Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cynnwys

Cyflwyniad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl

1. Y Weledigaeth
2. Ein Hardal a’n Sefydliadau
2.1 Sut mae Gwent yn edrych?
2.2 Swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
2.3 Sut mae’r Heddlu’n gweithredu?
3. Crynodeb o Amcanion y Cynllun Cydraddoldeb
4. Y Diben a’r Cyd-destun Cyfreithiol
4.1 Beth yw ein statws cyfredol?
4.2 Pam mae angen y Cynllun hwn arnom?
4.3 I bwy y mae’r cynllun hwn?
4.4 Ymrwymiad i’r Gymraeg
4.5 Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer y Cynllun
4.6 Trefniadau Cyfrifoldeb a Llywodraethu
5. Amcanion y Cynllun Cydraddoldeb


Cyflwyniad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl

Croeso i ail Gydgynllun Cydraddoldeb Strategol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent ar gyfer 2020-2024.

 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae plismona wedi profi trawsnewidiad er mwyn ymateb i’r newidiadau yn y galw, disgwyliadau cyhoeddus uwch a mwy o amrywiaeth yn ein cymunedau. Mae effaith cynnydd technolegol, globaleiddio a therfysgaeth ryngwladol wedi effeithio hefyd ar ein cymunedau a natur y troseddau a gyflawnir.  Gan gydnabod yr heriau hyn, mae ein Cydgynllun Cydraddoldeb Strategol yn adeiladu ar gynnydd ein cydweithrediad blaenorol a chydweddiad ein gwaith er mwyn cefnogi’n well y gwaith o gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Drwy’r Cynllun, rydym yn dymuno herio sut yr ydym yn meddwl amdanom ein hunain, ein gwasanaethau a’r modd y cânt eu darparu.  Ein nod yw:

  • Darparu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu;
  • Meithrin diwylliant sefydliadol sy’n dangos pwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb; a
  • Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel y gall cymunedau amrywiol Gwent ei ddefnyddio’n hyderus ac ymgysylltu ag ef.

Mae gwasanaeth yr heddlu yn plismona drwy gydsyniad. Er mwyn parhau i wneud hynny, mae’n rhaid inni ennill ymddiriedaeth a hyder ein cymunedau drwy gymhwyso’r gyfraith yn dryloyw, yn deg ac yn foesegol, a thrwy ymgysylltu’n barhaus â’n holl ddinasyddion gan weithlu sy’n adlewyrchu cymunedau lleol.  Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein sefydliadau’n gweithredu â chydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu ym mhopeth a wnawn. 

Mae digwyddiadau rhyngwladol wedi tynnu sylw at y berthynas rhwng plismona a hil, ac mae mudiad Black Lives Matter wedi atgyfnerthu’r angen i wasanaethau wneud mwy i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag anghyfartaledd lle bynnag y maent yn digwydd.  Mae adroddiadau megis Adolygiad Lammy ac Archwiliad Anghyfartaledd Hiliol Llywodraeth y DU yn dangos anghydraddoldebau hiliol ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus. Yn yr un modd, mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Bod yn anabl ym Mhrydain, a chyhoeddiadau gan Stonewall, megis LGBT in Britain: Hate Crime and Discrimination
yn amlygu ymhellach anghyfartaledd sy’n effeithio ar grwpiau penodol. Mae effaith anghyfartal y Coronafeirws ar ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig wedi tynnu mwy o sylw at faterion sy’n ymwneud â hiliaeth wedi ei hymgorffori, a’r angen i weithredu yn awr i ddileu gwahaniaethu sefydliadol[1].  Mae ein Cydgynllun Cydraddoldeb Strategol yn cydnabod bod angen inni fynd i’r afael â’r heriau sylweddol hyn, yn ogystal â’n cyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â phob anghydraddoldeb yn effeithiol ac sy’n hybu tegwch ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Rydym yn cydnabod y gall plismona greu anghyfartaledd, ond mae angen hefyd iddo reoli canlyniadau anghyfartaledd mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis y rhai a brofir yn y broses cyfiawnder troseddol ehangach. Mae digwyddiadau ac adroddiadau fel y rhain yn dangos yn glir na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain a bod yn rhaid inni fynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig gyda’n cymunedau, ein partneriaid a’n swyddogion a’n staff er mwyn bod yn llwyddiannus.

Er bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn darparu fframwaith sy’n ein helpu i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i wasanaethu ein cymunedau orau, mae’n ymwneud i’r un graddau â’r ffordd yr ydym yn recriwtio, yn hyfforddi, yn rheoli, yn cadw, yn datblygu ac yn symud ein swyddogion a’n staff ymlaen. Mae’n bwysig hefyd, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu’n amlwg y cymunedau a wasanaethir gennym, er mwyn cynyddu hyder y cyhoedd yn ein dealltwriaeth o anghenion a disgwyliadau ein dinasyddion. 

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ar amrywiaeth mewn plismona, ailddatganodd Llywodraeth y DU ei safbwynt bod gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r cymunedau a wasanaethir yn mynd at wraidd yr egwyddor Brydeinig o blismona drwy ganiatâd.  Mae hyn yn gwella lefel sgiliau a thalent ein gweithlu ac yn helpu i wella ein dealltwriaeth o bob cymuned a’n gallu i fynd i’r afael â’r troseddau sy’n effeithio arnynt.

Yn ystod 2019/20, croesawyd 59 o recriwtiaid newydd i Heddlu Gwent, ac roedd 24 ohonynt yn rhan o ymgyrch recriwtio Uplift Llywodraeth y DU. Cefnogir prosesau recriwtio gan y Swyddogion Allgymorth Gweithredu Cadarnhaol sy’n ymgysylltu’n weithredol â’r cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Fel hyn, rydym yn gobeithio cynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus i swyddogaethau plismona yng Ngwent a darparu rhagor o gymorth a chyfleoedd i gadw a dyrchafu unigolion yn y gweithlu presennol. 

Mae’r blaenoriaethau a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn bwysicach nag erioed erbyn hyn. Byddant yn helpu i sbarduno’r newid sefydliadol angenrheidiol ac yn cyfrannu at well cydlyniant cymunedol drwy nodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfartaledd o fewn plismona a’r broses cyfiawnder troseddol ehangach, gan ddarparu mwy o gynhwysiant ar draws gwasanaeth yr heddlu.  Byddant yn ein helpu hefyd i baratoi ar gyfer cyflwyno’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru ym mis Mawrth 2021.

Hoffem ddiolch i’r cyhoedd, ein partneriaid a’n swyddogion a’n staff sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun hwn ac edrychwn ymlaen at weld y gwahaniaeth a wnawn wrth gyflawni ein hamcanion a rennir.

Jeff Cuthbert
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Pam Kelly
Prif Gwnstabl


[1] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-53539577


1. Y Weledigaeth

Datblygwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 ar sail egwyddorion sylfaenol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.  Rydym yn dymuno:

Darparu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir;

 

  • Rydym yn cydnabod bod gweithlu mwy amrywiol yn dod â chyfuniad ehangach o sgiliau, profiadau, safbwyntiau a syniadau inni weithio gyda nhw. 
  • Byddwn yn creu amgylchedd cynhwysol sy’n cefnogi gwell amrywiaeth yn ein prosesau recriwtio, cadw a dyrchafu, ac yn galluogi ac yn annog swyddogion a staff i ddatblygu ac i symud ymlaen yn ein sefydliadau.
  • Byddwn yn ceisio gwella ymddiriedaeth a hyder ein cymunedau amrywiol yn y gwasanaethau a ddarperir gennym drwy ymgysylltu’n effeithiol, mwy o herio allanol ac atebolrwydd cymunedol.

Meithrin diwylliant sefydliadol sy’n dangos pwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb

 

  • Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn hyrwyddo cydweithio â swyddogion a staff i ddatblygu gweithlu gwybodus sy’n adnabod ac yn herio gwahaniaethu. 
  • Byddwn yn creu amgylcheddau sefydliadol sy’n darparu cyflog cyfartal, triniaeth deg a chyfle i bawb.
  • Bydd arweinydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn cefnogi newid diwylliannol yn ein sefydliadau drwy fynd i’r afael â’r materion sy’n tanseilio cynhwysiant a thrwy oruchwylio’r Cynllun yn effeithiol.
  • Drwy ein Cynllun, byddwn yn ymgorffori ac yn dangos egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein sefydliadau ac wrth weithio tuag at wasanaeth cyhoeddus sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb fel un.

Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel y gall cymunedau amrywiol Gwent ei ddefnyddio’n hyderus ac ymgysylltu ag ef

 

  • Byddwn yn dangos arferion tryloyw, moesegol a theg tuag at ein cymunedau amrywiol a’r rhai sy’n ymwneud â’n gwasanaethau.
  • Byddwn yn ymgysylltu’n effeithiol â chymunedau a staff i feithrin dealltwriaeth o’u hanghenion amrywiol, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau hygyrch ac ymatebol, a datblygu, monitro ac adolygu ein cynlluniau a’n strategaethau yn barhaus.
  • Byddwn yn mynd ati i ddeall a herio anghydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau ac yn hyrwyddo tegwch ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig.
  • Byddwn yn hyrwyddo parch at ein cymunedau ac yn darparu diwylliant sy’n cyflawni gwasanaethau cynhwysol ac effeithiol yn rhagweithiol ac yn llwyddiannus.

2. Ein Hardal a’n Sefydliadau

2.1 Sut mae Gwent yn edrych?

Cyfanswm poblogaeth Gwent yw 583,500 o bobl sy’n byw mewn pum awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd.

Mae Gwent yn cwmpasu 155,542 cilomedr sgwâr ac mae ei phoblogaeth wedi cynyddu 2% yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae’r sir yn amrywiol o safbwynt economaidd a diwylliannol, gydag ardaloedd o gyfoeth ac amddifadedd. Diffinnir 12% o Went fel ardaloedd “mwyaf difreintiedig”[2].

Mae cymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn cyflwyno heriau plismona ychwanegol. Gallant fod yn fwy agored i drosedd, yn enwedig lle bo tlodi’n rhagblethu â nodweddion fel hil ac anabledd.

Yng Ngwent, mae gennym boblogaeth lleiafrifoedd ethnig o oddeutu 5.2%, sy’n codi i oddeutu 12.5% yng Nghasnewydd. Ac eithrio Caerdydd, Casnewydd sydd â’r gyfran uchaf o bobl nad ydynt o gefndir Gwyn Prydeinig yng Nghymru. 

 

  • Crefydd (Gwent) [3]
    49.6% Cristnogaeth
    47.1% Dim crefydd
    2.3% Islam
    2.8% Crefydd Arall

 

  • Cyfeiriadedd rhywiol (DU) [4]
    Amcangyfrifir mai 5% o’r boblogaeth  sy’n nodi eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol

 

  • Anabledd (Gwent) [5]
    82,000 o bobl o oedran gweithio 

 

  • Hil/Ethnigrwydd (Gwent) [6]
    94.5% Gwyn
    Oddeutu 5.5% Lleiafrif Ethnig

 

  • Y Gymraeg (Gwent)
    Yn siarad, darllen ac ysgrifennu:
    Gwent 9.6%
    Cymru 16.3%

 

[2] https://llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymru-diweddariad-llawn-ir-mynegai-gyda-graddfeydd-2019?_ga=2.154083324.597831122.1598528596-812575901.1587145561

[3] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Religion/religion-by-region

[4] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Sexual-Orientation/sexualidentity-by-year-region-identitystatus

[5] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Disability

[6] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Equality-and-Diversity/Ethnicity/ethnicity-by-area-ethnicgroup

 

2.2 Swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Y Comisiynydd, ynghyd â’r Prif Gwnstabl, sy’n gyfrifol am blismona yng Ngwent. Mae’r Comisiynydd yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn ceisio gwella perfformiad a safonau’r gwasanaethau plismona lleol a ddarperir i’r cymunedau. Rhan o swyddogaeth y Comisiynydd yw sicrhau bod pobl leol yn cael dweud eu dweud am y modd y caiff eu hardal ei phlismona a dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Mae gan y Comisiynydd wyth cyfrifoldeb statudol a restrir ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/fy-nghyfrifoldebau/

Y prif gyfrifoldeb sy’n sail i’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw cefnogi a galluogi’r Comisiynydd i:

 

“... ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am berfformiad swyddogion a staff yr Heddlu, gan gynnwys unrhyw ddyletswyddau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth”

Mae’r Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cefnogi'r Comisiynydd i gyflawni’r ddyletswydd hon drwy graffu ar weithgareddau cydraddoldeb Heddlu Gwent a’u monitro drwy gynrychiolaeth ar y Bwrdd Pobl ac Amrywiaeth ac ar bob un o gyfarfodydd a fforymau’r Heddlu, yn ogystal â Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad y Comisiynydd ar gyfer y cyhoedd. 

Mae holl amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau craidd Cynllun Heddlu a Throseddu y Comisiynydd ar gyfer Gwent:

https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/cyhoeddiadau/cynllun-heddlu-a-throsedd/.

Blaenoriaethau Heddlu a Throseddu

  • Blaenoriaeth 1: Cadw Cymdogaethau'n Ddiogel
  • Blaenoriaeth 2: Brwydro yn erbyn Troseddau Difrifol
  • Blaenoriaeth 3: Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr ac Amddiffyn
  • Blaenoriaeth 4: Cynyddu Hyder y Gymuned mewn Plismona
  • Blaenoriaeth 5: Ysgogi Plismona Cynaliadwy

Cyflawnir perfformiad Heddlu Gwent o’i gymharu â blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu drwy Gynllun Cyflawni yr Heddlu a Throseddu a bennir gan y Prif Gwnstabl. 

Yn ogystal â’r trefniadau llywodraethu sefydledig hyn, mae’r Cydgynllun yn golygu y gellir cysylltu’r ffordd y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn monitro ac yn craffu ar berfformiad cydraddoldeb Heddlu Gwent yn agosach ag amcanion yr Heddlu, yn enwedig mewn ymateb i faterion sy’n ymwneud ag anghyfartaledd a’r effeithiau ar gymunedau penodol.

Mae Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 yn rhoi dyletswydd estynedig ar Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i wneud y canlynol:

  • Hybu amrywiaeth yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Heddlu
  • Monitro perfformiad yr Heddlu o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol

 

2.3     Sut mae’r Heddlu’n gweithredu?

Strwythur Heddlu Gwent

Mae gan Heddlu Gwent ddwy Ardal Blismona Leol – y Dwyrain, sy’n cwmpasu ardaloedd awdurdodau lleol Casnewydd a Sir Fynwy, a’r Gorllewin, sy’n cynnwys Caerffili, Torfaen a Blaenau Gwent. Mae gan sefydliad Heddlu Gwent 1335 o swyddogion, 727 o aelodau staff a 122 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (yn gywir ar 31/03/20).

Mae ein gweithlu 10.3% yn fwy o’i gymharu â 2016.  Yn ystod 2019/20, ymdriniodd Heddlu Gwent â 181,170 o ddigwyddiadau a 57,282 o droseddau.

Gellir rhannu Heddlu Gwent i’r meysydd gwasanaeth canlynol. Mae pob un wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu ein Cynllun ac maent yn gyfrifol am wahanol agweddau ar ei gyflawni.

  • Plismona yn y Gymdogaeth a Phartneriaeth – mae’n cynnwys plismona cymdogaeth, plismona ymateb ac ymchwilio i droseddau cyfaint.
  • Ymchwilio i Droseddau – mae’n cynnwys diogelu’r cyhoedd, troseddau difrifol a chyfundrefnol, gwybodaeth a digwyddiadau mawr.
  • Cymorth Gweithredol – mae’n cynnwys Ystafell Gyfathrebu’r Heddlu.
  • Cyfiawnder Troseddol - mae’n cynnwys y Ddalfa a gwasanaethau gwybodaeth.
  • Gwelliant Parhaus – mae’n cynnwys Newid Busnes, Gwella Gwasanaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Llywodraethu.
  • Cymorth Busnes – mae’n cynnwys Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), Gwasanaethau Pobl, Fflyd, Ystadau a Chyllid.

Ceir crynodeb o’n proffil cyflogaeth cyfredol yma: http://www.gwent.police.uk/informationpoint/equality-and-diversity/equality-information/employment-equality-data/.

Gwerthoedd Heddlu Gwent

Adlewyrchir ein hymrwymiad i gydraddoldeb ym mhum gwerth craidd Heddlu Gwent hefyd, sy’n gweithredu fel prif sail i bopeth a wnawn. Rydym yn ymdrechu i:

  • Fod yn dosturiol;
  • Bod yn falch;
  • Bod yn ddewr;
  • Bod yn gadarnhaol;
  • Parhau i ddysgu.

