner ar gyfer AAS cyntaf Gwent, nid yw'r fersiwn gyfredol o'r AAS yn adlewyrchu'r holl ddata perthnasol sy'n cael ei ddal ac sydd ar gael i bartneriaid. Mae angen deall y darlun trais difrifol presennol yn well trwy gasglu a dehongli data ychwanegol gan bartneriaid a phartneriaethau, a hynny ar sail barhaus.
Mae awdurdodau penodedig wedi croesawu'r cynnydd yn y llif data o ganlyniad i ddatblygu AAS cyntaf Gwent. Fodd bynnag, mae angen am ddata partner ehangach a set data mwy cynhwysfawr sy'n cynnwys fel isafswm, data trais domestig, a dadansoddiad o ddata gyda naratif i alluogi dehongli'r data. Cydnabyddir nad oes system mewn lle i dderbyn a chynnwys data ansoddol gan bartneriaid ac aelodau'r gymuned, nac i adnabod problemau a allai godi.
Er mwyn cyflawni'r flaenoriaeth strategol yma mae angen adnabod a datblygu dulliau cadarn ar gyfer derbyn, casglu, dadansoddi, dehongli, a rhannu data partneriaid mewn ffordd systematig, amserol a chynaliadwy. Mae angen cytuno ar y set data a fydd yn cael ei rannu ond dylai gynnwys data gan bartneriaid awdurdodau penodedig, partneriaethau diogelwch cymunedol lleol, data partneriaeth/fforwm ehangach fel data gan Fwrdd Diogelwch y Cyhoedd, Bwrdd VAWDASV, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol, Grŵp Cydgysylltu Tai Strategol, Bwrdd Diogelu Gwent, a Bwrdd Cynllunio Ardal Rhanbarthol Gwent ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau. Bydd Asesiad Strategol ar y Cyd Gwent, a data dealltwriaeth gymunedol leol yn ffynonellau data cyfoethog hefyd. Mae banc helaeth o ddata a gwybodaeth a allai gefnogi'r agenda atal trais difrifol, ac mae angen archwilio'r data yma a mynediad iddo.
Bydd hyn yn gofyn am adnodd dadansoddi data pwrpasol, mwy o waith partner a mwy o gydweithrediad gyda phartneriaid, yn ogystal â chynnwys data dealltwriaeth gymunedol. Bydd angen adnabod system gyda llywodraethu priodol.
Mae'r Gweithgor yn cydnabod bod cyfoeth o allu ac arbenigedd dadansoddi data o fewn Gwent, ond ar hyn o bryd mae'r adnodd yma'n cael ei ddyrannu i weithio mewn adrannau ar wahân o fewn eu partner/partneriaeth. O ystyried yr ystod o bartneriaid a phartneriaethau sydd â rhan i'w chwarae yn ymateb i atal trais difrifol, bydd y Gweithgor yn archwilio'r posibilrwydd o rannu'r adnodd yma, cyn ceisio unrhyw adnodd/dull dadansoddi data ychwanegol. Mae hyn yn gyson â chymryd dull amlasiantaeth system-gyfan tuag at atal trais difrifol. Mae hefyd yn cydymffurfio â'r gofyniad penodol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bod cyrff cyhoeddus yn dangos yn eu prosesau penderfynu eu bod yn rhoi egwyddorion Pum Ffordd o Weithio ar waith. Un o'r egwyddorion yma yw 'integreiddio', a byddai archwilio rhannu gallu dadansoddol partneriaeth yn dangos bod yr egwyddorion hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Mae'r Gweithgor wedi ymroi i ddefnyddio data partner a phartneriaeth, gwybodaeth leol a rennir, a gwybodaeth gan y gymuned yn well er mwyn llywio arfer. Gan hynny, bydd rhannu data cytûn rhwng partneriaid a phartneriaethau fel mater o drefn, sy'n cael ei ddadansoddi a'i ddehongli wedyn, yn golygu y gellir seilio ymyriadau ar ddarlun cywir o drais difrifol, sydd wedi cael ei ddadansoddi'n dda.
Cam Gweithredu: Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn:
- Cytuno ar setiau data a gwybodaeth i'w rhannu'n systematig
- Canfod cyfleoedd ar draws partneriaid a phartneriaethau (fel y manylir uchod ac yn Atodiad B) i rannu data a gwybodaeth yn gynaliadwy fel mater o drefn.
