Bwrdd Cyfiawnder Troseddol
Mae Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent wrth galon y system cyfiawnder troseddol yng Ngwent. Mae'n dwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol at ei gilydd i hybu prosesau cyfiawnder troseddol cydgysylltiedig ar draws amrywiaeth o ardaloedd.
Nod y Bwrdd yw gweithio mewn partneriaeth i ddarparu system cyfiawnder troseddol deg, effeithlon ac effeithiol ledled Gwent sy'n atal, lleihau ac ymateb i droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, wrth ganolbwyntio ar anghenion dioddefwyr a thystion ar yr un pryd.
Cylch Gwaith
Aelodaeth
Aelodau craidd y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol yw:
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (gyda chefnogaeth staff Swyddfa'r Comisiynydd)
- Heddlu Gwent
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi
- Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
- Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
- Awdurdodau lleol
Mae nifer o aelodau yn aelodau cyfetholedig hefyd, gan gynnwys:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Cyngor ar Bopeth
- Tîm Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Ymysg cyfrifoldebau ehangach y Comisiynydd mae goruchwylio a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i sicrhau system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer Gwent. Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau hyn, mae'r Comisiynydd yn Gadeirydd Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent ar hyn o bryd.
Fel bwrdd sefydledig a phrofiadol, mae'r Bwrdd yn fforwm delfrydol i'r Comisiynydd drafod materion cyfiawnder troseddol gyda chynrychiolwyr asiantaethau ar lefel briodol. Mae'r Bwrdd hefyd yn rhoi cyfle i'r Comisiynydd ddysgu am broblemau o fewn y system cyfiawnder troseddol ac ystyried ac argymell datrysiadau gyda phartneriaid.
Trwy gydweithio â'r Bwrdd, gall y Comisiynydd gytuno ar strategaethau ar gyfer Gwent gyfan sy'n helpu i sicrhau dull cyson, effeithlon ac effeithiol o ymdrin â materion cyfiawnder troseddol.
Partneriaethau
Mae gan y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol gysylltiadau ag amryw o bartneriaethau ledled Gwent ac ar draws Cymru gyfan hefyd, sy'n cefnogi'r system cyfiawnder troseddol. Mae amryw o is-grwpiau hefyd sy'n canolbwyntio ar faterion penodol.
Cyflawniadau Nodedig
Caiff cyflawniadau nodedig a chynnydd a wneir gan Fwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent eu cyhoeddi bob blwyddyn.