Yn ogystal â’n gwerthoedd craidd, mae Heddlu Gwent yn disgwyl hefyd i bob swyddog ac aelod o staff gadw at y Cod Moeseg cenedlaethol a:

  • Chynnal y gyfraith ynghylch hawliau dynol a chydraddoldeb
  • Trin pawb yn deg ac yn barchus
  • Trin pobl yn ddiduedd

Mae Heddlu Gwent yn ceisio bod yn gyflogwr o ddewis, sef sefydliad y mae pobl yn dewis gweithio iddo oherwydd y ffordd yr ydym yn eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u hannog.


3. Crynodeb o Amcanion y Cynllun Cydraddoldeb

Amcan 1

Cefnogi Pobl Fregus:

Ymchwilio i gyfiawnder a sicrhau cyfiawnder am droseddau sy’n cael yr effaith fwyaf ar y bobl sy’n fregus, gan sicrhau cymorth effeithiol i ddioddefwyr.

Amcan 2

Cyfreithlondeb a Thegwch:

Sicrhau bod Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cyflawni eu gweithgareddau mewn ffordd sy’n gymesur ac yn anwahaniaethol ac yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cymunedau a phlismona.

Amcan 3

Mynediad, Ymgysylltu a Chynhwysiant

Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymateb i safbwyntiau, profiadau ac anghenion pobl sy’n dweud bod ganddynt nodweddion gwarchodedig, a bod y gwaith a wnawn yn hybu cynhwysiant a chydlyniant.

Amcan 4

Creu Gweithlu Cynhwysol a Hybu Tegwch: Gweithio tuag at weithlu cynrychioliadol a diwylliant gweithle cynhwysol, a sicrhau bod pawb sy’n gweithio i Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu trin yn deg a heb wahaniaethu


4. Y Diben a’r Cyd-destun Cyfreithiol

4.1 Beth yw ein statws cyfredol?

Rydym yn symud ymlaen o’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 a welodd nifer o lwyddiannau yn ystod ei oes.  Er hynny, fel sy’n wir am unrhyw gynllun hirdymor, mae blaenoriaethau a materion newydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Mae Cydgynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 newydd yn parhau o ble y daeth y cynllun blaenorol i ben. Mae’n cydnabod ac yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau newydd hyn, gan barhau i ymdrin â’r materion sy’n aros gyda ni.

Mae ein Hadroddiadau Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2019-20 yn helpu i adolygu a darparu dealltwriaeth o ble yr oeddem ar ddiwedd y Cynllun blaenorol a’i amcanion.  Mae’r adolygiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer sut y bydd ein hamcanion yn y dyfodol yn cael eu meincnodi a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur. Maent hefyd yn darparu golwg gyffredinol o’r hyn a aeth yn dda yn ystod y pedair blynedd diwethaf, yr hyn nad aeth yn dda, rhai uchafbwyntiau o’n cyflawniadau a’n hargymhellion ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol sydd wedi eu hymgorffori wrth inni greu ein Cynllun newydd.

Cyhoeddir ein Hadroddiadau Blynyddol ar ein gwefannau:

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/eich-hawliau/amrywiaeth-a-chynhwysiant/cynllun-cydraddoldeb-strategol/

Heddlu Gwent: http://corporate.gwent.police.uk/informationpoint/equality-and-diversity/.

 

4.2 Pam mae angen y Cynllun hwn arnom?

Rydym wedi cynhyrchu’r cynllun hwn i’n helpu i nodi ac i gyfiawnhau amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac i egluro sut y byddwn yn eu cyflawni a phwy fydd yn elwa arnynt.


Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn hybu cydraddoldeb ar gyfer y nodweddion gwarchodedig canlynol:

Oedran

Anabledd

Ailbennu Rhywedd

Priodas a Phartneriaeth Sifil

Beichiogrwydd a Mamolaeth

Hil

Crefydd a Chred

Rhywedd

Cyfeiriadedd Rhywiol

 

Ceir tri amcan Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus y mae’n rhaid i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent roi sylw dyledus iddynt:

  • Dileu unrhyw achosion o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf .
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae amcanion y cynllun cydraddoldeb wedi eu pennu ar gyfer pob nodwedd warchodedig. Mae ein hamcanion yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda gwelliannau clir a phenodol er budd ein staff a’n cymunedau.  Rydym wedi amlinellu amcanion pedair blynedd sy’n cyfochri â gwelliannau a chanlyniadau penodol fel y’u nodir yn ein Cynlluniau Cyflawni. Gan wneud hynny, ein nod yw bodloni ein gofynion cydymffurfedd cyfreithiol a chefnogi’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r egwyddorion allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throseddu y Comisiynydd. 

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent wedi creu Cynlluniau Cyflawni ar wahân ond cysylltiedig yn unol â’n swyddogaethau a’n cyfrifoldebau priodol. Dogfennau deinamig yw ein Cynlluniau Cyflawni a byddant yn parhau i dyfu a newid wrth i’n hamcanion gael eu cyflawni ac wrth i heriau newydd gael eu nodi. Byddant yn cael eu hadolygu’n barhaus yn ystod oes ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a byddant yn darparu sail ar gyfer datblygiadau pellach ac er mwyn adrodd ar gynnydd.

Ar 31 Mawrth 2021, bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn dod i rym yng Nghymru. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau strategol, y bydd yn rhaid inni ystyried sut y gallwn leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfanteision economaidd-gymdeithasol. Mae ein hamcanion yn cynnwys canlyniadau sy’n ymwneud â’r ddyletswydd newydd a byddant yn ein cefnogi i gydymffurfio â gofynion y ddyletswydd.

Ystyriwyd y canlynol wrth bennu’r amcanion:

  • Sylwadau o’n proses ymgynghori ar amcanion cydraddoldeb;
  • Materion cydraddoldeb a godwyd gan staff a’n cymunedau;
  • Tystiolaeth sy’n nodi tangynrychiolaeth neu ganlyniadau anghyfartal, gan gynnwys Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb;
  • Amcanion a allai ddileu rhwystrau, hybu cydraddoldeb, hybu cysylltiadau da neu wella perfformiad;
  • Dadansoddiad o adroddiadau, gwybodaeth ac ymchwil genedlaethol gan gyrff megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Archwilio Cymru, Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, yn ogystal â Llywodraeth Cymru (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol);
  • Rhoi sylw ac ystyriaeth ddyledus i Strategaeth Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu y mae ganddi dair elfen allweddol, sef Ein Sefydliad, Ein Cymunedau, ac Ein Partneriaid sy'n galluogi llwyddiant sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth bersonol yr holl Brif Gwnstabliaid a’u timau prif swyddogion.

Mae Atodlen A yn rhoi crynodeb o’r dystiolaeth a adolygwyd a’r gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd i gefnogi datblygiad y Cynllun hwn. Caiff ein Cynllun ei lywio drwy ymgynghori â’r cyhoedd yn gyffredinol a staff yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent. Mae adroddiad llawn ynghylch ymgysylltu â’r ymgynghoriad wedi ei lunio a’i gyhoeddi ar ein gwefannau i gyd-fynd â’r ddogfen hon.

Caiff y Cynllun ei adolygu bob blwyddyn mewn adroddiadau sy’n monitro cynnydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn erbyn camau gweithredu. Caiff yr amcanion cyffredinol eu hadolygu bob pedair blynedd.



4.3 I bwy y mae’r cynllun hwn?

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn berthnasol i’n cyflogeion ac i aelodau o’n cymunedau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig.

Ein staff

Wrth inni greu diwylliant mwy cynhwysol, bydd y staff yn ymddiried yn ein sefydliadau i’w trin nhw’n deg. Bydd hyn yn ein helpu i ddenu a chadw gweithlu mwy amrywiol

Drwy ymgorffori’n weithredol a hyrwyddo pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent, bydd staff yn fwy gwybodus am y materion a’r rhwystrau y mae gwahanol grwpiau yn eu hwynebu, a bydd hyn yn helpu i gynyddu dealltwriaeth o safbwyntiau pobl eraill. 

Bydd hyn yn ein galluogi i greu diwylliant mwy cynhwysol lle bydd amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi ac anghenion gwahanol grwpiau yn cael eu cefnogi. Bydd hefyd yn meithrin ymdeimlad o berthyn ar draws pob grŵp yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent ac yn annog amgylchedd cydlynol a chydweithredol.

Ein harweinwyr

Bydd arweinyddiaeth effeithiol a thryloyw sy’n gosod y safon ar gyfer ein sefydliadau yn helpu ein staff i gyflawni amcanion ein Cynllun yn llwyddiannus. 

