Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yw Eleri Thomas.
Penodwyd Eleri yn ddirprwy i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ym mis Mai 2024.
Cyn hynny, gwasanaethodd fel dirprwy i'r cyn gomisiynydd Jeff Cuthbert o 2016, ac yn gynnar yn 2024 cafodd ei hapwyntio'n Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dros Dro pan oedd Mr Cuthbert yn sâl.
Yn ystod y cyfnod yma, arweiniodd ar faterion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, a gweithiodd gyda phobl yn y system cyfiawnder troseddol, dioddefwyr trosedd, a phobl sy’n agored i niwed ac sydd angen eu diogelu a'u cefnogi. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni rhaglenni atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer yr heddlu a gwasanaethau ieuenctid a helpodd i lansio'r cynllun 'Heddlu Bach' arloesol yn llwyddiannus yng Ngwent.
Mae gan Eleri dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rolau arwain a rheoli strategol yng Nghymru, ac yn flaenorol hi oedd Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.
Cyflog
£57,177 y flwyddyn
Cysylltu â'ch Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd
Hysbysiad o Fuddiannau Datgeladwy
Y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch