Hawliau Dioddefwyr
Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddyletswydd i ymgysylltu â dioddefwyr troseddau yn ogystal â chomisiynu gwasanaethau i ddioddefwyr.
Mae'r Comisiynydd presennol, Jeff Cuthbert, wedi dangos ei ymrwymiad personol i ddioddefwyr troseddau trwy wneud cymorth i ddioddefwyr yn un o flaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throsedd.
Trwy barhau i wrando ar ddioddefwyr troseddau a dysgu o'u profiadau rydym yn canfod beth sydd ei angen arnynt a beth maent yn ei ddisgwyl gan y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Byddwn yn sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn helpu i drawsnewid profiadau pobl sy'n cael eu heffeithio gan drosedd a chodi eu hyder yn y system cyfiawnder troseddol ar yr un pryd.
Yn dilyn argymhelliad gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae Heddlu Gwent yn cyflogi Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr yn awr. Yn gweithio o fewn Connect Gwent, dyma'r swydd gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae'n helpu i sicrhau bod dull sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr wrth wraidd ymateb Heddlu Gwent i ddioddefwyr cam-drin domestig a rhywiol.
Mae'r Bwrdd Dioddefwyr mewnol yn craffu ar ymateb Heddlu Gwent i ddioddefwyr ac mae Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn bresennol yn y cyfarfodydd i sicrhau ffocws parhaol ar wella'r gwasanaeth a ddarperir.
Mae'r Comisiynydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid statudol a rhai trydydd partner sy'n darparu cymorth i ddioddefwyr trosedd ar draws y system cyfiawnder troseddol. Mae gweithio'n agos gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol yn gwella dealltwriaeth y Comisiynydd o faterion megis cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd wrth ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr.
Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n gweithio gyda'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a phartneriaid cenedlaethol eraill hefyd i fynd i'r afael â phroblemau dioddefwyr a cheisio eu datrys yn ôl y gofyn. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynrychioli dioddefwyr Gwent ar faterion sy'n berthnasol i'r DU gyfan.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n derbyn cyllid gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gefnogi'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau i ddioddefwyr yng Ngwent. Mae amryw o wasanaethau i ddioddefwyr yn cael eu comisiynu'n lleol, ac mae'r mwyafrif ohonynt o fewn Connect Gwent.
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Age Cymru
- Ymarferydd Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Umbrella Gwent
- Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (dros dro)
- Eiriolwr Caethwasiaeth Fodern (tan fis Mehefin 2020)
- Cyfannol
- Llwybrau Newydd
- Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol
Mae'r gwasanaeth a ddarperir yn cael ei adolygu'n flynyddol; felly gallai'r rhestr hon newid o ganlyniad i ail gomisiynu contractau. Mae'r gwasanaethau'n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i bob dioddefwr trosedd, p’un a ydynt wedi hysbysu'r heddlu ai peidio.
Sbardun Cymunedol
Cyflwynwyd y Sbardun Cymunedol ym mis Hydref 2014 i roi cyfle i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'u cwynion, ac mae'n dwyn asiantaethau ynghyd i ddefnyddio dull cydgysylltiedig i ddatrys problemau.