Bydd hyn yn helpu hefyd i ddangos i’n cymunedau ymrwymiad ein harweinwyr i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen arnom i symud ymlaen fel sefydliadau amrywiol a chynhwysol

Mae arweinyddiaeth effeithiol sy’n pennu’r cyfeiriad strategol a’r weledigaeth wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac sy’n sicrhau adnoddau a chymorth priodol ar gyfer ein gwasanaethau yn allweddol i gyflawni ein Cynllun yn llwyddiannus.

Gan weithredu fel enghreifftiau cadarnhaol ar gyfer ein staff, bydd ein harweinwyr yn dangos eu hymrwymiad i newid cadarnhaol drwy eu geiriau a’u gweithredoedd.  

Bydd cymorth rhagweithiol ar gyfer diwylliant gweithle cynhwysol yn grymuso staff i herio anghydraddoldeb ac i hybu amgylchedd cefnogol a chydlynol. 

Bydd dangos pa mor dda y mae ein harweinwyr yn deall ac yn mynd i’r afael â materion parhaus o anghyfartaledd yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd o’u hymrwymiad i newid cadarnhaol, i’n sefydliadau ac i’n cymunedau amrywiol. 

Ein cymunedau

Wrth wasanaethu ein cymunedau yn ymatebol, yn deg ac yn gynhwysol, byddwn yn meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau plismona lleol. Bydd hyn yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â’n cymunedau

Bydd dangos sut yr ydym yn gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein sefydliadau a’n partneriaethau, a herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn agored wrth ddarparu ein gwasanaethau yn galluogi cymunedau i ddatblygu rhagor o ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau a’n harferion. Bydd hyn yn cefnogi gwell ymgysylltiadau a chydberthnasau rhyngom ni a’n cymunedau, ac yn hybu cyfle cyfartal i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau.

 

4.4 Ymrwymiad i’r Gymraeg

O dan eu Safonau Iaith Gymraeg priodol, mae’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl wedi nodi ymrwymiad ar y cyd i weithio tuag at ddarparu gwasanaeth plismona dwyieithog ar gyfer cymunedau Gwent. Mae Cydstrategaeth y Gymraeg yn cynnwys tri addewid allweddol:

• Ymgysylltu’n effeithiol â siaradwyr Cymraeg er mwyn llywio’r gwasanaeth a ddarperir gennym
• Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r dysgwyr a gyflogir gennym ar draws y ddau sefydliad
• Casglu data y gallwn eu defnyddio i wella ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg.

Adroddir ar wahân ar gydymffurfedd â’r Safonau a’r cynnydd o’u cymharu â’r addewidion; er hynny, mae'r Gymraeg wedi ei chynnwys yn ein prosesau o Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb a’n Cynlluniau Cyflawni Cydraddoldeb er mwyn sicrhau yr ystyrir hybu cyfle cyfartal a’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’n busnes dyddiol.


4.5 Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer y Cynllun

Y Cynllun yw ein hymrwymiad agored i gydraddoldeb, ac mae cyfathrebu effeithiol â staff a’n cymunedau yn ganolog i’w lwyddiant. Cefnogir trefniadau cyfathrebu ac ymgysylltu allanol gan Dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac Adran Cyfathrebu Corfforaethol Heddlu Gwent yn ogystal ag adrannau a thimau eraill fel y bo’n briodol.
Mae cynlluniau cychwynnol ar waith i hyrwyddo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol i’r holl staff ym mhob rhan o’r ddau sefydliad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y Cynllun ac yn cael cyfle i gefnogi ac arwain ein gweithgareddau yn ystod y cyfnod o bedair blynedd.


4.6 Trefniadau Cyfrifoldeb a Llywodraethu

Cymeradwyir y Cynllun hwn gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent. Ar lefel weithredol, y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu a Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol. 

Bydd Heddlu Gwent yn monitro cynnydd eu Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb yn y Bwrdd Strategaeth Pobl, sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Gwnstabl, a’r cyfarfodydd ffrwd waith perthnasol. Mae gan y Bwrdd gynrychiolaeth o Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, Cymdeithasau Staff, Arweinwyr Ffrydiau Gwaith a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod yr Amcanion Cydraddoldeb yn cael eu cyflawni, gan ganiatáu i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fonitro cynnydd Heddlu Gwent o’i gymharu â’r Cynllun, gan alluogi trafodaeth ar unrhyw faterion ychwanegol sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. 


Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn monitro cynnydd y Cynllun Cyflawni drwy ei Bwrdd Rheoli, dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd. Bydd hyn yn galluogi’r cynnydd i gael ei adolygu’n weithredol gan arweinwyr a rheolwyr ac yn cefnogi’r broses o gyflawni’r mesurau llwyddiant a’r canlyniadau a nodir yn y Cynllun Cyflawni. Tynnir sylw Panel yr Heddlu a Throseddu at gynnydd hefyd, fel y bo’n briodol, er mwyn galluogi eu sylwadau i’r Comisiynydd ar ganlyniadau a chyfradd y cynnydd, gan gyfrannu at lwyddiant y gwaith i gyflawni’r amcanion.

Byddwn yn gwella ein strwythurau llywodraethu a’n prosesau sicrwydd er mwyn ein cefnogi i gadw at safonau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol ac i ddangos bod ein prosesau atebolrwydd yn agored ac yn dryloyw. Byddwn yn mynd ati i gynyddu’r cyfleoedd am heriau ac atebolrwydd allanol i ategu swyddogaeth y Grŵp Cynghori Annibynnol.

Byddwn yn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth inni greu polisïau, yn ein dulliau adrodd ac wrth inni wneud penderfyniadau.  Er mwyn ein helpu i ddangos sut yr ydym yn gweithio tuag at gyflawni amcanion y Ddyletswydd Cydraddoldeb, a gweledigaeth a rennir ac amcanion Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byddwn yn:

  • Cyhoeddi gwybodaeth flynyddol am gydraddoldeb sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig ein cyflogeion a nodweddion gwarchodedig pobl y mae ein polisïau a’n harferion yn effeithio arnynt;
  • Mewn ymgynghoriad â’n staff a’n cymunedau, pennu amcanion cydraddoldeb;
  • Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd sy’n nodi sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb;
  • Cyhoeddi diweddariadau blynyddol ar ein cynnydd o’i gymharu â’r Cynllun;
  • Asesu effaith ein polisïau a’n harferion arfaethedig drwy barhau i ddefnyddio ein prosesau Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb.
  • Ymgysylltu â phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig o ran sut mae penderfyniadau, polisïau ac ymyriadau yn effeithio arnynt yn unigol neu yn y gymuned; ac
  • Ystyried sut mae ystyriaethau cydraddoldeb yn berthnasol ac yn gymesur yn ein prosesau caffael.

5. Amcanion y Cynllun Cydraddoldeb

Mae’r adran hon yn darparu golwg cyffredinol cryno o’r camau gweithredu allweddol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion.

Amcan 1

Cefnogi Pobl Fregus: Ymchwilio i gyfiawnder a sicrhau cyfiawnder am droseddau sy’n cael yr effaith fwyaf ar bobl fregus, gan sicrhau cymorth effeithiol i ddioddefwyr.

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen

Amserlen

Cynyddu’r lefelau adrodd am droseddau a digwyddiadau sy’n effeithio ar bobl fregus, ac yn enwedig y rhai mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu meincnodau er mwyn meithrin dealltwriaeth drylwyr o dueddiadau adrodd. 

Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o droseddau a llwybrau adrodd, a sefydlu lle mae heriau.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio’r datblygiad o nodi unigolion sy’n fregus ac unigolion sydd mewn perygl, yn well ac yn gynt.

Adeiladu ar waith gyda phartneriaethau er mwyn darparu gwell ymyriadau diogelu a chymorth i ddioddefwyr sy’n fregus.

 

Amcanion hirdymor

Mae darparu a goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Bregusrwydd er mwyn sicrhau bod canlyniad ymgysylltu â dioddefwyr sy’n fregus a dioddefwyr heb gynrychiolaeth ddigonol yn hyrwyddo hyder a mwy o foddhad â’r gwasanaeth a dderbynnir. 

Mae dioddefwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn teimlo’n fwy hyderus i ymgysylltu â gwasanaethau a chofnodir cynnydd yn nifer y bobl sy’n adrodd am eu profiadau.

Datblygu trefniadau monitro a chraffu effeithiol o ran cofnodi ac ymchwilio i droseddau sy’n effeithio ar bobl sy’n fregus.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r trefniadau monitro a llywodraethu presennol i bennu sut a ble y creffir ar ganlyniadau a graddau’r broses o fonitro nodweddion gwarchodedig.