- Cytuno ar ddull a/neu rôl rhanbarthol i dderbyn, casglu, dadansoddi, dehongli, a rhannu data a gwybodaeth, ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
- Adnabod gallu dadansoddi data pwrpasol a/neu wedi'i rannu, a chyllid os oes angen, i ddadansoddi a chyflwyno setiau data cytûn a gwybodaeth sy'n llywio blaenoriaethau cynllunio a chomisiynu.
- Sicrhau bod cytundebau Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru priodol ar waith.
Blaenoriaeth Strategol Dau: Blaenoriaethu gwaith i roi sylw i ffactorau risg trais gydag ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i ddeall achosion trais difrifol er mwyn ein galluogi ni i ddefnyddio dull sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth i atal trais difrifol.
Er mwyn galluogi blaenoriaeth gytûn y Gweithgor i roi mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar, mae angen dangos ein dealltwriaeth o achosion a ffactorau risg trais difrifol ac ymatebion seiliedig ar dystiolaeth a'i defnyddio ar gyfer pob ymyriad lleol.
Yng Ngwent, rydym wedi ymroi i adnabod sbardunau trais difrifol a rhoi sylw i'r rhain mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan dystiolaeth, yn seiliedig ar yr hyn sy'n achosi i bobl a chymunedau fod yn fwy agored i niwed ac agored i niwed a achosir gan drais.
Mae tystiolaeth glir o ffactorau risg i gyflawnwyr a dioddefwyr trais, sy'n cynnwys defnyddio sylweddau, oed, rhywedd, rhywioldeb, addysg, normau cymdeithasol a diwylliannol, iechyd meddwl, a thrawma yn ystod plentyndod (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod). Ochr yn ochr â llenyddiaeth academaidd arwyddocaol, mae canllawiau ar gyfer dulliau seiliedig ar dystiolaeth i atal trais difrifol, ar gael trwy nifer o gronfeydd fel Uned Atal Trais Cymru, Hyb ACE Cymru, Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, a'r Coleg Plismona. Mae deall a defnyddio'r dystiolaeth hon yn rhan graidd o waith cynllunio a chomisiynu rhanbarthol a lleol, ac mae'r Gweithgor yn cytuno y dylai fod yn fwy tryloyw ac y dylai partneriaid fod yn fwy atebol i ddefnyddio'r dystiolaeth hon.
Mae partneriaid y Gweithgor wedi ymroi i ddefnyddio dysgu sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth wrth gynllunio a chomisiynu ymyriadau yn y dyfodol. Bydd y dystiolaeth orau o'r hyn sy'n gweithio yn cael ei defnyddio, a bydd dulliau newydd ac arloesol yn cael eu profi. Bydd gwaith rheolaidd i fonitro a gwerthuso effaith ymyriadau yn cyfrannu ymhellach at y sail dystiolaeth. Yn unol â'r dull iechyd y cyhoedd tuag at atal trais bydd defnyddio tystiolaeth i lywio datrysiadau lleol, monitro a gwerthuso eu heffeithiau yn arfer craidd.
O ystyried bod rhyngweithiad cymhleth o ffactorau sy'n effeithio ar drais difrifol, ni fydd datrysiad unigol, asiantaeth unigol na phartneriaeth unigol yn gallu ei atal. Bydd deall a rhoi sylw i ffactorau risg yn gofyn am weithio'n gydweithredol. Er y bydd hyn yn cymryd amser ac yn gymhleth, mae'n hollbwysig er mwyn atal trais difrifol. Bydd y manteision yn bellgyrhaeddol. Er enghraifft, pe byddai'r sail tystiolaeth yn dangos bod angen buddsoddiad mewn rhaglenni blynyddoedd cynnar/rhianta i atal trais difrifol, gallai hyn fod yn fanteisiol i flaenoriaethau eraill, fel gwella iechyd meddwl a lles, a lleihau pa mor dueddol yw pobl i fod yn gaeth i bethau fel alcohol, cyffuriau, a gamblo.
Mae'r Gweithgor wedi ymroi i roi mwy o sylw i weithgareddau atal ac ymyrraeth gynnar, dan arweiniad y sail tystiolaeth, sy'n cael eu monitro a'u gwerthuso. Bydd yr hyn a ddysgir yn cael ei rannu gyda phartneriaid a phartneriaethau, a bydd ymyriadau effeithiol a chost-effeithiol yn cael eu cyflwyno ledled ein hardaloedd awdurdod lleol yn gymesur ag anghenion.
Cam gweithredu: Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda'n gilydd er mwyn:
- Ystyried yn barhaus ymchwil cyhoeddedig y mae ei hansawdd wedi cael ei sicrhau, ac arfer gorau o ran ‘yr hyn sy’n gweithio’ wrth gynllunio ac ariannu ymyriadau, yn ogystal ag adolygu pa mor effeithiol yw busnes craidd a gwasanaethau cyffredinol.
- Sicrhau bod pob cam gweithredu/ymyriad o fewn strategaethau a chynlluniau Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cael eu hategu’n systematig gan y dystiolaeth orau sydd ar gael a'u bod yn cynnwys mesurau canlyniad clir a dulliau gwerthuso pendant.
- Mapio ble mae atal ac ymyrraeth gynnar yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd ar lefel rhanbarthol a lleol, ar draws partneriaid a phartneriaethau.
- Cael cyllid priodol i gyflwyno ymyriadau effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth a'r hyn a ddysgwyd yn lleol.
Blaenoriaeth Strategol Tri: Ymuno’r dotiau i ddeall yr effaith yn well a sicrhau cymaint o effaith â phosibl
Yng Ngwent byddwn yn ymdrechu i ddeall y sefyllfa leol, yn ogystal â cheisio dysgu o weithgarwch ac arfer da mewn ardaloedd eraill o fewn a thu allan i Went.
Mae'r Gweithgor yn cydnabod y Partneriaethau Diogelu Cymunedol gyda chyfrifoldeb statudol dros ddiogelwch cymunedol ym mhob un o'n pum ardal awdurdod lleol, pob un ohonynt yn datblygu cynllun gweithredu lleol yn seiliedig ar AAS lleol. Rydym hefyd yn ymwybodol ar adeg datblygu'r strategaeth interim yma, bod Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd yn adolygu sefyllfa’r Bartneriaeth Diogelu Cymunedol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid y Partneriaethau Diogelu Cymunedol yw'r unig Fyrddau sydd â rhan i'w chwarae wrth atal trais difrifol.
Oherwydd graddfa’r ffactorau bregusrwydd a rhagdueddiad sy'n dylanwadu ar drais mae ystod eang o bartneriaethau, byrddau a rhwydweithiau rhanbarthol a lleol y gall eu blaenoriaethau a'u gweithgareddau chwarae rhan wrth atal trais difrifol (gweler y rhestr yn Atodiad B).
Mae gan nifer o Fforymau/Byrddau sydd wedi'u hen sefydlu, fel y Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd, Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), Byrddau Cynllunio Lleol (APB), gyfrifoldebau statudol sy'n effeithio ar atal trais difrifol, yn ogystal â nifer eang o grwpiau sydd wedi’u sefydlu (gweler y rhestr yn Atodiad B) ac yn ogystal ag asiantaethau ehangach yr Awdurdod Penodedig. Rhaid ystyried grwpiau sefydledig sydd â blaenoriaethau a chamau gweithredu tebyg sy'n effeithio'n gadarnhaol ar leihau ac atal trais difrifol, fel VAWDASV, wrth ddatblygu fersiynau o strategaeth a chynlluniau gweithredu AAS Trais Difrifol Gwent yn y dyfodol. Bydd hyn yn osgoi dyblygu ac yn cynyddu effaith cyflawni nodau ar y cyd.
Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu’r cydweithio sydd eisoes yn bodoli yng Ngwent, a chadarnhau'r trefniadau llywodraethu strwythurol, dibyniaethau a rhyng-ddibyniaethau rhwng pob partneriaeth. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o atal trais difrifol, rhaid i ni ganolbwyntio ymdrechion ar ryng-bartneriaeth yn ogystal â chynyddu gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r ffactorau risg sylfaenol ar gyfer trais difrifol, sy'n cynnwys tlodi, digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau. Mae rhai o'r rhain wedi'u hamlinellu yn 'Gwent Teg i Bawb: Gwella Tegwch Iechyd ac adroddiad y Penderfynyddion Cymdeithasol. Mae heriau ac atebion yn aml yn rhyng-gysylltiedig sy'n gofyn am alinio darpariaeth, polisi a strategaeth, ac yn y pen draw comisiynu gwasanaethau a phrosiectau.
