Gofyn am Ani: cynllun geiriau cod cam-drin domestig

7fed Ebrill 2022

Os ydych yn profi cam-drin domestig ac angen help, gallwch ofyn am 'ANI' mewn fferyllfa sy'n cymryd rhan.

Mae 'ANI' yn golygu Angen Gweithredu Ar Unwaith. Os yw fferyllfa yn arddangos y logo 'Gofyn am ANI', mae'n golygu bod staff yn barod i helpu.

Byddant yn cynnig lle preifat i chi, yn darparu ffôn ac yn gofyn a oes angen cymorth arnoch gan yr heddlu neu wasanaethau cymorth cam-drin domestig eraill.

Mae cymorth ar gael

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin, rhowch wybod i Heddlu Gwent drwy ffonio 101, gwefan Heddlu Gwent neu Facebook a Twitter.

Fel arall, cysylltwch â llinell gymorth Byw Heb Ofn:

Ffoniwch: 0808 80 10 800
Neges destun: 0786 007 7333
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales

Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.