Ymgysylltu ag arweinwyr strategol a phrosesau llywodraethu i ddatblygu cynlluniau er mwyn gwella’r gwaith monitro.

 

Amcanion tymor canolig

Gweithredu cynlluniau i wella arferion monitro ac adolygu effeithiolrwydd trefniadau craffu er mwyn sicrhau bod unrhyw fylchau sy’n weddill yn cael eu nodi ac yr eir i’r afael â nhw.

 

Amcanion hirdymor

Ymgorffori trefniadau monitro ac adrodd effeithiol mewn prosesau llywodraethu. 

Rhagor o waith craffu ar draws y nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio gwaith sy’n ymwneud ag ymyrryd ac atal yn fwy effeithiol. 

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynyddu cyfradd y canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr drwy ymchwiliadau effeithiol gan yr heddlu a threfniadau partneriaeth cyfiawnder troseddol ehangach.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu meincnodau a gwella’r gwaith monitro a chraffu er mwyn meithrin dealltwriaeth drylwyr o dueddiadau canlyniadau. 

Gweithio gyda chyfiawnder troseddol a phartneriaid eraill i nodi lle mae heriau’n bodoli a chytuno ar y camau sydd eu hangen i sbarduno gwelliannau

 

Amcanion tymor canolig

Bydd sylwadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio gwaith i sicrhau’r gallu i ddefnyddio prosesau cyfiawnder troseddol effeithiol a chanlyniadau gwell i ddioddefwyr. Bydd hyn yn helpu i graffu’n well ar weithgareddau a chanlyniadau hefyd, ac yn cyfrannu at brosesau gwella parhaus.

 

Amcanion hirdymor

Sicrhau bod cyfraddau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer prosesau cyfiawnder troseddol yn cynyddu gyda gostyngiadau cyson mewn troseddau a ailadroddir a gyflawnir gan yr un unigolion. 

Rhagor o hyder i ddioddefwyr adrodd eu profiadau ac i gysylltu â’r heddlu’n gynharach.

Mwy o ddioddefwyr yn dweud eu bod yn fwy bodlon â’u profiad cyfiawnder troseddol. 

 

Darparu ymyriadau a gwasanaethau cymorth cynaliadwy o ansawdd uchel yn gyson i ddioddefwyr a phobl sydd mewn perygl.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu meincnodau a gwella’r gwaith monitro a chraffu er mwyn meithrin dealltwriaeth drylwyr o dueddiadau canlyniadau a demograffeg y dioddefwyr.  Gweithio gyda darparwyr gwasanaethau a phartneriaid i gytuno ar unrhyw welliannau i waith craffu a’u rhoi ar waith, gan ddarparu dadansoddiad priodol o’r bylchau a chymorth ar gyfer cynllunio.

Gweithio gyda phartneriaid i adolygu trefniadau ariannu ac ystyried cynaliadwyedd cyllid i sicrhau gwasanaethau effeithiol i bob dioddefwr.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio datblygiad rhaglenni ymyrraeth yn gynnar ac atal ychwanegol sy’n manteisio i’r eithaf ar waith partneriaeth a ffrydiau ariannu effeithiol. 

 

Amcanion hirdymor

Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn darparu cyfleoedd cynaliadwy a ariennir yn briodol ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal. 

Nodi dioddefwyr a phobl sydd mewn perygl ac ymgysylltu â nhw cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau effeithiau hirdymor eu profiadau.

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i nodi gwell iechyd meddwl a lles fel canlyniad gwaith ymyrraeth gynnar ac atal.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r trefniadau monitro presennol a sefydlu meincnodau i bennu effeithiolrwydd prosesau a gwasanaethau cyfredol ar draws nodweddion gwarchodedig.

Adolygu ymgysylltiadau partneriaethau presennol i sicrhau bod cyfleoedd i ddylanwadu ar yr agenda iechyd meddwl, a chyfrannu ati, yn effeithiol.

 

Amcanion tymor canolig

Adeiladu ar ganlyniadau gwaith y cyfnod cynnar er mwyn datblygu a gweithredu cynlluniau gwella, gan gynnwys ar gyfer monitro a chraffu.

 

Amcanion hirdymor

Mae ymyrraeth gynnar effeithiol yn lleihau’r effeithiau tymor hwy ar unigolion ac ar wasanaethau plismona rheng flaen.

Unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn adrodd yn gyson eu bod nhw’n fwy bodlon â’r cymorth a dderbyniwyd.

 

Amcan 2

Cyfreithlondeb a Thegwch: Sicrhau bod Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cyflawni eu gweithgareddau mewn ffordd sy’n gymesur ac yn anwahaniaethol ac yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cymunedau a phlismona

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen

Amserlen

Bod yn dryloyw a rhoi sicrwydd ynghylch y defnydd o bwerau’r heddlu, gan gynnwys stopio a chwilio, defnyddio grym, dalfa’r heddlu, a chwynion.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r trefniadau perfformiad a llywodraethu a chraffu cyfredol er mwyn sicrhau bod y sefyllfa gyfredol yng Ngwent yn cael ei deall. Nodi’r gwelliannau sydd eu hangen a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i reoli newid, ac i ddarparu her pan fo hynny’n briodol. 

Sicrhau bod cynlluniau ar gyfer cyfathrebu cyhoeddus ar waith i gefnogi tryloywder.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio newidiadau polisi a phrosesau a gofynion craffu parhaus.

Bydd cynlluniau cyfathrebu yn cefnogi ymwybyddiaeth barhaus staff a’r gymuned o ddeilliannau a chanlyniadau gwaith cysylltiedig. 

Datblygu trefniadau monitro a chraffu effeithiol ar gyfer cwynion, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu, er mwyn darparu prosesau atebolrwydd effeithiol i’r heddlu.

 

Amcanion hirdymor

Bod mewn sefyllfa lle mae prosesau’n galluogi anghyfartaledd i gael ei nodi’n gyflym, ei graffu’n effeithiol, a’i leihau’n llwyddiannus pan fo hynny’n bosibl.

Mae cymhwyso a monitro effeithiol yn golygu mai dim ond pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol y defnyddir y ddalfa i gadw plant a phobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. 

Ymgysylltu â’n cymunedau, a’n cymunedau ieuenctid a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig, er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder ynghylch y defnydd o bwerau’r heddlu a hawliau dinasyddion.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adeiladu ar waith ymgysylltu blaenorol i ddatblygu cydberthnasau mwy agored ac ymgysylltiol â chymunedau a grwpiau ieuenctid a lleiafrifoedd ethnig. Gweithio gyda phartneriaid i nodi cyfleoedd i wella’r prosesau ymgysylltu presennol.

 

Amcanion tymor canolig

Datblygu cynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu penodol a thymor hwy o ran y defnydd o bwerau’r heddlu yng Ngwent.

 

Amcanion hirdymor

Mae gan gymunedau well dealltwriaeth a hyder yn ein defnydd o bwerau’r heddlu. 

Gwerthuso’r gwaith ymgysylltu er mwyn asesu’r effaith a’r canlyniadau ar ein cymunedau ieuenctid a’n lleiafrifoedd ethnig.

Gwneud defnydd effeithiol o ddatrysiadau eraill i leihau nifer y bobl sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf, yn enwedig ar gyfer plant a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu trefniadau meincnodi a chraffu i feithrin dealltwriaeth drylwyr o dueddiadau canlyniadau a demograffeg ar gyfer y rhai sy’n cael datrysiadau eraill, gan gynnwys dargyfeirio o ddalfa’r heddlu. 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio datblygiad rhaglenni ymyrraeth yn gynnar ac atal ychwanegol sy’n manteisio i’r eithaf ar waith partneriaeth a ffrydiau ariannu effeithiol. 

 

Amcanion hirdymor

Tystiolaeth o ddefnydd cynyddol, cymesur ac effeithiol o ddatrysiadau a chyfleoedd dargyfeirio y Tu Allan i’r Llys. Partneriaid yn adrodd am ostyngiad yn nifer y bobl sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol ieuenctid am y tro cyntaf.

Sicrhau bod y Fframwaith Perfformiad Sefydliadol yn cofnodi gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig yn effeithiol, er mwyn rhoi sicrwydd o wasanaethau a gweithgareddau effeithiol a chynhwysol.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu meincnodau a’r ddarpariaeth ddata o’u cymharu â’r nodweddion gwarchodedig. 

Darparu sylwadau ynghylch bylchau a’r wybodaeth ofynnol a chytuno ar weithgareddau priodol i fynd i’r afael â gwahaniaethau.