Mae gweithgarwch ac ymyriadau cadarnhaol eisoes yn bodoli i fynd i'r afael â thrais difrifol ledled Gwent. Yn ogystal â deall sefyllfa'r bartneriaeth, mae angen deall yn well beth sy'n digwydd yn lleol ar draws Partneriaethau Diogelwch Cymunedol y pum awdurdod lleol ac Awdurdodau Penodedig, er mwyn nodi arfer da a bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau presennol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynyddu ymyriadau arfer da, yn gymesur ag angen.
Cam gweithredu: Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda'n gilydd er mwyn:
- Mapio a nodi bylchau mewn cynlluniau partner a phartneriaethau lle gallai cydweithredu helpu i atal trais difrifol.
- Alinio'r gwaith llywodraethu ar gyfer gweithredu'r Ddyletswydd Trais Difrifol yng nghyd-destun adolygiad y Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngwent.
- Ymdrechu tuag at symleiddio sefyllfa'r bartneriaeth lle gellir cyflawni darpariaeth fwy effeithiol.
Blaenoriaeth Strategol Pedwar: Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar leoliad sy'n defnyddio profiad lleol, yn gwrando ar leisiau cymunedol ac yn cael ei gryfhau drwy lywodraethu rhanbarthol
Byddwn yn ategu profiad a dealltwriaeth leol o drais drwy ddull seiliedig ar leoliad sy'n cael ei gefnogi gan bartneriaethau rhanbarthol.
Ar draws rhanbarth Gwent, mae'r nod y cytunwyd arno ar gyfer pob Awdurdod Penodedig yn gyson: 'atal trais difrifol'. Fodd bynnag, mae fersiwn gyntaf yr AAS, a gefnogir gan ddeallusrwydd lleol, yn dangos nad yw patrymau trais difrifol yn gyson ar draws ein hardaloedd.
Mae gwybodaeth leol yn hanfodol i ddatblygu strategaeth ystyrlon sy'n effeithiol ar lefel awdurdod lleol a rhanbarthol. Rhaid i wybodaeth leol gael ei chefnogi gan ddealltwriaeth gymunedol er mwyn galluogi datblygu ymatebion priodol wedi'u llywio gan brofiad byw. Mae'r Gweithgor yn cytuno y dylai ymyriadau gael eu llywio gan ymgysylltu cymunedol parhaus ac ystyrlon i roi dealltwriaeth leol i arwain ymatebion priodol. Cydnabyddir bod angen ceisio deall lleisiau'r rhai sy'n cael eu heffeithio neu eu niweidio, yn ogystal â'r rhai sy'n cyflawni'r niwed, yn ogystal â lleisiau pobl sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef trais difrifol.
Wrth symud ymlaen, bydd y Gweithgor yn ceisio dysgu gan sefydliadau, megis y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, sy'n ymgymryd ag ymgysylltu fel mater o drefn. Rydym yn cydnabod y risg o ymgysylltu yn ormodol â chymunedau, felly byddwn yn ceisio alinio gweithgareddau ymgysylltu cymunedol â chalendrau ymgysylltu cymunedol partneriaid eraill. Byddwn hefyd yn cytuno ar gyfres o gwestiynau cyffredin i'w cynnwys o fewn gweithgareddau ymgysylltu â diogelwch cymunedol i'n galluogi i gymharu data a deallusrwydd ar draws ardaloedd.
Cam gweithredu: Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda'n gilydd er mwyn:
- Nodi’r hyn a ddysgwyd o ddulliau lleol presennol sy'n ceisio, nodi ac ymateb i wybodaeth y gymuned, wrth barhau i ymgysylltu â chymunedau lleol.
- Sicrhau bod lleisiau cymunedol yn elfen allweddol o AASau yn y dyfodol a ffurfio a gwerthuso strategaethau wedi'u diweddaru.
- Egluro'r trefniadau llywodraethu strwythurol rhanbarthol a lleol i gefnogi gweithredu, monitro ac adolygu'r Cynlluniau Trais Difrifol yn seiliedig ar leoliad a’r Strategaeth Trais Difrifol Rhanbarthol.
Casgliadau
Mae cyflwyno'r Ddyletswydd Trais Difrifol wedi herio partneriaid i ddod at ei gilydd i ystyried eu hymateb fel asiantaeth ac ar y cyd ar hyn o bryd i drais a’r hyn sy’n achosi trais ac ystyried beth arall y gellir ei wneud.
Mae'r Asesiad o Anghenion Strategol yn dweud wrthym fod trais difrifol yn digwydd yng nghartrefi a chymunedau Gwent, ac mae'r broblem yn cynyddu. Mae rhai ardaloedd yn fwy agored nag eraill trwy eu gwahanol ffactorau risg cymdeithasol. Mae rhai mathau o drais, amlder, difrifoldeb, a ffactorau eraill yn gyffredin ar draws Gwent, ond mae gwahaniaethau ym mhob ardal leol hefyd. Mae hyn yn golygu bod angen ystyried strategaeth ymateb yn ofalus.
Y Strategaeth hon, felly, yw'r fersiwn gyntaf o ymrwymiad hirdymor gan holl ddeiliaid dyletswydd yr Awdurdod Penodedig i atal a lleihau trais difrifol ledled Gwent. Mae'n darparu fframwaith eang ochr yn ochr â chamau gweithredu penodol, lle gall partneriaid a phartneriaethau weithredu ynddynt. Bydd y cynlluniau gweithredu hynny yn cael eu datblygu yn ystod y 12 mis nesaf, gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol, ledled Gwent, ac o bosibl yn ehangach. Ein nod ar y cyd yw cyflwyno ymyriadau newydd ac arloesol, gyda chymorth monitro perfformiad cynhwysfawr i sicrhau y gallwn ni fel grŵp cyfunol o bartneriaid fynd i'r afael â'r broblem hon, ac ymdrechu i greu 'Gwent heb Drais'.
Awdur: Jackie Williams, Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd, Tîm Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyfranwyr :
Dr Bethan Bowden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Tîm Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rhian Bowen-Davies, Ymgynghorydd Annibynnol
John Crandon, Arweinydd Diogelwch Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy
Laura Delaney, Dadansoddwr Gwent Mwy Diogel
Janice Dent, Rheolwr Polisi a Phartneriaeth, Cyngor Sir Casnewydd
Helen Gordon, Uwch-reolwr Polisi a Phartneriaeth, Cyngor Sir Casnewydd
Christian Hadfield, Rheolwr Ardal - Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Helena Hunt, Arweinydd Proffesiynol Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Catherine Jones, Arweinydd Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Paul Jones, Dadansoddwr Partneriaeth, Cyngor Sir Blaenau Gwent
Natalie Kenny, Uwch Swyddog Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Sharran Lloyd, Rheolwr Partneriaethau Strategol, Cyngor Sir Fynwy
Andrew Mason, Arweinydd Diogelwch Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy
Sam Slater, Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
Kate Williams - Rheolwr Grŵp Uned Cymorth Gwasanaeth Cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Sylwer: Mae cynrychiolwyr o Heddlu Gwent, Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid lleol a'r Gwasanaeth Prawf wedi cyfrannu at ddatblygiad y Strategaeth hon trwy gyfwng gweithdai a chyfarfodydd Gweithgor lleol.
Atodiad A: Gweledigaeth: Gwent Heb Drais
Mewnbwn: Gweithgareddau
- Cytuno ar ddull rhanbarthol i dderbyn, casglu, dadansoddi, dehongli, a rhannu data
- Adolygu set data, gwybodaeth a llywodraethu gofynnol
- Canfod gallu dadansoddi data o fewn y system bresennol a/neu angen am adnodd pwrpasol
- Mapio gweithgarwch atal ac ymyrryd yn gynnar presennol
- Ystyried yn barhaus ymchwil cyhoeddedig y mae ei ansawdd wedi cael ei sicrhau, ac arfer gorau o ran ‘yr hyn sy’n gweithio’ a'i ddefnyddio ar gyfer pob ymyriad.
