Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), i wella gwaith partner rhwng gwasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent:

Mae pob Bwrdd yn cynnwys aelodau statudol ac aelodau gwahoddedig. Yr aelodau statudol yw: awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, awdurdodau Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru; mae'r aelodau gwahoddedig yn cynnwys gweinidogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, prif gwnstabliaid, y gwasanaethau prawf, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a sefydliadau gwirfoddol.

Mae'r Comisiynydd a'i Swyddfa'n mynychu cyfarfodydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Ngwent, yn cydweithio gyda phartneriaid i hybu diogelwch cymunedol a chefnogi gwaith sy'n cyflawni'r pum blaenoriaeth yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Am ragor o wybodaeth am gyfarfodydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi, ewch i https://gov.wales/public-services-boards.