 

Amcanion tymor canolig

Sefydlu trefniadau effeithiol sy’n casglu data am nodweddion gwarchodedig yn gyson er mwyn nodi lle nad oes digon o gynrychiolaeth a chefnogi gwaith i fynd i’r afael â’r mater.

 

Amcanion hirdymor

Bod mewn sefyllfa lle caiff perfformiad a chanlyniadau eu llywio gan ddata cydraddoldeb sy’n ddibynadwy, yn fanwl ac yn berthnasol.

Sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau, gan gynnwys fetio, yn deg, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ystyried effaith eu canlyniadau.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r defnydd cyfredol o Effaith ar Gydraddoldeb a dulliau asesu eraill o bennu effeithiolrwydd.

Ymgorffori’r broses adolygu fetio a sefydlwyd yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n deg ac yn effeithiol a galluogi her briodol i benderfyniadau gan ddarparu sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y broses fetio.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio unrhyw hyfforddiant cydraddoldeb gofynnol neu newidiadau i brosesau asesu sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau.

 

Amcanion hirdymor

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn dangos dealltwriaeth o’r effeithiau ar unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig. Yr holl benderfyniadau a wneir yn seiliedig ar dystiolaeth, yn dryloyw ac yn anwahaniaethol. 

Cymunedau a staff yn hyderus bod prosesau gwneud penderfyniadau yn deg ac yn gymesur.

 

Amcan 3

Mynediad, Ymgysylltu a Chydlyniant: Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymateb i safbwyntiau, profiadau ac anghenion pobl sy’n dweud bod ganddynt nodweddion gwarchodedig, a bod y gwaith a wnawn yn hybu cynhwysiant a chydlyniant.

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen

Amserlen

Sicrhau y gall y cyhoedd ddefnyddio ein gwasanaethau, naill ai’n bersonol neu drwy ddulliau eraill, a’n bod yn darparu safleoedd heddlu y gellir cael mynediad corfforol iddynt.

 

 

 

 

 

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau a’r heriau i bobl o ran defnyddio gwasanaethau neu gymryd rhan mewn plismona lleol.

Adolygu Strategaeth Ystadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu sut y mae’n galluogi mynediad corfforol i safleoedd yr heddlu ac yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 er budd y cyhoedd a’i staff.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gwella hygyrchedd ac archwiliadau ym mhob rhan o’n gwasanaethau a’n hystâd.

Datblygu hyfforddiant ychwanegol i swyddogion a staff fel y gallant ddeall y rhwystrau a wynebir gan ein cymunedau amrywiol o ran defnyddio gwasanaethau plismona lleol a chymryd rhan ynddynt.

 

Amcanion hirdymor

Cyflawni Strategaeth Ystadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn effeithiol, gan hybu cynhwysiant er mwyn darparu safleoedd heddlu y gellir cael mynediad corfforol iddynt.

Sicrhau bod dinasyddion Gwent yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau plismona, cael mynediad at adeiladau, a’u bod yn ymwybodol o’r darpariaethau sydd ar gael. 

Swyddogion a staff yn teimlo y gallant feithrin cydberthnasau ystyrlon â’n cymunedau amrywiol, cael mwy o hyder i adrodd am eu profiadau a chymryd rhan mewn gwasanaethau plismona lleol.

Meithrin cysylltiadau â chymunedau ymylol a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau plismona.

Gwaith y cyfnod cynnar

Datblygu gwaith gyda phartneriaid i ddeall yn well y dulliau lleol o ymdrin â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Adeiladu ar waith presennol i ddatblygu ymhellach ymgysylltiad rhagweithiol a chynhwysol â’n cymunedau ffydd a lleiafrifoedd ethnig. 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio dulliau partneriaeth o ddatblygu ymgysylltiad mwy effeithiol.

 

Amcanion hirdymor

Ein gwasanaethau plismona yn dangos ein bod yn deall anghenion ein cymunedau amrywiol. 

Gwaith partneriaeth yn hwyluso cyfleoedd mwy effeithiol o ymgysylltu â’r  gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’i chefnogi.

Mwy o hyder gan gymunedau lleiafrifol i ddefnyddio gwasanaethau plismona.

Sicrhau bod tensiynau cymunedol yn cael eu nodi’n gynnar ac yr ymatebir iddynt, gan weithio gydag asiantaethau partner i hybu a chryfhau cydlyniant, cynhwysiant ac integreiddio cymunedol.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r gwaith presennol gyda phartneriaid i nodi ble mae trefniadau adrodd a monitro ar waith.  

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn ein galluogi i adeiladu ar y cydberthnasau hyn fel y gallwn ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o ble mae tensiynau cymunedol yn bodoli neu mewn perygl o ddigwydd.

 

Amcanion hirdymor

Sicrhau bod gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn cynnig cyfleoedd i weithredu cynlluniau a gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thensiynau cymunedol ac yn cefnogi cydlyniant a chynhwysiant.

Ymgysylltu â chymunedau i ddeall eu safbwyntiau ynghylch gwasanaethau a thriniaeth plismona er mwyn llywio ein prosesau strategol a’n gwaith o ddatblygu polisïau.

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu a gwerthuso dulliau ymgysylltu presennol i nodi lle mae tangynrychiolaeth yn bodoli. 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn ein helpu i ddatblygu ymhellach ein dulliau ymgysylltu, a fydd wedi eu llywio gan y Cydstrategaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dulliau gweithredu a’n cynlluniau ymgysylltu yn gynhwysol ac yn hygyrch i’r holl nodweddion gwarchodedig.

Gweld rhagor o ymgysylltu ymhlith cymunedau lleiafrifol a’r rhai â nodweddion gwarchodedig heb gynrychiolaeth  ddigonol.

 

Amcanion hirdymor

Gweld newidiadau clir yng nghanlyniadau ein gweithgareddau ymgysylltu sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu ac o adolygu ein prosesau datblygu polisi a strategol.

Cymunedau’n gweld ac yn teimlo bod y newidiadau’n cael eu gweithredu o ganlyniad i’w hymgysylltiad a’u sylwadau.

Hybu ac ymgorffori’r egwyddor, pan fo plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â’n gwasanaethau neu yr ymgysylltir â nhw gan ein gwasanaethau, eu bod nhw’n cael eu trin yn unol â’u hoedran.

 

Gwaith y cyfnod cynnar

Ailsefydlu gwaith cynharach er mwyn datblygu dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer plismona yng Ngwent. 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd gwaith y cyfnod cynnar yn llywio gwaith ychwanegol a’r canlyniadau sydd eu hangen i gefnogi’r broses o ddatblygu strategaeth plant yn gyntaf gyffredinol.

 

Amcanion hirdymor

Gweithredu strategaeth ar gyfer Gwent sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau bod pob agwedd ar waith strategol a gweithredol yn dangos dealltwriaeth o’r gofynion ar gyfer llwyddiant.

Mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n fwy hyderus i ymgysylltu â phlismona a gwasanaethau chymorth.

Prosesau a threfniadau cyfiawnder troseddol yn cydnabod ac yn darparu ymyriadau a chymorth priodol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin yn unol â’u hoedran.

Gweithio gyda phartneriaid i gynnal a gwella dulliau o ymdrin â’r Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl.

Gwaith y cyfnod cynnar

Meincnodi’r gwaith presennol gyda phartneriaid i ddeall effaith y darpariaethau cyfredol ar bobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd gwaith y cyfnod cynnar yn llywio lle mae angen gwella’r darpariaethau iechyd meddwl cyfredol a bydd yn cefnogi’r broses o ddatblygu mentrau ychwanegol ar draws plismona. 
Dylid ystyried cynaliadwyedd y trefniadau presennol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth lle nodir canlyniadau cadarnhaol.

 

Amcanion hirdymor

Drwy waith partneriaeth effeithiol, byddwn yn nodi ac yn rhoi ar waith gyfleoedd i gynnal a datblygu gwasanaethau iechyd meddwl cydweithredol ymhellach.

Pobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn dweud y teimlant eu bod yn cael eu cefnogi a’u trin yn unol â’u hanghenion.

Gweithredu a chefnogi strwythur newydd Grŵp Cynghori Annibynnol a Grwpiau Cydlyniant Cymunedol i wneud y mwyaf o gysylltiadau cymunedol a galluogi her allanol ehangach i’n gwaith.

Gwaith y cyfnod cynnar

Cwblhau’r strwythur a’r cynllun gweithredu newydd ac ymgorffori’r ddau yn y Grŵp Cynghori Annibynnol.