- Dyrannu cyllid yn seiliedig ar dystiolaeth o angen, effeithiolrwydd
- Pob ymyriad i gael ei werthuso
- Mapio gweithgareddau/ymyriadau'r ddyletswydd trais difrifol ar draws partneriaethau diogelwch cymunedol
- Mapio cynlluniau partner a phartneriaeth (gyda chysylltiad â thrais difrifol) a chyllid cysylltiedig
- Alinio llywodraethu'r ddyletswydd trais difrifol yng nghyd-destun adolygiad Bwrdd Diogelwch y Cyhoedd o bartneriaethau diogelwch cymunedol
- Gwybodaeth gymunedol yn cael ei chasglu ar lefel leol yn systematig ac mewn ffordd ystyrlon
- Dysgu o arfer da
- Adnabod strwythurau llywodraethu strwythurol rhanbarthol a lleol
Mewnbwn: Adnoddau
- Y gallu i ddadansoddi data
- Cronfeydd cenedlaethol o dystiolaeth ac offer
- Adnodd pwrpasol (deiliad swydd/sefydliad) i gwblhau gwaith mapio ac ymuno'r dotiau
- Adnodd pwrpasol ar lefel lleol i gwblhau gweithgarwch
Allbwn Tymor Byr
- Cytuno ar setiau data a thempledi adroddiad data (h.y. data a'r naratif i'w ddarparu)
- Cytundebau rhannu data mewn lle
- Deall y sefyllfa ymyriadau presennol
- Cynnwys gwerthuso ym mhob ymyriad
- Datblygu dealltwriaeth o'r sail tystiolaeth ar gyfer ymyriadau i fynd i'r afael â sbardunau a rhagflaenwyr trais difrifol (e.e. ymddygiad gwrthgymdeithasol)
- Mwy o atebolrwydd mewn cynlluniau lleol
- Adnabod cyffredinrwydd, trefniadau llywodraethu a chyllid ar draws partneriaethau
- Alinio llywodraethu ar gyfer y ddyletswydd trais difrifol gyda phartneriaethau eraill
- Rhannu AASau a chynlluniau partneriaethau diogelwch cymunedol lleol
- AAS lleol yn cael ei lywio gan wybodaeth gymunedol
- AAS rhanbarthol yn cael ei lywio gan ddata ansoddol o AASau lleol
Canlyniadau: Canolraddol
- Sefydlu llifoedd data rhwng partneriaid
- Rhannu'r hyn a ddysgir/gwerthuso ymyriadau lleol
- Ystyried yn systematig pa mor gost effeithiol neu beidio yw ymyriadau
- Gwerthuso'n rhan annatod o ymyriadau
- Gwell dealltwriaeth o ffrydiau ariannu presennol a blaenoriaethau sy'n cael eu rhannu ar draws partneriaethau
- Rhannu'r hyn a ddysgwyd gan AASau lleol
- Cynlluniau gweithredu lleol yn cael eu llywio gan ddata, tystiolaeth a gwybodaeth leol
Canlyniadau: Hirdymor
- Setiau data wedi'u cysylltu yn darparu adroddiadau amserol, systematig a chynhwysfawr i alluogi cynllunio lleol a rhanbarthol.
- Comisiynu ymyriadau ataliol rhanbarthol a lleol yn seiliedig ar effeithiolrwydd, effeithiolrwydd o ran costau, a dysgu lleol
- Gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno trais
- Blaenoriaethau cyffredin cytûn ar draws partneriaethau a rhannu rhywfaint o gyllid o ymyriadau sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth
- Darlun partneriaeth rhesymegol
- Ymyriadau a chymorth sy'n adlewyrchu ac yn ymateb i anghenion lleol
Blaenoriaethau Strategol
- Cyflawni dull sy'n cael ei arwain gan ddata i atal trais difrifol, trwy ddeall ble mae trais difrifol yn digwydd a phwy sy'n cael eu heffeithio.