Dechrau prosesau recriwtio yn unol â’r cynlluniau ailstrwythuro.

Datblygu cynlluniau i greu Grwpiau Cydlyniant Cymunedol er mwyn ehangu cyfranogiad y gymuned mewn prosesau craffu ac ymgysylltu.

 

Amcanion tymor canolig

Yr aelodau’n cael sesiynau gwybodaeth rheolaidd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u heffeithiolrwydd wrth gymryd rhan. 

Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gweithio i sicrhau’r ymgysylltiad a’r cyfranogiad mwyaf posibl ar draws ein gweithgareddau gan aelodau Grŵp Cynghori Annibynnol, sydd wedi eu halinio â Chynllun Gweithredu'r Grŵp Cynghori Annibynnol.  

 

Amcanion hirdymor

Aelodau’r Grŵp Cynghori Annibynnol yn rhan o’n prosesau craffu, sy’n darparu cymorth a her allanol o safbwynt cymunedol.

Adborth o ffurflenni’r Grwpiau Cydlyniant Cymunedol yn cael ei ymgorffori yn ein prosesau ymgysylltu â’r gymuned ac yn rhan o strwythur Grŵp Cynghori Annibynnol cryf, effeithiol sydd â thair haen.

Sicrhau bod gwasanaethau dioddefwyr yn ystyried a, phan fo hynny’n briodol, yn cefnogi’n weithredol anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig.

Gwaith y cyfnod cynnar

Gweithio i ddeall y rhwystrau i ddioddefwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i ddefnyddio gwasanaethau i ddioddefwyr.

Gweithio gyda gwasanaethau a gomisiynir a phrosesau comisiynu i nodi a gweithredu lle mae angen gwelliannau.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd gwaith y cyfnod cynnar yn nodi gweithgareddau ychwanegol sydd eu hangen i ddatblygu gwasanaethau prif ffrwd cynhwysol a, phan fo angen, bydd gwasanaethau penodol i unigolion sy’n nodi bod ganddynt nodweddion gwarchodedig penodol.

 

Amcanion hirdymor

Gwasanaethau a gomisiynir yn dangos ymgysylltiad effeithiol ag unigolion ar draws y nodweddion gwarchodedig.

Connect Gwent yn cael cefnogaeth effeithiol i ddarparu cymorth priodol i bawb sy’n dioddef troseddau, yn ôl yr angen unigol.

Dioddefwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn fodlon yn gyson â’r gwasanaeth a’r cymorth a gânt.

 

Amcan 4

Creu Gweithlu Cynhwysol a Hybu Tegwch: Gweithio tuag at weithlu cynrychioliadol a diwylliant gweithle cynhwysol, a sicrhau bod pawb sy’n gweithio i Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu trin yn deg a heb wahaniaethu.

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen

Amserlen

Datblygu ac ymgorffori dulliau effeithiol o gynyddu amrywiaeth y gweithlu, gan gynnwys cadw a datblygu staff presennol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu meincnodau effeithiol a gwella’r gwaith monitro a chraffu ar gyfer Strategaeth Gweithlu Cynrychioliadol Heddlu Gwent a phrosesau recriwtio a dyrchafu.

Nodi rhwystrau wrth weithio i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio newidiadau i’n dulliau recriwtio a gwybodaeth.

Sicrhau bod data amrywiaeth sefydliadol yn cael eu cyhoeddi i ddangos tryloywder yn ein prosesau a gwelliannau o ran cynrychiolaeth.

 

Amcanion tymor canolig

Ymgorffori dulliau diwygiedig o graffu a chymhwyso prosesau yn effeithiol. 

Adolygu’r ymrwymiadau presennol i gynrychioli’r gweithlu yn y broses o gynllunio’r Heddlu a’r Cynllun Troseddu ochr yn ochr â’r Strategaeth Gweithlu Cynrychioliadol i sicrhau bod y sbardunau allweddol yn cael eu hystyried a’u hadlewyrchu’n briodol.

 

Amcanion hirdymor

Gweithlu mwy cytbwys ym mhob rhan o’r strwythur rhengoedd sy’n cynrychioli poblogaeth Gwent ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Cyflawni a goruchwylio’r gwaith o gyflawni Strategaeth Gweithlu Cynrychioliadol yn effeithiol.

Ystyried sut y gellir ymgorffori cydraddoldeb wrth recriwtio aelodau annibynnol a gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio pobl o gymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Gwaith y cyfnod cynnar

Datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth gyfredol ein gwirfoddolwyr a’n haelodau annibynnol a lle bo’r rhaglenni presennol yn hybu cydraddoldeb a chynhwysiant.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd gwaith y cyfnod cynnar yn nodi cynlluniau tangynrychiolaeth a chymorth er mwyn cynyddu cynhwysiant. Bydd ymgysylltu a chyfathrebu gweithredol â chymunedau yn helpu i godi ymwybyddiaeth o swyddogaethau a chyfleoedd gwirfoddoli ym mhob rhan o’r ddau sefydliad.

 

Amcanion hirdymor

Amrywiaeth yr ymgeiswyr ar gyfer swyddogaethau gwirfoddoli ac aelodau annibynnol yn cynyddu, gan gefnogi prosesau recriwtio mwy cynhwysol ar draws y nodweddion gwarchodedig.

Rhaglenni gwirfoddolwyr ac aelodau annibynnol yn cynrychioli ein cymunedau amrywiol yn well.

Adeiladu ar ein hymrwymiadau i gyflog, triniaeth a chyfle cyfartal ym mhob rhan o’n sefydliadau i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn deg.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sicrhau bod prosesau adolygu bylchau cyflog presennol Heddlu Gwent yn effeithiol ac yn darparu data cadarn i nodi a chefnogi gwelliannau.

Dechrau ar y gwaith o adolygu perfformiad cyflog rhwng y rhywiau yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu er mwyn darparu meincnod i’r sefydliad.

Dechrau gweithio gyda Chwarae Teg ar degwch yn y gweithle a hybu ymgysylltiad staff â phrosesau.

Sicrhau bod prosesau craffu ar gyfer cwynion, yn enwedig mewn cysylltiad â bwlio, aflonyddu, a/neu gamymddwyn rhywiol, yn rhai cadarn ac yn dryloyw ac yn nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag anghyfartaledd ar draws y data.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau gwaith y cyfnod cynnar yn llywio datblygiad a gweithredu cynlluniau gwella.

Adolygu’r ymrwymiadau yng nghynlluniau gweithredu HeForShe i sicrhau bod ein hymrwymiadau’n adlewyrchu ble’r ydym yn dymuno bod yn sefydliadol.

 

Amcanion hirdymor

Ein sefydliadau yn cael eu hystyried yn gyflogwyr delfrydol sy’n hybu cydraddoldeb a thegwch ac yn gwerthfawrogi eu gweithlu.

Adroddiadau ar fwlch cyflog cyfartal yn darparu tystiolaeth o ble’r ydym wedi mynd ati’n weithredol i leihau unrhyw wahaniaeth yn ein sefydliadau.

Ymchwiliadau camymddwyn yn dangos gwelliant mewn unrhyw wahaniaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig.

Ystyried sut mae ein dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl a lles corfforol yn cyfrannu at well lles a pherfformiad.

Gwaith y cyfnod cynnar

Sefydlu meincnodau data absenoldeb oherwydd salwch sefydliadol yn effeithiol a monitro effaith mentrau iechyd meddwl a lles mewnol sydd ar gael i swyddogion a staff.

Sicrhau ymgysylltiad a chyfathrebu effeithiol wrth hybu’r gallu i elwa ar fentrau iechyd meddwl a lles ar draws ein sefydliadau.

 

Amcanion tymor canolig

Bydd gwaith y cyfnod cynnar yn nodi lle mae angen gwelliannau ac yn cefnogi cynlluniau i fynd i’r afael â bylchau. 

Gwaith craffu effeithiol ar absenoldeb oherwydd salwch ac adborth gan staff yr effeithir arnynt yn cefnogi’r gwaith gwella.

 

Amcanion hirdymor

Staff yn dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod wedi eu grymuso i gael gafael ar gymorth ac i elwa ar fentrau iechyd a lles yn y gweithle. 

Gweithlu gwybodus sy’n meithrin diwylliant yn y gweithle sy’n gefnogol i gyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd eraill a allai effeithio ar unigolion yn ein sefydliadau.  Llai o absenoldeb oherwydd salwch sy’n ymwneud ag iechyd meddwl oherwydd y broses effeithiol o ran nodi a chynnig cymorth yn gynnar i faterion iechyd meddwl.

Ymgorffori prosesau effeithlon sy’n ymgysylltu’n effeithiol â staff i gael sylwadau gonest am eu profiadau wrth weithio i’n sefydliadau.

Gwaith y cyfnod cynnar

Asesu effeithiolrwydd cyfweliadau ymadael er mwyn penderfynu ble y gellid gwneud gwelliannau i brosesau neu brofiadau cyflogeion. 

Ar y cyd â Strategaeth Gweithlu Cynrychioliadol, sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r rhesymau dros gofnodi data sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig fel y gallant annog a rhoi sicrwydd a hyder i unigolion wrth ddarparu gwybodaeth iddynt.

Sicrhau bod prosesau arolygu staff yn darparu canlyniadau y gellir eu dehongli a’u defnyddio’n effeithiol i lywio cynlluniau gwella.

 

Amcanion tymor canolig

Gan adeiladu ar waith y cyfnod cynnar, ymgorffori gwaith i hybu ymgysylltiad rhwng staff sydd â nodweddion gwarchodedig a goruchwylwyr ynghylch unrhyw anghenion cymorth. 

Sicrhau bod cyfarfodydd goruchwylio, un i un, neu adolygiadau datblygu personol yn cynnig cyfle i staff drafod unrhyw faterion sy’n peri pryder iddynt, gan annog yr hyder i wneud hynny.

 

Amcanion hirdymor

Swyddogion a staff yn adrodd am driniaeth deg ym mhob rhan o’n sefydliadau ac yn teimlo eu bod yn gyflogeion sy’n cael eu gwerthfawrogi.

Unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn teimlo eu bod yn cael eu hannog a’u cefnogi i aros a/neu ddatblygu yn ein sefydliadau.

Sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad y staff yn creu ac yn cynnal gweithlu galluog, effeithiol, ymgysylltiol a gwybodus

Gwaith y cyfnod cynnar

Adolygu’r ddarpariaeth dysgu yn y gweithlu, gan gynnwys effaith Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona, er mwyn pennu graddau ac ansawdd hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Sicrhau bod polisïau a phrosesau gwneud penderfyniadau yn asesu’n effeithiol effeithiau gweithgareddau ar draws y nodweddion gwarchodedig.

 

 

Amcanion tymor canolig

Bydd canlyniadau o waith y cyfnod cynnar yn llywio cynlluniau gwella o ran cynnwys ac ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir ar draws ein sefydliadau.

 

Amcanion hirdymor

Gweithlu gwybodus, effeithiol ac ymgysylltiol.

Diwylliant cynhwysol yn y gweithle, a gefnogir gan unigolion sy’n teimlo’n hyderus i herio gwahaniaethu a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth ddod ar eu traws.


Amcanion Cydraddoldeb

2020-2024

Nodweddion Gwarchodedig

Dyletswyddau Cydraddoldeb

Oedran

Anabledd

Ailbennu Rhywedd

 

Crefydd a Chred

Rhywedd

Hil

Cyfeiriadedd Rhywiol

Beichiogrwydd a Mamolaeth

Priodas neu Bartneriaeth Sifil

Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon

Hybu cyfle cyfartal

Meithrin cysylltiadau da

Amcan 1: Cefnogi Pobl sy’n Fregus.  Ymchwilio i gyfiawnder a sicrhau cyfiawnder am droseddau sy’n cael yr effaith fwyaf ar bobl fregus, gan sicrhau cymorth effeithiol i ddioddefwyr.

Cynyddu’r lefelau adrodd am droseddau a digwyddiadau sy’n effeithio ar bobl sy’n fregus, ac yn enwedig y rhai mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

 

 

 

Datblygu trefniadau monitro a chraffu effeithiol o ran cofnodi ac ymchwilio i droseddau sy’n effeithio ar bobl sy’n fregus

 

 

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynyddu cyfradd y canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr drwy ymchwiliadau effeithiol gan yr heddlu a threfniadau partneriaeth cyfiawnder troseddol ehangach

 

Darparu ymyriadau a gwasanaethau cymorth cynaliadwy o ansawdd uchel yn gyson i ddioddefwyr a phobl sydd mewn perygl

 

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i nodi gwell iechyd meddwl a lles fel canlyniad gwaith ymyrraeth gynnar ac atal

 

Amcan 2: Cyfreithlondeb a Thegwch. Sicrhau bod Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cyflawni eu gweithgareddau mewn ffordd sy’n gymesur ac yn anwahaniaethol ac yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng cymunedau a phlismona.

Bod yn dryloyw a rhoi sicrwydd ynghylch y defnydd o bwerau’r heddlu, gan gynnwys stopio a chwilio, defnyddio grym, dalfa’r heddlu, a chwynion

 

 

 

 

Ymgysylltu â’n cymunedau, a’n cymunedau ieuenctid a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig, er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder ynghylch y defnydd o bwerau’r heddlu a hawliau dinasyddion

 

 

 

 

 

Gwneud defnydd effeithiol o ddatrysiadau eraill i leihau nifer y bobl sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf, yn enwedig ar gyfer plant a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig

 

 

 

 

Sicrhau bod y Fframwaith Perfformiad Sefydliadol yn cofnodi gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig yn effeithiol, er mwyn rhoi sicrwydd o wasanaethau a gweithgareddau effeithiol a chynhwysol

 

 

Sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau, gan gynnwys fetio, yn deg, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ystyried effaith eu canlyniadau

Amcan 3: Mynediad, Ymgysylltu a Chydlyniant. Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymateb i safbwyntiau, profiadau ac anghenion pobl sy’n dweud bod ganddynt nodweddion gwarchodedig, a bod y gwaith a wnawn yn hybu cynhwysiant a chydlyniant.

Sicrhau y gall y cyhoedd ddefnyddio ein gwasanaethau, yn bersonol neu drwy ddulliau eraill, a’n bod yn darparu safleoedd heddlu y gellir cael mynediad corfforol iddynt

 

 

Meithrin cysylltiadau â chymunedau ymylol a chymunedau heb gynrychiolaeth  ddigonol er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau plismona

 

 

Sicrhau bod tensiynau cymunedol yn cael eu nodi’n gynnar ac yr ymatebir iddynt, gan weithio gydag asiantaethau partner i hybu a chryfhau cydlyniant, cynhwysiant ac integreiddiad cymunedol

 

 

Ymgysylltu â’n chymunedau i ddeall eu safbwyntiau ynghylch gwasanaethau a thriniaeth plismona er mwyn llywio ein prosesau strategol a’n gwaith o ddatblygu polisïau

 

 

Hybu ac ymgorffori’r egwyddor, pan fo plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â’n gwasanaethau neu yr ymgysylltir â nhw gan ein gwasanaethau, eu bod nhw’n cael eu trin yn unol â’u hoedran

 

 

 

 

 

 

 

Gweithio gyda phartneriaid i gynnal a gwella dulliau o ymdrin â’r Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl

 

 

Gweithredu a chefnogi strwythur newydd Grŵp Cynghori Annibynnol a Grwpiau Cydlyniant Cymunedol i wneud y mwyaf o gysylltiadau cymunedol a galluogi her allanol ehangach i’n gwaith

 

 

Sicrhau bod gwasanaethau dioddefwyr yn ystyried a, phan fo hynny’n briodol, yn cefnogi’n weithredol anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig

 

 

Amcan 4: Creu Gweithlu Cynhwysol a Hybu Tegwch. Gweithio tuag at weithlu cynrychioliadol a diwylliant gweithle cynhwysol, a sicrhau bod pawb sy’n gweithio i Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu trin yn deg a heb wahaniaethu.

Datblygu ac ymgorffori dulliau o gynyddu amrywiaeth y gweithlu, gan gynnwys cadw a datblygu staff presennol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

 

 

 

Ystyried sut y gellir ymgorffori cydraddoldeb wrth recriwtio aelodau annibynnol a gwirfoddolwyr, gan gynnwys recriwtio pobl o gymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol

 

 

 

Adeiladu ar ein hymrwymiadau i gyflog, triniaeth a chyfle cyfartal ym mhob rhan o’n sefydliadau i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn deg

Ystyried sut mae ein dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl a lles corfforol yn cyfrannu at well lles a pherfformiad

 

 

Ymgorffori prosesau effeithlon sy’n ymgysylltu’n effeithiol â staff i gael sylwadau gonest am eu profiadau wrth weithio i’n sefydliadau

Sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad y staff yn creu ac yn cynnal gweithlu galluog, effeithiol, ymgysylltiol a gwybodus