- Rhoi sylw i'r ffactorau risg ar gyfer trais gydag ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael eu gwerthuso fel mater o drefn
- Ymuno'r dotiau i ddeall yn well a sicrhau cymaint o effaith â phosibl trwy (i) adnabod ac adeiladu ar yr hyn sy'n cael ei ddarparu a (ii) cryfhau partneriaeth ar lefel strategol
- Mabwysiadu dull seiliedig ar leoliad sy'n defnyddio profiad lleol, gwrando ar leisiau'r gymuned ac sy'n cael ei gryfhau trwy lywodraethu rhanbarthol
Ffactorau Allanol: Dyraniadau cyllid i wasanaethau craidd a statudol, partneriaethau
Rhagdybiaethau/Gofynion: dealltwriaeth o flaenoriaethau cyffredin, dibynyddion, rhyngddibynyddion, gorgyffwrdd a chyllid partneriaethau eraill. Asesiadau o anghenion lleol trwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a rhannu gwybodaeth gan y gymuned. Cyllid ar gael i gyflawni blaenoriaethau strategol
Atodiad B: Cynlluniau a Blaenoriaethau Partneriaid a Phartneriaethau i’w hystyried wrth ddatblygu strategaethau yn y dyfodol (ddim mewn unrhyw drefn)
- Marmot/Adeiladu Gwent Decach
- Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gwent
- Byrddau trosedd rhanbarthol/cyfiawnder ieuenctid#Fforwm Trwyddedu Gwent (trwyddedu eiddo trwyddedig)
- Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus (o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015)
- Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru 2014)
- Byrddau Diogelu Rhanbarthol - Oedolion a Phlant - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru 2014
- Partneriaethau Diogelwch Cymunedol rhanbarthol a lleol
- Bwrdd a Strategaeth VAWDASV Rhanbarthol Gwent
- Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru
- Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru
- Partneriaid trydydd sector
- Dioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr trosedd
- Tai Rhanbarthol Cydweithredol
- Partneriaeth Strategol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Gwent
- Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Integredig
- Byrddau Partneriaeth Lles Lleol
Deddfwriaeth Genedlaethol
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Deddf Trosedd ac Anhrefn/Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014)
- Deddf Gwrth-derfysgaeth
- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Cam-drin Domestig 2021
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - gosod dyletswydd ar ddatblygu cynaliadwy, sut i wneud y cyfraniad gorau i'r saith nod Llesiant, ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy, Pum Ffordd o Weithio
- Partneriaethau Diogelwch Cymunedol - Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 - rhwymedigaeth statudol i gynhyrchu strategaethau seiliedig ar dystiolaeth - 'Asesiadau Strategol'. Gallai sefyll ar ei ben ei hun neu gellid ei gynnwys yn y Cynlluniau Lles. Diwygiwyd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod partneriaethau diogelwch cymunedol yn paratoi strategaethau i roi sylw i ddau fater arall - atal pobl rhag dechrau ymwneud â thrais difrifol a lleihau digwyddiadau o drais difrifol yn yr ardal.
- Cymru Iachach - trin a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais difrifol Gellir lleihau pwysau ar wasanaethau gofal brys os rhoddir sylw i drais difrifol yn yr ardal. Angen chwarae rhan weithredol yn cefnogi a chyflawni yn erbyn y Ddyletswydd.
- Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Lles (Cymru) 2014 Awdurdodau penodedig - Byrddau Diogelu
- Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
- Deddf Tai (Cymru) - mae angen statws ar y flaenoriaeth gan gynnwys unigolyn darostyngedig i DA 18-21 sydd mewn perygl rhag cam-fanteisio rhywiol neu ariannol
- Dyletswydd economaidd-gymdeithasol - wrth wneud penderfyniadau o natur strategol mae angen i awdurdodau cyhoeddus roi sylw dyledus i'w defnyddio mewn ffordd sy'n lleihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol. Pwrpas y ddeddf yw annog gwell penderfyniadau gan sicrhau canlyniadau mwy cyfartal. Mae angen ystyried sut mae cynlluniau'n lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy'n ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol
- Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 - maes iechyd a lles dysgu a phrofiad - canolbwyntio ar iechyd a lles dysgwyr gan gynnwys addysg cydberthnasau a rhywioldeb.
Strategaethau Cenedlaethol
- Strategaeth VAWDASV Genedlaethol 2023-2027
- Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru
- Dull ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a lles
- Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru
- Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a Gwarant i Bobl Ifanc
- Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar gyfer Cymru
- Cynllun Gweithredu LGBTQIA+ – cynllun trais difrifol i herio gwahaniaethu a thrais yn erbyn pobl sy'n arddel hunaniaeth LGBTQIA+
- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
- Atal lladdiadau (Coleg Plismona) - trais difrifol a bregusrwydd. Adnoddau ar gyfer mynd i'r afael â thrais difrifol a bregusrwydd. Strategaethau tebyg e.e. Y Coleg Plismona: Strategaeth Atal Lladdiadau
Rhaid ystyried strategaethau a chynlluniau rhanbarthol hefyd.